Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

But! y - . A'" cl Gan.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

But! y A'" cl Gan. I Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] L EISTEDDFOD FALMOUTH ROAD. Anfonwyd rhestr y testynau i ni gan Mr. D. R. Hughes, yr ysgrifenydd, ac y mae yn rhestr bur olygus. Cynhelir yr Eisteddfod y tro hwn yn y Queen's Hall, ddydd Mercher, Chwefror y I Sfed, 1903, a chyflwynir yr elw i drysorfa'r organ—amcan teilwng iawn. Mr. G. M'Naught a Dan Price fyddant yn beirniadu'r gerddoriaeth. Y prif ddarn corawl ydyw The Destruc- tion Pompeii "-darn i leisiau gwrywaidd o waith Mr. D. C. Williams, a'r wobr ydyw sop a chwpan. Yn yr ail gystadleuaeth ceir "We never will bow down" (Handel)-i leisiau cymysg. Gwobr 20p. Yr ydym yn edmygu dewrder y pwyligor yn cynyg gwobrwyon fel hyn; a diau y bydd amryw o gorau enwog yn cystadlu ar y prif ddarn. O'n rhan ein hunain, gwell genym wrandaw ar ddau gor cymysg DA na dwsin o gorau meibion, a hyny am ddau reswm: (I) Y mae gwrando ar ddwsin o gorau meibion yn canu yr un darn, yn olynol, yn debyg o flino dyn y mae yn cael y cyfryw ddylanwad arnom ni bob amser fel mai anhawdd yw penderfynu pa faint o les a geir o'r fath orchwyl. (2) Y mae'r Ueisiau yn gorwedd mor glos, mewn darnau gwrywaidd, fel na ellir, bob amser, gael cystal lliwiad cynghaneddol drwyddynt ag a geir mewn darnau i leisiau" cymysg ac y mae rhyw swyn yng ngwahaniaeth ansawdd Ileisiau'r merched a'r meibion mewn cor cymysg nas gellir peidio ei edmygu. Felly, i'n tyb ni, gwell fuasai cyfartalu'r ddwy wobr yn well-dyweder 40p i'r cor goreu cymysg, a 30P i'r cor goreu gwrywaidd. Credwn na fuasai'r pwyligor ar ei golled drwy drefniant fel hwn—gan mor boblogaidd t, ydyw y darn We never will bow down." Hyderwn y cred y pwyligor fod pigo bai yn beth nad oes ronyn o bleser ynddo i ni; ond sicr genym mai camgymeriad ydoedd dewis y dernyn We never will bow down i gystadleuaeth, ar ei ben ei hun. Gwyr pawb nad oes eisieu perffeithiach darn, fel y cyf- ryw; ond y mae yn brawf ar nerth ymosodol corau yn fwy nag ar eu nerth ymataliol. Y mae ynddo ddigon o gyfle i floeddio, a rhy ychydig o'r hyn a brofa ansawdd y lIeisiau- ar yr hyn beth v dylid seilio beirniadaeth. Eto. Ai nid camgymeriad ydyw peidio cyfyngu rhifedi'r lieisiau yn y corau ? I'n tyb ni, nid teg ydyw gadael i gor o 120 gystadlu yn erbyn, dyweder, cor o 70, yn enwedig ar We never will bow down." Oni all y pwylI- gor weled ei ffordd i ail-ystyried y mater pwysig hwn ? Cynygir gwobr o 2p is am ganu deuawd i denor a bass, sef The moon has raised her lamp abovegins yr un am ganu'r un- awdau a ganlyn :-Soprano, The way of June"; contralto, ''Harvest"; tenor, There be none of beauty's daughters baritone, The Bugler." Am chwareu ar y berdoneg Polonaise (Lubeck). Da iawn genym weled rhestr mor chwaethus o unawdau; ac y mae'r ddeuawd yn new- ydd-beth cymeradwy iawn. GWYL GERDDOROL BRUGES. Cynhaliwyd hon y mis diweddaf, a pharhaodd am bedwar niwrnod. Amcan ei sefydliad ydyw rhoddi ail-gychwyn i'r math o gerddoriaeth a elwir y Gregorian i gefnogi cerddoriaeth Pales- b trina a'i ysgol; i greu ysgol gerddorol ddi- weddar, a gwella ystor gerddorol yr organydd. Perfformiwyd darnau o'r eiddo yr hen gerdd- orion Vittoria, Arcadelt, de Lassus, Josquin de Pres, Heinrich Schutz, Lulli, Carrissimi, Pales- trina, Bach, Handel, heblaw amryw o gerdd- orion llai adnabyddus, perthynol i'r 16 a'r 17 ganrif. Hefyd, cafwyd esiamplau o waith yr ysgol "ddiweddar." Ni fydd amryw o'r enwau uchod yn ddieithr i'n darllenwyr, gan i ni, amser yn ol, ymdrin a'u gweithiau, yn ygolofn hon, ar y testyn "dadblygiad cerddoriaeth hyd amser Palestrina." Dywedir fod yr wyl dan sylw yn llwyddiant mawr ac y mae ei sefydliad yn brawf o'r teimlad am fyned yn ol at symlrwydd yr hen feistri. Gresyn na fyddai mwy o'r un teimlad yn Lloegr.

LLYTHYR ODDIWRTH IESU GRIST.

r Dyfodol.

Advertising