Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutur Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutur Ddinas. Mae'r Cymdeithasau Llenyddol yn dechreu ymbarotoi eu rhagleni am y tymhor nesaf, a deallwn fod nifer o bwyllgorau i fod yr wyth- nos hon er cael y cyfan i drefn erbyn dechreu Hydref. Rhy gyffredinol yw ein rhagleni wedi bod yn ystod y tymhorau diweddaf yma, a byddai yn amheuthyn o beth i rai o'r cymdeithasau cryfaf roddi prawf ar gynllun newydd—rhyw- beth a fydd yn addysg a budd yn ogystal ag yn adloniant. # O'r ochr arall, nid oes wiw eu gwneyd yn ysgolion sych. Gwyddom am rai wedi bod yn dilyn ar bwnc neillduol dros haner y gauaf gyda'r canlyniad na chymerai ond rhyw chwarter o'r aelodau yr un dyddordeb yn y gweithrediadau. Rhaid wrth amrywiaeth am fod amrywiol ddoniau yn eu mysg; ond dylid gofalu am i'r amrywiaeth hwnw fod yn oreu- beth hefyd. Oddiar ddydd etholiad Mr. Idris, y mae'r Toriaid yn St. Pancras wedi bod ar eu heithaf yn egluro y gurfa a gawsant. Wrth gwrs, y rheswm am nas enillasant y sedd oedd, am fod plaid Idris wedi dyweyd y fath lu o gel- wyddau Yr hen esgus, wrth gwrs. < <t « Tra yn son am Mr. Idris, rhaid dyweyd gair am y joke a ymddangosodd yn y CELT diweddaf. Llindagodd d-l y wasg hyny o ddifyrwch oedd ynddi yn ei diwyg Gym- raeg; felly, wele hi fel y digwyddodd. 0 0 0 What we want" meddai'r areithydd, is pure water and good gas I" Wei," ebe hen foter, ym mhellafoedd y neuadd, "let's buy Idris' Waters, then we'll get the two." 'Does ond un peth yn waeth na joke wedi ei lladd gan wr y wasg, a'r peth hwnw yw cyfieithiad gwael o ddywediad difyr. Y dydd o'r blaen gwelsom bapyr Cymraeg yn ceisio gosod dywediadau sathredig papyr fel y Tit- Bits i'w ddarilenwyr Cymreig, rhywbeth fel hyn— <t. < Beth yw'r gwahaniaeth rhwng buwch a chadair ddrylliedig ?" Yr ateb oedd yn ol y papyr, Fe rydd un laeth a'r llall ffordd!" Yn awr, dyma'r Saesneg: "What is the difference between a cow and a broken chair ? The one gives milk, the other gives way." Wrth gwrs, yn y gair way, a'i agosrwydd i whey, yr oedd yr ergyd ond collid hyny yn hollol wrth gyfieithu. ODLIG BRIODASOL. Ar briodas Mr. Thomas Davies, Cornwall Road, Notting Hill, a. Miss Maggie Morgans, High Street, Borough:— Mae genyf destyn swynol, M ae'n destyn newydd spon,- Sef "uniacl Tom a Maggie Mewn mwyn briodas Ion;" Mi glywais er ys tipyn Fod atdyniadau serch Yn tynu calon Thomas At galon bur y ferch. Cynyddu wnaeth y cariad— Ei fynwes aeth yn dan, A rhaid oedd rhoddi modrwy Am fys ei feinwen lan Cydsyniodd Maggie dirion Heb yngan gair yn groes I fod yn wraig rinweddol I'm cyfaill drwy ei hoes. Mae swynol gwmni'r feinwen A golwg ar ei gwedd Yn gwneyd i Thomas deimlo Fel brenin ar ei sedd; Tra Maggie-eneth siriol, Yn deg a hardd ei llun- Yn credu'n gydwybodol Mai gwell yw dau nao un." Mae'r ddeuddyn heddyw'n hapus, Nid oes 'run gwae na siom A feidd'a aflonyddu Ar fwyniant Mag. a Tom Pscrhaed eu hapusrwydd— Dedwyddwch pur-heb sen Gorona eu hymdrechion Tra'n teithio is y nen. Notting Hill. L. LLOYD JAMES. Drwg genym glywed am anhwyldeb y Cymro ieuanc, Mr. R. A. Davies, yr ad- roddwr. Deallwn ei fod yn ddioddefydd er's rhai wythnosau. Yr ydym yn gobaithio y caiff adferiad bum i'w iechyd arferol. *= Ynglyn a'r gystadleuaeth gorawl yn y cyngherdd mawr a gynhslir yn y Qleen's Hall gan gyfeillion yr achos yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, rhoddir u Gold Coronation Medal," gwerth £ 7 7s, yn ogystal a'r wobr fawr o haner can' punt. Y Mri. Elkington a'r Cwmni, 22, Ragent Street, s/di yn rhoidi y fedal. < <t Dechreuodd bugail newydd eglwys Wilton Square ar ei waith y Sul diweddaf. Gwr ieuanc ydyw Mr. Havard ond y mae yn addawol iawn. Cawsom y fraint o wrando arno yn traddodi ei breg-eth nos Sal, a rhaid dyweyd ei fod yn addysgiadol ac effeithiol, ac yn llawn dyddordeb. Yr ydym yn llongyfarch yr eglwys ar ei dewisiad. • m Deall wn fod ym mwriad rhai o'n cydwlad- wyr ieuaiac i roddi budd-gyngherdd i'r hen fardd a'r Cymro siriol, Cwcwll. Y mae yr hen wr wedi myn'd yn hen ac yn bur llesg erbyn hyn a hyderwn y llwydda'r pwyllgor -sydd wedi cymeryd y peth i fyny-i wneyd y cyfan yn llwyddiant.

DARGANFOD HEN OFFERYNAU YN…

Advertising