Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Y RHOSYN A'R LILI.
Y RHOSYN A'R LILI. Wridog rosyn I Mae dy foch Megis dillyn Felfed ooch Pwy a'th dyfodd Rosyn bach ? Pwy a'th wridodd Di mor iach ? Ond mae Ngweno Rosyn prid, Yn dy guro Gyda'i gwrid. Tithau'r lili Fawr dy fri, Gwylaidd weni Arnaf fi Pwy fu'n rhoddi Gwyn di-ail Fel goleuni Rhwng dy ddail ? Ond dy guro'n Wir, mae Gwen," Gyda'i chalon Wylaidd, w&n. JLIansannan. Trbboe A&eb. =—.
AFON YSTWYTH.
AFON YSTWYTH. Ganwyd Ystwyth loew, Ion, Ar uchel fron y mynydd, Sua ei murmurol don Yn gyson rhwng y creigydd. Gado wna y swynol gryd A ddeil o hyd i'w chynal, Ar ei thaith ymlifa'n glyd I f6r y byd trwy'r anial. Daw cornentydd gyda hwyl Yn wyl i chwyddo'i thonau, Unant oil i gadw gwyl Yn anwyl ar ei bronau. Rhwng mynyddau ar eu hyd Ei bywyd ymeanga Ger ei thon mae gemau drud A chyfoeth byd chwanega. Lawr i'r ewm yn drwm y daw Gan ruaw rhwng ei glenydd, Heria nerth y gwynt a'r gwlaw A di-fraw a drwy'r dolydd. Mwnau hael a roddant fri I'r afon gu ddolenog, 1 Llechu ger ei dyfroedd cry' Yn hy' wna'r gemau gwridog. Yn ei lli ni chaf yn bod Y pysgod yn ugeiniau Daw amhuredd erch ei n6d A'i ddyrnod o'r mwngloddiau. Yn Llanafan teg y caf Anwylaf heirdd lanerchau, Canaf i'r dyffrynoedd braf Mae'n haf ar hyd eu bronau. Teithia y gerbydres glyd Ar hyd ei swynol lanau, Cluda'i rhan 0 gynyrch drud Y byd i'r pell ororau. Heirdd balasau yma gaf Yn braf addurno'r meusydd, Gwenant fel rhosynau haf Dianaf ar ei glenydd. Croesa hon y Crosswtod deg Bob adeg yn y flwyddyn, Eirian wedd y dyffryn chweg Sy'n anrheg ddi-bysgodyn IlILr tlws a'i goedydd lion Yn gyson wna'i chysgodi, Llifa'n glir o dan ei fron Rhwng eigion y clogwyni. Saif palasdy Abermad Ar Ian y f&d afonig Sy'n rhoddi'n hael o i dyfroedd rhad, I dir y wlad sychedig. Braich y Lloer a egyr ddor Yr êang for yn esmwyth, A melus mwy i glust yr lor Fydd deuawd mor ac Yatwyth. Willesden. LLINOS WYRE.
Advertising
MR. MADOC DAVIES, A.R C.M. GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS- 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL. Great Western & Metropolitan Dairies. (LIMITED, With which are amalgamated the Great Western Farm Dairies Company. Ltd. And the Metropolitan and Suburban Milk Supply Association, Limited. J. P. HODDINOTT") WILLIAM PRICE > Managing Directors. J. HOPKINS ) Head Offioe- 9, Harrow Road, Paddington Branch Office- 169, WALMER ROAD, NOTTING HILL, and at G.W.R., PADDINGTON, L. & N.W.R., KILBURN and EUSTON; G.C.R., MARYLEBONE ¡ Analyst: Professor A. W. STOKES, F.I.G., F.O ¡ This Company is in a position to supply Dairymen in any part of London with first-class Dairies well- cooled Milk in large or small quantities at reasonable iprices. Wholesale Vans to all Parts of London and Suburbs twice daily. For a SUPPLY of GUARANTEED PURE MILK apply as above. Telephone- No. 229 Paddington and No. 199 Paddington. Telegraphio Address-" Farmership, London." ( Ar y Gwyliau! I Llyfrau i'w Darllen. "HEN DDEWINIAID CYMRU" (GAN PENARDD). Yn llawn straeon am yr hen ddewinwyr Cym- j reig, ynghyd a'u hanes, wedi eu casglu o hen lawysgrifau a llyfrau anghyhoedd. Pris 61- (Nis argraffwyd ond 50 o gopiau o'r gwaith). GWEITHIAU ELFED. YN GYMRAEG. Cofiant Dr. Herber Evans ¡ 3/6 (nett) Planu Coed a Phregethau Ereill. 3/6 Caniadau Elfed, Cyfres i a 2, 1 yr un wedi eu cydrwymo, 3/- Athrylith Ceiriog, ll- YN SAESNEG. Life of Dr. Herber Evans (Hodder & Houghton 6/- (4/6). Sweet Singers of Wales (Religious Tract Society 2/6. My Christ and other Poems, 2/- (cloth). P few copies only remain, STORIAU CYMRAEG GAN W. LLEWELYN WILLIAMS, B.C.L. Y Storiau mwyaf darllenadwy sydd eto wedu ei hysgrifenu yn nhafodiaith y Deheudir." GWILYM A BENNI BACH PRIS SWLLT. Cyhoeddedig gan HUGHES a'i FAB, Gwrecsam. Hanes dau o'r cymeriadau mwyaf doniol a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin erioed. Y mae yn werth ei darllen." GWR Y DOLAU NEU FFORDD Y TROSEDDWR. PRIS SWLLT. Cyhoeddedig gan GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL, GYMREIG, CAERNARFON. I'w cael yn Llundain gan W. H. ROBERTS, 10, CECIL COURT, CHARING CROSS RD.
PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.
•chofiias i ddim gwneyd apology, naddo wir. Ma's buo i wetyn fel ffwl boiti'r hewl. Etho lan i'r Monument a fe geso'r fraint o dalu tair ,-cinog am ga'l hwsi'n dyteri a thynu'n hanal "feI scwarnog wrth gyrhadd y top. Wetyn, ar "ol dod lawr, etho lan i'r Tower. Gato'n pawb odd na ddim i weld ond dynoi a menwod yn cysgu a lot o hen gyllyth a chledde a phetha fel 'ny. Ond yn y nos fachan Fuas yn holi am yr Electric Railway, a'i ffindas hi yn y diwadd, a fe gymeras dicat 'run peth a wedast ti i'r Marble Arch. Ma'r liffts yna yn gampus, fachan, i safio scitsha dyn yn lie cerddad! A'r cwshins hefyd, fachan! O'n i'n cretu mod i mwn palas. Wei, wel," mydda fi, dyma hi mydda fi dym% hi" mydda fi •" DYMA HI" mydda fi, a phobpath am ddwy g'mog!" Ond, dyna surprise geso i ar ol dod i'r diwadd, a mynd lan a chroesi'r hewl a miwn i'r pare. Odd na swn rhywrai'n canu "0, -fryniau Caersalem." O'n i'n ffili diall ba angladd neb yr amsar hyny-wath odd hi'n fwllu. Mla'n a fi ta pun, a 'na lie odd twp mawr o fechgyn a merched yn canu. 'Nawr wy'n lico joc, ond gwed ti beth fyni di am -Gymry Llunden, nid joc yw canu comic songs ar ol emyna Williams Pantycelyn. Ma ter- fyna i bobpath. A wy i byth yn lico gweld Cymry yn bihafio fel dynon weti hanar medd- wi. Dyna odd y trwp yma yn neyd-bechgyn »a merchad-a fe droias i bant rhag- cyw- ilydd. Ond gad i ni atal hwna'n llonydd. Gwed tho i beth yw ystyr a gan a git at." Dywedais mai dull dosbarth neillduol o Lundeinwyr oedd y termau hyn o ddyweyd go on a get out." "Oho I" nodai Iago yn chwareus, a rwpath yn depyg i fopol Llanelli yn gweyd 1 shwd fi ••fe' yn He shwd ych chi,' a cerw tsha thre yn lie cerwch gartra.' Ond 6s isha i nhw Adod i Gwm Rhondda i ddysgu wilia'n sawn T. R.