Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
.,0 Heb Genedlaetholdeb, heb Gelf, heb Hanfod- aeth, heb Fywyd, heb Ddim." CYMDEITHAS Y BRYTHONWYR (SEFYDLWYD CHWEF. 1901.) CYMDEITHAS WERINOL I DDATBLYGU CYMREIGAETH. Oynlielir Cyfarfodydd y Gym- deithas hon bob yn AIlL NOS IA U, YN 63, Chancery Lane, (ARBITRATION ROOM) Am 8 o'r gloch yn brydlon. Am fanylion ynghylch Aelodaeth, &c., ym- oheber a'r Ysgrifenyddion, Mr. J. WINTON EVANS, 98, Marlborough Road, Brompton Road, S.W. Mr. G. GRIFFITHS, 42, King's Road, Chelsea, S.W. CYHOEDDIADAU Y GYMDEITHAS. iI. H Ymneillduaeth a Bywyd Cenedlaethol Cymru." Gan y Parch. J. MACHRETH REES .2. "Cenhadaeth Cymru." Gan W. LLEWELYN WILLIAMS, Ysw., B.C.L. 3. "Talhaiarn." Gan TREBOR ALED. 4. Y Cymro Llenyddol." Gan y Parch. J. MACHRETH REES Pris ic. yr un. Y 4 drwy y post 6c. Oddiwrth yr Ysgrifenyddion, neu o SWYDDFA'R CELT, 21 I, GRAY'S INN ROAD, LONDON, W.C. I HUGH DAYIES'S I COUGH MIXTURE i NO MORS Difficulty of Breathing. N I NO MORE Sleepless Nights. M '-fi NO M ORB Distressing Coughs. ? I DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS a! 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS B I DAVIES'S COUGH MIXTURE for ASTHMA M I DAVIES'S COUGH MIXTURE for BRONCHITIS N i DAVIES'S COUGH MIXTURE for HOARSENESS B 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for INFLUENZA N 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS 1 DAVIES'S COOGH MIXTURE for COUGHS I DAVIES'S COUGH MIXTURE for SORE THROAT N 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE—Most Soothing m DAVIES'S COUGH MIXTURE warms the Chest jg DAVIES'S COUGH MIXTURE dissolves the Phlegm g DAVIES'S COUGH MIXTURE-for SINGERS !B DAVIES'S COUGH MIXTURE-for PUBLIC B DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS H v THE GREAT WELSH REMEDY. g 13Id. and 2/9 Bottles. Sold Everywhere. Sweeter than Honey. Children like it. a8 HUGH DAYIES, Chemist, MACHYNLLETH. London Agents- Mr. R. THOMAS, Chemist, Upper Baker Street. Mr. H. MORGAN, „ 34, Tavistook Place Mr. EDW. JONES" 232, Kilburn Lane, "W
CYFRIFOLDEB CYMRU.
CYFRIFOLDEB CYMRU. Er fod ein Seneddwyr wedi myned ar eu gwyliau, a dorau Ty'r Cyffredin wedi eu cau am rai wythnosau, nid tymhor o dawelwch yw y dyddiau hyn yn y byd gwleidyddol. Y mae'r holl gylchoedd crefyddol-Ymneullduol ac Eglwysig-wedi eu cynhyrfu drwodd ac ni welwyd y fath frwdfrydedd er's blynyddau ynglyn a'r gwahanol gymdeithasau partiol a welir ar hyd a lied y wlad. Y rheswm blaenaf am hyn, yn ddiau, yw y Mesur Add- ysg a adawyd ar haner ei ymdrin ond y mae cysylltiadau ereill yn dechreu dylanwadu, a sicr yw y gwelir cyn bo hir gryn gyffro ynglyn a nifer o faterion gwladol os na cheir rhyw gyfnewidiadau pwysig yn ein cyfundrefn lyw- odraethol. «■ Hyd derfyn y rhyfel diweddar, unig bwnc y gwleidyddwr proffesedig oedd, Ai cyfiawn ai anghyfiawn y rhyfel?'' Dibynai y cyfan ar y pwnc yna, a mawr fu'r curo tabyrddau ar darian gwladgarwch, gan dystio fod neb a gondemniai y rhyfel yn elyn i'w wlad ac yn fradwr i'w dylwyth. Llwyddodd y Weinydd- iaeth i gadw gwybodaeth wleidyddol y wlad i'r cylch cyfyng hwn ond erbyn heddyw, y mae'r cyfan wedi darfod, a'r cwestiwn yn awr yw, sut i gadw yr etholwr dan draed a pha fodd i'w hudo i gadw ei olwg ar faner Prydain a mawredd y rhai a reolant y Senedd ar hyn o bryd. « Oddiwrth yr engreifftiau ofnadwy a gaed yn yr etholiadau yn ddiweddar, nid yw y wlad yn rhyw foddhaus iawn ar y sefyllfa wleid- yddol. Gyrodd Leeds y Tori i'w le ei hun, a gwnaeth Sevenoaks wrhydri arall gan ysgubo yn agos i bedair mil o bleidleisiau i ddifan- coll ac os ceir rhagor o engreifftiau o'r nodwedd yna, bydd cyflwr y blaid drahaus bresenol yn resynus i'r eithaf, a bydd eu cefnogwyr yn Nhy'r Cyffredin yn sicr o laesu dwylaw a throi i gondemnio y diilliau rhyfedd presenol o reoli trwy drais ac anghysondeb. Ac os yw yr etholaethau Seisnig fel hyn yn codi eu lief a'u llais, pa beth a ddylai Cymru wneyd o dan yr amgylchiad ? » Gwir fod Cyngor Sir Arfon wedi pasio penderfyniad pwysig; ond, a oedd y pender- fyniad hwnw yn nodwedd amlwg o farn gywir yr aelodau ar y Mesur Addysg ? Ofer yw i ni basio penderfyniadau gweigion, os nad ydym fel gwlad yn barod i'w cefnogi hyd yr eithaf; ac os yw y Cyngor yn barod i lynu wrth yr hyn a addawa, yna bydd dyfodol y Mesur Addysg yn anffodus iawn, a cheir cryn drafferth cyn byth y gellir ei wthio ar genedl wrthwynebus iddo-fel y dylai Cymru fod. Ond beth am y deuddeg sir arall ? Ai nid ydynt hwy oU yn barod i uno yn y gad- gyrch yma o blaid cyfiawnder a rhyddid, yn ogystal a chynrychiolaeth deilwng ynglyn a threthiant cyhoeddus ? Galfasem feddwl mai y gwaith cyntaf ganddynt fuasai pasio penderfyniadau cryfion a phendant ar y pwnc, a rhoddi ar ddeall yn ddigon croyw nad yw Cymru Ymneullduol yn myned i aberthu ei hegwyddorion ar draul cael gwell rheolaeth ar ran o'i haddysg, ac nad ydyw'r Mesur hwn yn cyfarfod o gwbl a'n gofynion arbenig ni fel cenedl ag addysg deg a thrylwyr i blant gwledig Cymru. Y mae'n rhaid i ni godi ein cri yn unol a chadarn, a goreu po gyntaf i'n Cynghorau Sirol gymeryd y mater i'w dwylaw. 0 < O'r ochr arall, ai nid yw ein heglwysi Ymneullduol yn lied hwyrfrydig yn eu sym- I udiadau gyda'r perygl hwn ? Bydd eu colled hwy yn fawr os na roddant gam ymlaen ar unwaith er atal y Mesur i ddod yn ddeddf, a'r ffordd effeithiolaf i wneyd hyn yw trwy gael cynhadleddau ymhob cylch ac egluro y Mesur a'i anhegwch i bob etholwr, fel pan ddei yr adeg y gall y wlad godi fel un gwr o blaid iawnder a thegwch, a hyny mor nerthol fel y bydd raid i Balfour a'i ach roddi clust o wrandawiad i lais Cymru mewn mater mor agos i'w llwyddiant a'i dyfodol a hwn. ot Nid oes amser i golli. Na ddisgwylier ar i'n haelodau Seneddol gymeryd y flaenoriaeth yn hyn o bwnc. Mae ganddynt hwy eu gwaith i'w gyflawni yn y Senedd, a gwnant ef yn dda ond i ni roddi y gefnogaeth ddyladwy iddynt yn awr. A'r ffordd oreu i roddi y gefnogaeth hono yw trwy danio y genedl yn erbyn y Mesur hwn ac yn erbyn y duedd bresenol o osod holl feichiau y mawrion ar ysgwyddau y tylawd a'r gweithiwr cyffredin. Dangoswn ein bod fel cenedl eto'n fyw ac yn effro i bob galwad o blaid rhyddid ac uniondeb.
[No title]
Dydd Sadwrn cymerodd amgylchiad dydd- orol le yn Chwarel Cwmni y Welsh Granite (Cyf.) yr Eifl, Llaaelhaiarn. Gwnaed twnel i graig am y pellder o driugain troedfedd. Tyllwyd ymhellach i'r dde a chwith am haner can' llath. Mewn dau o'r lleoedd yr oedd pum' tunell o bowdwr gwn wedi ei osod. Yr oedd uchder y graig o'r fan y gosodwyd y powdwr yn gant ac ugain o droedfeddi. Tan- iwyd y twll yn llwyddianus, a bernir fod tua thriugain mil o dunelli o geryg da wedi eu cael. Disgynodd y ceryg yn union y lie yr oedd eu heisiau. Yng Nghapel Methodistiaid Cymreig Aber- earn, ddydd Mercher cyn y diweddaf, dad- orchuddiwyd taflen bres er cof am y diweddar Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer. Rhoed y daflen gan deulu Llanofer. Yr oedd yno gynulliad lluosog. Yn eu plith yr oedd Mr. a Mrs. Herbert, Llanofer; y Cyrnol Ivor Herbert, Miss Florence Herbert, Mr. P. James, Mrs. James, Miss Mabel James, y Parchn. John Evans, Abercarn; J. Pryce, Llanofer; John Rees, Abercarn; a Mr. W. Lewis, Tyla Coch. Codwyd y capel gan Arglwyddes Llanofer, a thalodd bob traul ynglyn ag ef tra bu hi fyw. Ar ei marwol- aeth, trosglwyddwyd yr eiddo i'r Corph. Llywyddid y cyfarfod gan y Parch. J. Evans, a thraddodwyd nifer o anerchiadau- y cwbl yn Gymraeg. Wrth gyflwyno ei fam -yr Arglwyddes Mrs. Herbert—i ddador- chuddio'r gofeb, traddododd y Cyrnol Ivor Herbert anerchiad hyawdl. Cyfeiriodd at ddyddordeb ei daid a'i nain ym mhobpeth Cymreig, a dywedodd fod yr un teimlad yn para yn nheulu Llanofer. Ar y gofeb, y mae argraff yn Gymraeg a Saesneg, i'r perwyl fod y daflen wedi ei chodi er cof am Arglwydd Llanofer, a gododd y capel yn 1858, modd y caffai pobl Abercarn Ie i addoli yn Gymraeg, ac hefyd er cof am Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent), a waddolodd yr eglwys a'i gweinidog, yn 1874, er budd y Cymry a chadwraeth y Gymraeg oedd mor anwyl ganddi hi ar hyd ei hoes.
Advertising
MR. MADOC DA VI ES, A.R C.M. GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS— 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL.