Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Bud y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bud y Gan. Gan PEDR ALAW. ["JPENDENNIS," LOUGHTON.] YR EISTEDLFOD. Nid oes dadl nad ydyw sylwadau y gohebydd, yn y CELT diweddaf, ar yr Eisteddfod, yn deilwng o ) styriaeth. Y mae y sefydliad wedi cyrhaedd yr ystad hcno fel y rhaid iddi wrth ddiwygiad buan neu fe gyll yr ychydig weddillion o ncdweddion yr arferid eu cysylltu a'r enw. Cyfeirio ydym at yr Eisteddfod Genedlaethol yn fwyaf ar- benig. Y mae y gwobrwycn cerddorol yn rhy fawr o ddim rhesvun. Os dywedir nad ydynt, carem wybod pa gynydd, o ran safon, a wnaed yng nghanu corawl yr Eisteddfod yn ystod y deng mlynedd diweddaf ? Os cofiwn yn iawn, cymhellai J. Puleston Jones gymeryd oddiar y pwyllgor Ileol y rhan fwyaf o hawl i drefnu y rhaglen gystadleuol, gan roddi y gwaith i bwyllgor cenedlaethol. Wel, hwyrach y gallai hwnw lwyddo i roddi gwedd fwy genedlaethol ar bethau; ac yn sicr gallai wneyd defnydd teilwng o'r gwedd- illion arianol. 11 Teilwng yn yr ystyr o ofalu am gyhoeddi cynyrchion gwobrwyol yr Eis- teddfod, heb fod hyny yn syrthio ar haelioni rhyw gymdeithas neillduol, fel y mae'n awr. Y mae y cwestiwn o iaith yn un anhawdd i'w benderfynu ynglyn a'r Eisteddfod. Bellach ymddengys y rhaid rhoddi rhyw gymaint o te i'r Saesneg, gan fod hyny yn rhoddi gwedd fcarchus ar bethau. Ond paham y goddeflr i'r araeth o'r gadair lywyddol fod yn yr iaith fain ? Ac oni ddylai pob beirniadaeth, neu grynhodeb o feirniadaeth, gael ei rhoddi yn -iaith yr Eisteddfod ?—a'r rhai mwyaf hanfodol yn yr iaith Saesneg, os myner. Y mae genym ofn yr adran Gerddorol Genedlaethol-y tynid y llinynau gan ryw un neu ddau. Y mae ein cenedl mor fechan fel ag y mae y perygl hwnw yn awgrymu ei hun i ni bob amser. Tynir y llinynau hefyd, gryn lawer-er yn ddirgelaidd-o bellder, ym mbwyllgorau cerddorol lleol ein gwlad, fel mai anhawdd iawn gwybod pa awgrym i'w roddi ar y mater hwn. Diogel ydyw dyweyd y dylid cefnogi gweithiau cerddorol Cymreig yn yr Eistedd- fod a'r cyngherddau ynglyn a hi. Y mae amryw o ddarnau pwysig a llafurfawr ein jprif gyfansoddwyr heb gael agos ddigon o sylw a chefnogaeth gan ein pwyllgorau Eis- teddfodol, ac yn enwedig yn ein cyngherddau Eisteddfodol. Credwn eu bod hwy, ac ereill, wedi bod yn golledwyr mawr drwy antur- iaethau pwysig cerddorol Cymreig, gan mor fychan yw y cylchrediad os na werthir y gerddoriaeth am geiniog neu ddwy y copi. Gallai trysorfa genedlaethol perthynol i'r Eisteddfod fod o les dirfawr, drwy o leiaf helpu ein cyfansoddwyr gyda chyhoeddiad gweithiau pwysig a llafurfawr. Y CERDDOR. Y mae sylwadau ar Frodd- egu," gan Mr. D. Jerkins, yn y rhifyn presenol, ac y maent yn werth sylw ein harweinwyr corawl, a'r unawdwyr cystadleuol hyny nad ydynt wedi bod o dan addysgiaeth gerddorol. Dywed Mr. Jenkins:— II Gwelsom gantorion weithiau yn cael eu cam-arwain i or-wneyd y rhanau ail a thrydydd raddol sydd mewn darn, gan esgeuluso y prif feddyliau. Dylid gosod y prif bwysau ar y prif frawddegau, ac ymddwyn at y lleill fel meddyliau cynorthwyol i ategu prif syn- iadau y darn." Etc, dywed:— I si Mae yn rbeol a gydnabyddir yn lied gyffredinol, na ddyiid cymeryd anadl ar ganol llithren (slur); ond y mae rhai o honynt mor hir yng ngweithiau Handel a Bach, fel y mae yn amhosibl eu canu I drwyddynt heb gymeryd anadl yn rhywle, a'r cwestiwn i'w wynebu yw, pa fcdd i wneyd hyny heb dori cysylitiad y llinell ond can lleied ag sydd modd." Yna aiff ymlaen i roddi esiamplau. CEKDDORLAETH JAPAKEAIDD. Euom yn ym- weled a'r Arddangcsfa yn Whitecbapel y dydd o'r blaen, ac ymhlith petfcau ereill gwelsom esiamplau o gerddoriaeth y genedl gyvsrain hen. Yr oedd yno lyfryn gyda'r teitl car- lynol A collection of Japanese music. By KcKys. Academy of Music, Japan." Wele alaw o'r casgliad. Y mae wedi ei hargraffu i ddau lais, yn yr Unsain. Wele'r Alaw Doh C Buasai yn ddyddorol gweled yr alaw hon wedi ei chynghaneddu gan un o'r awdurdau yn yr Academy a enwyd. Os carai rai o'n darllenwyr ei chynghaneddu a'i threfnu ar eiriau rhyw emyn Cymraeg, bydd yn bleser genym edrych dros eu gwaith a hysbysu enw'r cynghaneddwr goreu.

DUWINYDDIAETH A GWYLIAU.

ADDAW GWLADFA NEWYDD I GYMRY…

Advertising