Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CICIO'R BEDYDDWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CICIO'R BEDYDDWYR. Rhyfedd y mwynhad a gaiff rhai personau yn y gwaith o fychanu neu ddiraddio arben- igion enwadau ereill. Os bydd rhyw achos bychan o ddysgyblaeth, neu bwys arbenig yn cael ei roddi weithiau ar gredo neillduol perthynol i ddaliadau un enwad fe geir per- sonau o enwad arall yn barod yn y man, i redeg i'r wasg i bwyntio bys gwawd neu ddiraddiad ar y brcdyr er mwyn ceisio dangos mor rhydd a glan yw'n henwad ni" o rywbeth fel yna. Yr wythnosau diweddaf yma yr ydym wedi cael engraifft arall o hyn. Ym mhapyrau'r Anibynwyr a'r Methodistiaid manteisir ar enw y bardd ieuanc, Ben Bowen, er rhoddi cic i'r Bedyddwyr a'u daliadau. Fe wyddis fod yna gryn wabaniaeth rhwng yr enwadau hyn a'r Bedyddwyr caeth ynglyn a'r pwnc o gymun &c, ac oherwydd fod y Bedyddwyr yn fwy cyson a'u credo na'r un enwad arall, y mae pobl yn barod iawn i daflu ambarch ar eu gwaith. Yr hyn a wreir yn awr yw dyweyd fod Ben Bowen wedi cael ei dori allan o fod yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn ei hen eglwys enedigol. Fel y gwyddis, bu y gwr ieuanc hwn am amser yn Affrica yn ceisio adferiad i'w iechyd, a thra yno ysgriferodd draethawd lied gymysglyd i'r Geninen ar rai o ddaliadau ei enwad. Yr oedd yn eglur i bawb mai ffrwyth meddwl anaddfed oedd yr ysgrif hono, oherwydd yr oedd mor wallus ei ffeithiau ag ydoedd o sal ei hymresymiadau ond cafodd sylw am mai dyn ieuanc talentog, ond afiach, oedd wedi ei chyfansoddi. Ond pan ddaeth Mr. Bowen yn ol ceisir dyweyd nad yw wedi cael y croeso dyladwy gan ei enwad, a'i fod yn teimlo fod yr awdurdodau lleol yn ceisio ei anwybyddu. Dyma ddywed gohebydd lleol mewn newyddiadur Anibynol, a bona fod ganddo seiliau cedyrn i'w ffiloreg. Am ddy- chweliad Mr. Bowen, gofyna u Ond pa fath dderbyniad a gaiff gan ei enwad, a chan yr eglwys ym Moriah, Pentre ? Y lie cyntaf yr aeth iddo ar ei ddychweliad ydoedd Cyrddau Mawr Noddfa (B), Treorci, lie y gweinidogaetha y Parch. W. Morris, D.D. Cafodd glywed yno wr parchedig yn gwneyd cyfeiriadau fel hyn wrth Orsedd Gras :— Diolchai i Dduw am ddwyn y Dr. yn ol yn iach ei synwyrau heb eu hamharu ei ffydd a'i ymlyniad wrth draddodiadau y tadau heb eu siglo-heb osod ei draed ar wddf ordinhadau cysegredig, ac eg- wyddorion gwahaniaethol yr enwad-am ddwyn yn ol o'r America yr un Mr. Morris ag a aeth yno, &c. Nid oedd modd cam- ddeall y cyfeiriadau." Pwy oedd y gwr a geisiai egluro y cyfeir- iadau hyn ? Yn sicr, nid Mr. Bowen ei hunan oherwydd y mae efe yn rhy wylaidd, ac yn meddu mwy o Gristionogaeth, gobeithio, na meddwl y dylid dwyn ei achos a'i ddychweliad ef mor amlwg o flaen Gorsedd Gras. Eto, dywed Y nos Iau cyntaf yr aeth i'r gyfeill- ach, gwnaeth un o'r blaenoriaid rhyw sylwadau ar y diwedd-' Fod yn dda ganddo weled y cyfaill B. B. wedi dych- welyd; yn edrych cystal; gobeithiai ei fod yn teimlo hefyd yn dda; a gobeithiai y cawsai nerth i wneyd llawer o waith dros ei genedl.' Y nos Saboth dilynol yr oedd yn Gymundeb. Aeth Ben yno, wedi 4 holi ei hun.' Gwnaed cyfeiriadau yn ystod y cyfarfod oedd yn eglur i B. B. nad oedd caniatad iddo gyfranogi o'r Ordinhad ond ni ddywedwyd dim gair yn swyddogol wrtho, er ei bod yn ddeall- edig ymhlith y swyddogion, gan dybied yn ddiamheu y buasai B. B. yn cymeryd yr awgrym, ac y buasai y cyfan yn syrthio drwodd. Beth bynag, cyfranog- odd B. B. o'r Ordinhad. Gwelai y gwr ieuanc erbyn hyn fod yr achos yn cym- eryd gwedd ddifrifol a phenderfynol, ac anfonodd gais at yr eglwys am gael cyfle i amddiffyn ei hun, ac egluro ei gredo, naill ai mewn cwrdd cyhoeddus, neu i'r eglwys ddewis dau neu dri o'r dynion penaf i'r pewyl; ond i ddim pwrpas. Y nos Iau dilynol, penderfyncdd yr eglwys 'Ei bod yn girthed Gymundeb i Ben Bowen ac ymhellach, nad oedd i wneyd un sylw mwyach o bono.' Wrth hyn, geilid casglu fed yr yr eglwys yn ymddwyn yn anheg tuagat y gwr ieuanc, a mawr yw'r curo sydd wedi bod ar swyddogion Moriah, Pentre, ar ol i'r stori ymddangos. Ond y ffaith syml yw, nad yw Ben Bowen yn aelod o'r capel o gwbl. Cafodd ei lythyr aelodaeth pan ymadawcdd a'r lie; felly, yn ol rheolau symlaf yr eglwys, nid yw yn aelod o Moriah hyd nes y daw a'i lythyr yn ol a gofyn am gael ei le yn yr eglwys fel cynt. Ond nid er mwyn awyru anhegwch i Ben Bowen y cyhceddwyd y fath adroddiad un- ochrog a chamarwemiol. Eisieu rhoddi cic i'r enwad oedd, a gwneir hyny gan gyfeillicn y bardd ar y draul o'i wneyci. et yn greadur anhawdd ei drin. Ar faterion bychain fel hyn gwell fuasai gadael llonydd iddynt cberwydd diau yr unionir pob anhawsder yn ei amser priodol, a hwyrach, os oes yna wahaniaethau' barn rhwng y gwr ieuanc a'r enwad, y caiff y gwr agoriad llygaid a dysgeidiaeth eglur yn y man, fel, ni a hyderwn, a gafodd oddiar yr ysgrifenodd ei druth i'r papyrau 'slawer dyed ar fryntni a gwaeledd personol cenedl y Boer- iaid.

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.