Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y MEISTR A'l WAS. j

Advertising

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Wy i weti ca'l 'n shomi'n fawr yndosh chi a phan dwa i lan to, falla byddwch chi'n pre- -gfethu'n Sisnag, a weti crampo Sims Reeves ne ryw Signor Hebgalieni ne Whiticaligladdu I leto'ch cora chi. Asgwrn cefan 6s da chi ddim fwy o asgwrn cefan na 6'n swcad. Eithafol!! Beth yw dy feddwl di 'chan? Wyt ti ddim yn cydfyn' a nhw, wyt ti ? Nagwyt. 'Dyna o'n ina'n feddwl hefyd. Gwranda am pyn bach nawr. Wyt ti'n gwpoi yn itha da mor bert ma'n ty ni gartra yn disgwl o bell. Wyt ti weti sylwu lawer gwaith, wy'n gwpod, mor didi ma'r plastryn i weld o ben y mynydd. Ond wyt ti'n cofio i ni'n dou ddod lawr gyta'n gilydd unwaith a fina'n dangos y twlla a'r craca a'r spots odd drwsto fa gyd iti ? Fel yna ych chi yma. Ych chi mor lan a merched Rhymni o bell, ych chi mor bert a merched Llanelli-ond ych chi'n i cholli ddi ar bwys. Paid a neyd camsynad nawr ar beth wy'n weyd. Wrth gwrs, a 6s dim isha i ti i ddysgu .a ifi, wy'n gwpod yn itha da nad 6s dim drwg mwn wilia Sisnag. Bendith mawr, nagos! AUwch wilia y Jackatai Tartar mor bellad a ma hyny'n mynd. Ac os da fi ddim gair i weyd yn i erbyn a. Wyt ti'n hollol wybyddus o'r ffaith-dyna ti ramadeg, wy gystal a Hwfa Mon, witha-fod gyta fi gyfrol o Shakespeare yn y ty co, a bo fi yn pyrnu Almanac Hen Fwr-y clwddgi fel ag yw a-bob blwyddyn yn reglar. Ond dyma'r drwg. Os bydi dynon gwybodus ddylsa fod yn diall gwell manars yn mynd i acto fel duffers ac yn fflaban Sisnag rowndabout y lie bod yn true to the colours (wrth gwrs, wy i'n iwsio gira Sisnag achos taw dyffar otw i) 'run peth a O. M. Edwards a John Rhys-dyna ti ddou champion! Ma'r bobol wàn yma-merched yn enwetig-yn mynd i ddilyn 'u shampal nhw, ac yn cretu wetyn, yn 'u anwybodath, ma Sisnag yw iaith y gwyr mawr, a ma rwpath ishlaw yw Cymrag—iaith, cofia di, odd yn ddicon da i Goronwy Owen ac odd yn neyd y tro yn genuine i Tox Ellis-' heddwch iddi lwch a,' weta i." Shapars meddai Iago, gan godi ei ys- gwyddau-arwydd sicr ei fod yn colli ychydig o'i amynedd arferol-" dera a mhib i ma. Reit 1 Nawr cer i ol yr inc. Thenciw A'r pen eto. Thenciw! A phapar. Thenciw, reit! Noswath dda nawr, bant a ti i'r gwely. Wy'n mynd i neyd y ngora i ysgrifenu. Geiff y CELT wpod am hyn—Shapars !"—T. R.