Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Oddeutur Ddinas.
Oddeutur Ddinas. Mae'r Cymdeithasau Llenyddol yn dechreu ymbarotoi eu rhagleni am y tymhor nesaf, a deallwn fod nifer o bwyllgorau i fod yr wyth- nos hon er cael y cyfan i drefn erbyn dechreu Hydref. Rhy gyffredinol yw ein rhagleni wedi bod yn ystod y tymhorau diweddaf yma, a byddai yn amheuthyn o beth i rai o'r cymdeithasau cryfaf roddi prawf ar gynllun newydd—rhyw- beth a fydd yn addysg a budd yn ogystal ag yn adloniant. # O'r ochr arall, nid oes wiw eu gwneyd yn ysgolion sych. Gwyddom am rai wedi bod yn dilyn ar bwnc neillduol dros haner y gauaf gyda'r canlyniad na chymerai ond rhyw chwarter o'r aelodau yr un dyddordeb yn y gweithrediadau. Rhaid wrth amrywiaeth am fod amrywiol ddoniau yn eu mysg; ond dylid gofalu am i'r amrywiaeth hwnw fod yn oreu- beth hefyd. Oddiar ddydd etholiad Mr. Idris, y mae'r Toriaid yn St. Pancras wedi bod ar eu heithaf yn egluro y gurfa a gawsant. Wrth gwrs, y rheswm am nas enillasant y sedd oedd, am fod plaid Idris wedi dyweyd y fath lu o gel- wyddau Yr hen esgus, wrth gwrs. < <t « Tra yn son am Mr. Idris, rhaid dyweyd gair am y joke a ymddangosodd yn y CELT diweddaf. Llindagodd d-l y wasg hyny o ddifyrwch oedd ynddi yn ei diwyg Gym- raeg; felly, wele hi fel y digwyddodd. 0 0 0 What we want" meddai'r areithydd, is pure water and good gas I" Wei," ebe hen foter, ym mhellafoedd y neuadd, "let's buy Idris' Waters, then we'll get the two." 'Does ond un peth yn waeth na joke wedi ei lladd gan wr y wasg, a'r peth hwnw yw cyfieithiad gwael o ddywediad difyr. Y dydd o'r blaen gwelsom bapyr Cymraeg yn ceisio gosod dywediadau sathredig papyr fel y Tit- Bits i'w ddarilenwyr Cymreig, rhywbeth fel hyn— <t. < Beth yw'r gwahaniaeth rhwng buwch a chadair ddrylliedig ?" Yr ateb oedd yn ol y papyr, Fe rydd un laeth a'r llall ffordd!" Yn awr, dyma'r Saesneg: "What is the difference between a cow and a broken chair ? The one gives milk, the other gives way." Wrth gwrs, yn y gair way, a'i agosrwydd i whey, yr oedd yr ergyd ond collid hyny yn hollol wrth gyfieithu. ODLIG BRIODASOL. Ar briodas Mr. Thomas Davies, Cornwall Road, Notting Hill, a. Miss Maggie Morgans, High Street, Borough:— Mae genyf destyn swynol, M ae'n destyn newydd spon,- Sef "uniacl Tom a Maggie Mewn mwyn briodas Ion;" Mi glywais er ys tipyn Fod atdyniadau serch Yn tynu calon Thomas At galon bur y ferch. Cynyddu wnaeth y cariad— Ei fynwes aeth yn dan, A rhaid oedd rhoddi modrwy Am fys ei feinwen lan Cydsyniodd Maggie dirion Heb yngan gair yn groes I fod yn wraig rinweddol I'm cyfaill drwy ei hoes. Mae swynol gwmni'r feinwen A golwg ar ei gwedd Yn gwneyd i Thomas deimlo Fel brenin ar ei sedd; Tra Maggie-eneth siriol, Yn deg a hardd ei llun- Yn credu'n gydwybodol Mai gwell yw dau nao un." Mae'r ddeuddyn heddyw'n hapus, Nid oes 'run gwae na siom A feidd'a aflonyddu Ar fwyniant Mag. a Tom Pscrhaed eu hapusrwydd— Dedwyddwch pur-heb sen Gorona eu hymdrechion Tra'n teithio is y nen. Notting Hill. L. LLOYD JAMES. Drwg genym glywed am anhwyldeb y Cymro ieuanc, Mr. R. A. Davies, yr ad- roddwr. Deallwn ei fod yn ddioddefydd er's rhai wythnosau. Yr ydym yn gobaithio y caiff adferiad bum i'w iechyd arferol. *= Ynglyn a'r gystadleuaeth gorawl yn y cyngherdd mawr a gynhslir yn y Qleen's Hall gan gyfeillion yr achos yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, rhoddir u Gold Coronation Medal," gwerth £ 7 7s, yn ogystal a'r wobr fawr o haner can' punt. Y Mri. Elkington a'r Cwmni, 22, Ragent Street, s/di yn rhoidi y fedal. < <t Dechreuodd bugail newydd eglwys Wilton Square ar ei waith y Sul diweddaf. Gwr ieuanc ydyw Mr. Havard ond y mae yn addawol iawn. Cawsom y fraint o wrando arno yn traddodi ei breg-eth nos Sal, a rhaid dyweyd ei fod yn addysgiadol ac effeithiol, ac yn llawn dyddordeb. Yr ydym yn llongyfarch yr eglwys ar ei dewisiad. • m Deall wn fod ym mwriad rhai o'n cydwlad- wyr ieuaiac i roddi budd-gyngherdd i'r hen fardd a'r Cymro siriol, Cwcwll. Y mae yr hen wr wedi myn'd yn hen ac yn bur llesg erbyn hyn a hyderwn y llwydda'r pwyllgor -sydd wedi cymeryd y peth i fyny-i wneyd y cyfan yn llwyddiant.
DARGANFOD HEN OFFERYNAU YN…
DARGANFOD HEN OFFERYNAU YN SIR DREFALDWYN. Yn ddiweddar gwnaed darganfyddiad o hen gelfi yn nyffryn prydferth Dinas Mawddwy. Bachgen ieuanc o'r enw Brown a'u dargan- fyddodd, pan yn tori mawn ar dir ei feistr, yn Cwmdugoed, ar lechwedd Tanyglanau, ger Llidiart y Baron. Daeth y bachgen o hyd i ddeunaw o benau bwyeill o dri gwahanol faint, a'r oil mewn sefyllfa dda. Y mae un o honynt yn saith modfedd o hyd. Y mae Syr Watcyn Williams Wynn, perchenog y tir ar ba un y cafwyd yr offerynu, yn eu hawlio, ac ymddengys y bydd yn bosibl i'r cwestiwn o berchenogaeth ddyfod yn fater cyfraith. Pwy bynag a ddichon fod yn llwyddianus, gobeithir i'r casgliad gwerthfawr yma gael lie yn Ym- j gueddfa Powisland yn y Trallwm.
Advertising
THE DENTAL INSTITUTE 168, UPPER STREET, ISLINGTON, (Corner of Barnsbury Street). Principal Mr. H. OSBORN HUGHES. HIGH-CLASS ARTIFICIAL TEETH AT STRICTLY MODERATE FEES. The most modern and scientific researches in English and American methods by skilled operator (late manager of one of the larges practices in London). CONSULTATIONS FREE. HOURS 10 TILL 8.30 And by Appointment. Dymuna Mr. HUGHES, y perchenog, roddi ar ddeal i'w gyd-genedl y bydd yn ofalus i arolygu yn bersonol bob gwaith a ymgymerir yn y lie. PEDR ALAW, Mus. Bac. Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd. CYFEIRIAD- "PEND ENNIS," LOUGHTON, ESSEX. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C- Artificial Teeth from 5/- to 10/- Complete Sets (upper and lower) from zC4 TEETH EXTRACTED UNDER GAS AND ETHER SPRAY. OLD SETS OF TEETH REMODELLED. NO CHARGE FOR CONSULTATION. "Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol" VISITORS TO ABERYSTWYTH SHOULD STAY AT THE GRANVILLE (PRIVATE HOTEL) NORTH PARADE, ABERYSTWYTH Spacious Rooms, Electric Light throughout. Te^ms Moderate. Proprietress-Miss A. JENKINS. | HUGH DAYIES'S COUGH. MIXTURE 1 NO MORE Difficulty of Breathing. ■ NO MORS Sleepless Nights. I NO MORB Distressing Coughs. 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS H DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS §1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for ASTHMA m DAVIES'S COUGH MIXTURE for BRONCHITIS i DAVIES'S COUGH MIXTURE for HOARSENESS 9 DAVIES'S COUGH MIXTURE for INFLUENZA H DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS H DAVIES'S COUGH MIXTURE for SORE THROAT 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE—Most Soothing E DAVIES'S COUGH MIXTURE warms the Chest 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE dissolves the Phlegm | DAVIES'S COUGH MIXTURE—for SINGERS B g DAVIE.S'S COUGH MIXTURE—for PUBLIC H y DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS | 1 THE GREAT WELSH REMEDY. H | 13§d. and 2j9 Bottles. Sold Evtryuskgre. H ra Sweeter than Honey. Children like it. o¡. w j IIUGH DAVIES, Chemist, 1ACHYHLLETS. j London Agents- Mr. R. THOMAS, Chemist, Upper Baker Street. Mr. H. MOKGAN, „ 34, Tavistook Place Mr. EDW. JONES „ 232, Kilburn Lane, "to MR. MADOC DAVIES, A.R C.M. GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS- 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL-