Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

PLAID LLAFUR.

Advertising

Bwrdd y * Geit* *

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Leuad dlos dy lan oleum Ddaeth o Eden ardd i wenu Bu dy lygad byw tanbeidiol Uwch y byd ar lwybrau Dwyfol. Loer ddaionus Haul yw'th allu, Heb ei nerth âi'th wen i golli: Rhydd o'i galon yn dy lygad Oleu clir oleua'r Cread. Loer ddilychwin Wyt ti'n cofio Marw'r Bryn, y poen a'r gwawdio ? Uwch Ei ben yn welw syllaist, Trodd dy wyn yn g'wilydd, gwridaist. NVillesden. LLINOS WYRE. Aros, aros I" llefai Bardd yr Offis. Be gebyst "wyt ti'n wel'd 'nawr drwyddo." Beth sy'n bod ?" gofynai'r Llinos yn syn. P'le mae dy 'Sgrythyr di ?" gofynai B. yr O. Nid y lleuad, baohan, a dywyllwyd yr adeg hono;' a phwy sens sydd mewn dyweyd mai'r lleuad sy'n rheoli'r rfconau mewn oes wyddonol fel kon ?" "Gad iddo, gad iddo chwarddai Owowll. "Y fi a, hongiodd' y telescope yn gam, a rhaid maddeu iddo." Yna adroddodd stori. ddoniol am un hen chwaer a 'fynai edrych drwyddo un tro er mwyn cael cipolwg a.r y lleuad, ac iddo yntau droi ei big at sein Gwesty y Red Lion, a chredai yr hen wreigan hyd ei hawr olaf ei bod wedi cael golwg ar un o dafarndai pechad- s-ucus yn y lleuad.