Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y MEISTR A'l WAS. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MEISTR A'l WAS. j ) Yr oeddem yn methu a deall hyd yn ddi- weddar paham yr oedd golygwyr y Cambrian .News yn pleidio achos Arglwydd Penrhyn mor ddyfal ar hyd y blynyddau, ar draul pardduo y gweithwyr a'u cwynion. Erbyn hyn, daw goleuni clir ar y pwnc. Yr wythnos ddiweddaf bu achos o flaen y llys yn Aber- ystwyth a ddangosai yn eglur ymddygiadau'r perchenogion at y gweithwyr yn y swyddfa, ac os mai dyna'r safon a farna Mr. Gibson fel yr un a ddylid ddefnyddio gan feistr tuag at weithiwr, yna nid syndod fod anghydweled- iad ym Methesda, os ei harferir yno hefyd. Cwynai un o flaenoriaid ei swyddfa fod Mr. Gibson y mab wedi rhoddi rhybudd iddo i ymadael, drwy ddyweyd wrtho am fyned i iuffern, a gwysiodd ef am fis o gyflog. Mynai Mr. Gibson nad oedd wedi rhoddi rhybudd i ymadael iddo, ac mai ymadaw ei hunan a wnaeth. Ategwyd hyn gan ddyfarniad y llys, ond ar yr un pryd rhoddasant wers i'r per- chenogion i ddefnyddio gwell iaith yn y dyfodol. Dyma'r ymhonwr o Sais sydd yn ceisio pregethu ar hyd y blynyddau ei iawnder a'i fawrfrydigrwydd, ac yn bychanu gwaith cref- yddwyr ein gwlad; ac eto, wele achos o'i swyddfa ef ei hun sydd yn warth i'r neb a hona fod yn arweinydd moesoldeb i'n cenedl. Nid ydym yn synu, bellach, am ei edmygedd o deyrn fel Arglwydd Penrhyn. «

Advertising

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.