Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I treat Western & Metropolitan Dairies. I LIMITED, With which are amalgamated the qgreat Western Farm Dairies Company. Ltd. And the Metropolitan and Suburban Milk Supply Association, Limited. J. P. HODDINOTT") WILLIAM PRICE £ Managing Direotors. J, HOPKINS ) Head Office- 9, Harrow Road, Paddington Branch Office- 169, WALMER ROAD, NOTTING HILL, and at G.W.R., PADDINGTON, L. & N.W.R., KILBURN and EUSTON; G.C.R., MARYLEBONE Analyst: Professor A. W. STOKES, F.I.C., F.O "This Company is in a position to supply Dairymen in any part of London with first-class Dairies well- cooled Milk in large or small quantities at reasonable .prices. 'Wholesale Vans to all Parts of London and Suburbs twice daily. For a SUPPLY of GUARANTEED PURE MILK apply as above. Telephone- No. 229 Paddington and No. 199 Paddington. Telegraphic Address—" Farmership, London."
T. R. THOMAS & Co.,
T. R. THOMAS & Co., DAIRY AGENTS & VALUERS, 143, STRAND, LONDON, W.C. (Near Somerset House). Telegraphic Address—" OYMREIG, LONDON." SOUTH EAST. .50 Barns daily at 4d. per quart, taking feom £12 to £14 weekly in Dairy Produce, splendid corner premises, yard, stabling, &c., 19 years' lease. £ 1,500. NEAR CITY. 40 Barns daily 4d., less 6 to large customers at 3d., 3 compact rounds, total takings £ 60 weekly, fine premises. Rent £65. Recommended, £1,400. BRIGHTON. :30 Barns daily, nice trade in Butter, Eggs, Bread, &c. 3 pram rounds, nice shop and house rent £ 31. Large new estate developing in the immediate neighbourhood. Price £620. REGENT'S PARK. 32 Barns daily 4d., less 20 qts. 3d., 2 rounds, shop trade E10 weekly, nice shop, fitted with marble, electric light, &c., fine house, held on a lease, rent £65, subletting £39. £500. KENT. .20 Barns daily 4d., less 12 qts. 3d., 2 rounds, cart and pram, counter trade B15 weekly, nice premises, every convenience, rent £ 50, subletting £ 20. £ 480 HAMPSTEAD. 11 Barns daily at 4d. per quart, and taking £ 12 to £ 14 weekly in the shop, nice shop and good house, rent J333, same hands many years. Price C280. WEST. 10 Barns daily all at 4d. per quart, and taking from £18 to £20 weekly in dairy produce, 1 compact pram round, nice shop and good house, rent £40, 3 years' agreement, £270.
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. | H. T. E. Do, fe gynhaliwyd Eisteddfod Genedl- aethol ym Mangor yn 1874, ac yno, os nad ydym yn camgymeryd, yr enillodd Gurnos ei gad air aur. Bu hefyd Eisteddfod Freiniol Genedlaethol ym Mhwllheli yn 1875, a chyhoeddwyd yr hanes a'r cyfansoddiadau yn gyfrol yn y flwyddyn ddilynol. Chwi gofiwch nad oedd y rheol o Dde a Gogledd bob yn ail wedi ei igwneyd yr amser yma. Yn 1890 y bu yr Eisteddfod 'Genedlaethol olaf ym Mangor.
ALLTUDIO'R BARDD A'R LLENOR.
ALLTUDIO'R BARDD A'R LLENOR. Sefydlwyd Eisteddfod y Cymry yn y dydd- iau gynt gan y bardd a'r lienor, ond erbyn heddyw gellir dyweyd am yr hen uchelwyl genedlaethol, "treiswyr a'i cipiodd hi"! 0 flwyddyn i flwyddyn anwybyddir y lienor a diraddir y bardd ar draul gwneyd arddangos- iad o'r cantor, nes o'r diwedd y mae'r bobl graffaf yn dechreu ymholi i ba ddyben y cynhelir yr wyl hon ? Yr wythnos nesaf daw De a Gogledd Cymru ynghyd i Fangor i gydgyfarfod er dyrchafu lien a barddas, ac i gadw yn fyw hen ddefodau cysegredig Gor- sedd y Beirdd; ac er yr honir mai dyna yw un o amcanion y cynulliad daw'r newydd fod rheolwyr Ileol yr Eisteddfod wedi dilyn es- iamplau pwyllgorau ffol ereill ac wedi pender- fynu cwtogi a diraddio pob adran berthynol i'r llenor a'r bardd, gan osod yn eu lie gad- eirwyr hir-wyntog i siarad ffwlbri Saesneg, a chantorion ceg-lydain i ganu rhyw hen unawd Seisnig am y goreu a rhyw broffeswyr o Loegr neu'r America < '? Am roddi anrhydedd i'r cantor nid oes genym y gwrthwynebiad Ileiaf, ond y mae meddwl am aberthu gwyl y genedl a diwyll- iant y lienor ynghyd ag ysbrydiaeth y bardd am rhyw foddhad amserol, rnegis canu am hen unawd, yn beth nas gall ond dwyn din- ystr ar yr hen sefydiiad a goreu po gyntaf y cymer yr awdurdodau sylw o'r perygl y maent yn myned iddo, am mai ofer fydd galaru wedi l!add a mogi yr unig impyn o fywyd gwir barhaol a chenedlaethoi ynglyn a hi. Llwyddodd y beirdd am oesau i'w chadw yn fyw ac iraidd, ond unwaith y gadewir i gerddoriaeth ei rheoli yna ni fydd y diwedd ymhell. # Yr ydym eisoes wedi cael esiampl a gwers o fyrhoedledd y cerddor. Buom yn bostio ein cantorion a'n corau ar draws y deyrnas, ac yn ami nid heb wir achos ond gwelir bell- ach nas gall ein bechgyn a'n merched gwladaidd ni fyth gystadlu yn Ilwyddianus yn erbyn proffeswyr cerddorol a ddeuant i'r ornest o wledydd ereill: ac wrth ganiatau hyn collir pob nodwedd ynglyn a'r wyl, sef dad- blygiad a chefnogiad i dalentau ymysg gwerin Cymru. Yr ydym yn gwneyd arddangosiad gerdd- orol o'n Heisteddfod-yr hyn beth sydd hollol wahanol i'r hyn a fwriadwyd iddi fod ar y cyntaf-gan gyflwyno gwobrau mawr, ie, rhy fawr o un rheswm, am ganu Nid er mwyn dyrchafu cerddoriaeth-pe amgen, ni fuasai genym Ie i gwyno -y cynygir y gwobrwyon mawr hyn, eithr yn hytrach er hudo y tram- orwyr i wneyd eu hymddangosiad! Y mae gormod o lawer o'r masnachol yn perthyn i'r Wyl yn y dyddiau hyn Ond paham na roddir yr un cyfleusterau i'r beirdd a'r llenorion ? Iddynt hwy druain cynygir rhyw fan wobrau am fisoedd o lafur a lludded; ac wedi'r holl drafferth yr unig foddhad a gaiff y cystadleuydd fydd clywed enw'r buddugwr yn cael ei gyhoeddi ar ddydd yr Wyl heb nag eglurhad na chyfarwyddyd na beirniadaeth ar ei bwnc. Er mwyn bod yn onest ac yn deg a'r cystadleuwyr, dylid ar bob cyfri argraffu y feirniadaeth yn 11awn erbyn dydd yr Wyl, ac yna ei rhoddi ar unwaith i bob ymgeisydd a ofyno am dani. Os na wneir hyn, bydd yr anhegwch mwyaf yn bod, a chyll yr Eisteddfod bob gwerth fel magwrfa ein llenorion a noddwyr ein talentau ieuainc. < <t <t Yn fwy fyth-ac yn hynod anghyson-y mae'r adran gerddorol wedi myned mor faith fel y penderfynir eleni i gau allan pob beirniadaeth ar y celfau a'r cyfansoddiadau. Ni ddywedir pa fodd y mae'r ymgeiswyr i gael deall ym mha safle y safant yn y gys- tadleuaeth. Disgwylir, fellai, i'r papyrau roddi y manylion hyny yn rhad ac am ddim. » Hyd yn hyn nis gellir dyweyd fod y wasg wedi cael ond cefnogaeth lied sal oddiar law y pwyllgor, ac nis gallwn ddychmygu am dani hi yn myned yn Ilaw-forwyn ddiddig a gwas- aidd i benglwcni'r pwyllgor Seisnig presenol. Mae'n rhaid dihuno o ddifrif i werth yr Eisteddfod, neu os nad oes gwerth ynddi- ac y mae llawer yn barod i gredu nad oes- boed i ni ei throi yn arddangosfa ail-raddot ar unwaith-ond bydded i'r werin sylweddoli beth fyddant yn ei golli, gwerth nas gellir ei brynu ag arian, trwy wneyd y fath aberth- a thawer am byth am dani fel Gwyl addysg- iadol y Cymry » Os mai yn y dull presenol y dymunir ei chario ymlaen, yna bydd rhedegfeydd ceffylau y Saeson yn beth parchus ac uwchraddol o'i gydmaru a hi. Os Eisteddfod, gadawer i ni gael Eisteddfod ac nid rhyw arddangosiad efelychiadol o sal bethau y Sais
BUDDUGOLIAETH IDRIS.
BUDDUGOLIAETH IDRIS. Ar ol brwydr galed, y boethaf ar amryw ystyriaethau ynglyn ag etholiad leol, llwydd- odd Mr. T. H. W. Idris i slcrhau sedd ar y Cyngor Sirol yn Lludain yn nwyreinbarth St. Pancras dydd Sadwrn diweddaf. Arweiniwyd y blaid Doriaidd gan Faer y rhanbarth, yr hwn hefyd sydd yn aelod ar Fwrdd Ysgol y Ddinas dros y rhan hon o'r etholaeth, a chan ei fod yn wr poblogaidd iawn a llawer o gysylltiadau lleol, llwyddodd i gael cefnogaeth luosog iawn, a chredid ar un adeg y buasai yn abl i gipio y sedd i'r Cym- edrolwyr. Yn Mr. Idris, o'r ochr arall, caed gweithiwr di-ail, a gwr a wyr yn dda beth yw aghenion ein dinas ar hyn o bryd. Daeth cyfeillion o bell ac agos yno i roddi help Haw iddo, a da oedd ganddynt weled v canlyniadau nos Sadwrn-ei fod wedi Ilwyddo i enill ar ei wrthwynebydd, Mr. Barnes, drwy fwyafrif o 625. Y peth mawr ynglyn a'r etholiad ydoedd y rhan a gymerwyd ynddi gan ysgolfeistriaid y rhanbarth. Yr oedd rhyw 70 o'r bobl hyn yn cynorthwyo y Tori am ei fod yn aelod o'r Bwrdd Ysgol, a chredent mai gwell i'w lies personol hwy fuasai cefnogi y gwr hwnw, yn enwedig gan fod si ar led mai gan y Cyngor Sir fydd rheolaeth y Byrddau Ysgol yn y man. Yr oedd gwyr y faril, hefyd, yn ol eu harfer yn cefnogi'r Tori; a syndod oedd gweled yr undeb yn eangu. O'r blaen, yr Eglwys a'r Dafarn oedd gelynion penaf y Rhyddtrydwyr; ond y tro hwn daeth yr Ysgoldy i'w cefnogi; eto, ar y tiroedd hyn, llwyddodd ldris i enill y gamp. Y mae yn myned i fewn i'r Cyngor Sirol gyda dymuniadau goreu ilu mawr o gyfeillion, a sicr yw y bydd mor weithgar a Ilwyddianus yno yn y dyfodol ag ei gwelwyd yn ystod y deuddeng mlynedd blaenorol y bu yn aelod yn y lie. —————===—
[No title]
Blin a thrafferthus yw gyrfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod hyd yn hyn, a hysbysir yn awr fod yr ysgrifenydd, Mr. Davies Brown yn ymddiswyddo, a bydd raid penodi olynydd iddo yn y man. Dylair gym- J deithas fod yn Hawer mwy 11 byw "nag ydyw ar hyn o bryd. Mae'r cadfridogion Boeraidd yn Llundain y dyddiau hyn, ac ar ol trefni rhai pethau gyda Mr. Chamberlain, ant ar draws y wlad i ddar- lithio gyda'r bwriad o gasglu arian i gynorth- wyo dioddefwyr y Transvaal. Y ni eto sydd i dalu am y difrod i gyd.