Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y RHOSYN A'R LILI.

AFON YSTWYTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AFON YSTWYTH. Ganwyd Ystwyth loew, Ion, Ar uchel fron y mynydd, Sua ei murmurol don Yn gyson rhwng y creigydd. Gado wna y swynol gryd A ddeil o hyd i'w chynal, Ar ei thaith ymlifa'n glyd I f6r y byd trwy'r anial. Daw cornentydd gyda hwyl Yn wyl i chwyddo'i thonau, Unant oil i gadw gwyl Yn anwyl ar ei bronau. Rhwng mynyddau ar eu hyd Ei bywyd ymeanga Ger ei thon mae gemau drud A chyfoeth byd chwanega. Lawr i'r ewm yn drwm y daw Gan ruaw rhwng ei glenydd, Heria nerth y gwynt a'r gwlaw A di-fraw a drwy'r dolydd. Mwnau hael a roddant fri I'r afon gu ddolenog, 1 Llechu ger ei dyfroedd cry' Yn hy' wna'r gemau gwridog. Yn ei lli ni chaf yn bod Y pysgod yn ugeiniau Daw amhuredd erch ei n6d A'i ddyrnod o'r mwngloddiau. Yn Llanafan teg y caf Anwylaf heirdd lanerchau, Canaf i'r dyffrynoedd braf Mae'n haf ar hyd eu bronau. Teithia y gerbydres glyd Ar hyd ei swynol lanau, Cluda'i rhan 0 gynyrch drud Y byd i'r pell ororau. Heirdd balasau yma gaf Yn braf addurno'r meusydd, Gwenant fel rhosynau haf Dianaf ar ei glenydd. Croesa hon y Crosswtod deg Bob adeg yn y flwyddyn, Eirian wedd y dyffryn chweg Sy'n anrheg ddi-bysgodyn IlILr tlws a'i goedydd lion Yn gyson wna'i chysgodi, Llifa'n glir o dan ei fron Rhwng eigion y clogwyni. Saif palasdy Abermad Ar Ian y f&d afonig Sy'n rhoddi'n hael o i dyfroedd rhad, I dir y wlad sychedig. Braich y Lloer a egyr ddor Yr êang for yn esmwyth, A melus mwy i glust yr lor Fydd deuawd mor ac Yatwyth. Willesden. LLINOS WYRE.

Advertising

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.