Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CICIO'R BEDYDDWYR.

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN. IV. AR Y FRAWDLE. Tybiwyf fod pob Cymro, boed ei sefyllfa gymdeithasol, ei ddiwylliant meddyliol, ei gredo crefyddol, neu—a'r hyn sydd benaf beth—boed ei olygiadau gwleidyddol yr hyn a fyno tybiwyf, meddaf, fod pob Cymro yn coleddu syniad o honom ni, Gymry Llundain, sydd yn adlewyrchu nid ychydig glod arnom fel trefedigion parchus, ac sydd hetyd yn bur foddhaol ini fel rhai a ymfalchiant mewn bod yn ail i neb o ran cariad at em hiaith a'n gwlad a'n cenedl. N'ulli secundus: yn yr ystyriaeth hon, ai nid dyna ein harwyddair er's amser, bellach ? Mor ddiball, mor wir garedig yw y pethau ddywedir yn ein cylch o bryd i bryd yn y wasg, yn y pwlpud, ac ar y llwyfan. Diamheu na. cheisid ddim tebyg i gyfundeb barn ar y cwestiwn pa un ai yr y'm yn eu haeddu neu beidio. Ond er hyny, erys y ffaith fod pob Cymro a meddwl uchel- uchel iawn-o honom-pob Cymro, hyny yw, na fu erioed o Gymru. Rhywfodd neu gilydd, am reswm sydd i lawer o honom dipyn yn anysplygol, mae gadael gwlad y bryniau, a dod i wastadedd Llundain a threulio chwe' diwrnod a Sul yn y Brifddinas gyda ni, yn gwasanaethu yn enbydus i ddryllio delw hardd Cymry Llundain yn ddarnau candryll yng ngwyneb ein cyd-wladwyr o'r wlad-ac, ys- ywaeth, ni'n haddolant mwyach. Dychwelant i Gymru gyda'r argyhceddiad an-Nghristion- ogol mae duw Bull-John Bull-yw ein duw ni. I beth, tybed, y gellir priodoli cyfnewid- iad mor gyfrdo? A oes iddo gyfiawnhad? Ai teg yw, ai anheg; ai cywir fel dyfarniad terfynol, ai anghywir ? Gwahoddais farn Iago ar y mater ar ol y Sul cyntaf siriolwyd gan ei bresenoldeb hawddgar yma. Er mwyn gwneyd "wara teg a chwedl yntau, aeth i Groes-y-Brenin at yr Anibynwyr foreu Sul, bu gyda'r Methodistiaid yn Charing Cross y prydnawn-eu cyrddau blynyddol !-ac yn yr hwyr anrhydeddodd Fedyddwyr Heol-y- Castell gyda'i gwmni. Sicrhaodd fi y celsai yr Eglwyswyr Cymreig eu tro hwythau ar ei ymweliad nesaf. (Mewn cromfachau ac o gyfiawnder i Iago dylaswn ddyweyd i'w gyd- wybod gwladgarol (sic) wrthod llonydd iddo ar y pen hwna, ac iddo fyn'd i gyngherdd yn St. Benet's yn yr wythnos). Wele ei farn ef ar ol chwe' diwrnod a Sul-y Sul yn rhag- bwyso. Os oes ynddi ddiffygion, y mae o leiaf yn ddyddorol fel ymddangosiad o'r camgym- eriadau y dynoethir ni iddynt gan rai o'n hymddygiadau anheilwng ni ein hunain-gar:, Seisneg a Seisnigrwydd diraid ein hymddydd.. anion, fel engraifft. Hyn, yn wir, oedd prif gwyn lago. Pregethws da, fachan, yn mhob man;" meddai. 0 ie, 6s dim bai arni nhw. Ma.. nhw'n anrhydadd i chi. Arnoch chi'ch hunen ma'r bai i gyd. Ych chi'n set ddicon piwr a dicon tidi neno dyn, a gobitho bo chi'n rai spectabl hefyd-ucen swllt y bunt. Rhwngot ti a fina, wy'n cretu bo chi." Ond dyma'r point. Beth gofy nai Iago, gan gydio y» ei foustache o bob ochr a siarad yn bwyllog- sydd arnoch chi —— na, wo Un cwestiwn, un gofyniad, welwch chi, nghynta, jest i gal stim lan ma rhaid bod yn giwt. Be sy'n- iawn yn ol gramar wech chincg Sisnag— where was you ne where were you ? O! y dwetha,ifa? Mi gwela hi nawr welwch chi, la wir, trueni mawr iawn am danoch chi." Trueni myddwn, gan dori i fewn ar ymson fy rgbyfaill, "am beth?" "Am beth meddai Iago. "Chretsat t; byth, dyna glwas I un fenyw yn ofyn i un arall tu fas i'r capal heddy: Where was- you ?' mydda hi yn shone reit. O'n i'n timk/n. flin am dani. Wth gwrs, on i'n gwpod wetyrsi achos beth odd) r hen galon bapur fach yn wilia Sisnag yn lie Cymrag—ond taw isba trening odd hi! Wath os bydd dyn yn ithe. bwysa,' ma well da fa wilia iaith i hunan o hyd. Gwranda Wyt ti'n napod crwt bach shop y cornal ? Wel, ma fa yn y County School nawr, a ma fa weti dysgu Hond col- bocs o-French. A gad ifi weyd tho ti ffor ma fa'n ca'l difyrwch. Ma fa'n watsho yn y ffenast am oria bob dydd i ga'l gweld os daw un o'r Mari winwns,' y Britwns wrth gwrs, fr golwg. Ac os digwyddiff un o nhw ddod, ma. Torni bach ar i ol a mwn wmciad, ac yn gwiddu I Boglj'ott?- bonjour Dyna'i stoc a gyd, a mae a bownd o ga'l i arllws a bob cyfla gaiff a. A gwranda to. Wy'n cofio, amsar o'n i'n grwt bach mwn trwsis byr yn ffili nido gwteri y morfa, o'n i'n coti bob dydd gyta'r wawr, welwch chi, i bractiso. Falla be rhai o chitha yma yn coti gyta'r wawr hefyd, i bractiso gweyd gan' a git at' fel y Cocnis, Ond o ddifrif fachan O'n i weti clwad gym- int am danoch chi 'ma nes bo fi braidd yn cretu y basech chi'n tacu y gwr cynta balla, wilia Cwmnig a dyn-a fina'n gofyn yn ddicon neis iddo fa-ddim yn savage o gwpwl. O dim o dy 'sgusion di! Ofynas i i racor na un dyn, a fe'n atepon i'n Sisnag mor wirad a mod i yn y fan 'ma. A Sisnag glwas i gyta chi yn mhob twll a chornal. Shapars i! os- nace taw isha practiso o'n nhw, pam na 'se nhw yn atab yn Gymrâg fel boys yn 'u sensis. Wrth gwrs, falla bod y na sboniad arall i ga'L Wrth ddod nol ar ben y tram, fuo i yn trio" ffindo rwpath i gyfrif am eich lol chi. O'n i'n meddwl witha taw o tarch i'r Sais o'ch chi yn i neyd a, achos bo chi, mwn ffordd, yn i dy fa. Ond wetyn, ma'r ochor hyn i'r cwestiwn,- Welas i ddicon o Sison yn dod i Gardydd i watsho football, a o'n nhw ddim yn lladd 'u, hunen i drio'n mwncia ni; wath ma'r Sais yn acto fel dyn ych chitha'n acto fel baboons, Wy'n cofio'n itha da am garn o Sison odd yn sefyll ar bwys y grand stand. Odd dim shw beth a'u ca'i nhw i weyd yr enwa yn iawn, heb son am wilia. 0 diar, nacodd, allu di fentro dwy ddima ar hyny. Roias i belan fach shone i un o nhw odd yn galw y Rhondda yn Bonda. Odd Ianto bach y Feim yn y fan 'ny ar o pryd. Dim o'ch ronda chi, wr ifanct mydda fi, ne mi'ch ronda i chi mwn dwy fynad.' Parch i bob dyn yn i Ie, yw motto lago Goch machan i, ond dim llawn gwatar o barch i un dyn na 'nifal na phortar na chab- man na mochyn na neb ar gost yr hen wlad. a'n macodd ni, a'r hen iaith fu'n sisial dyn i gwsg yn y cawall siglodd mam. Diws, diws* wy'n hwsi wrth fod yn farddonol, heb wpodv ifi'n hunan. Ond dyna hi, alia i ddim help.