Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Gsfdieutu'r KSelmaSm

HEN ENGLYNION.

BEDD FY MAM.!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEDD FY MAM. [Y penillion buddugol yn Eisteddfod Llangollen, Medi, 1858, 0 dan feirniadaeth alan Alun, Creuddynfab a Ceiriog Y buddugol oedd Miss Catherine Hughes, Belgravr Square, Llundain.] Ar un nos Sabbath tawel Pan fii gweddial dwys o ddyfnder llawer calon Fry, fry, i'r Nefoedd lwys, Yr eis ag araf gamrau 0 dan yr Ywen gam Sydd fel rhyw angel anwyl byth Yn noddi bedd fy Mam. Y gareg lwyd fwsoglaidd Oedd ar ei gwely clai, A'r blodau peraroglaidd O'i chylch fel gwychder Mai, A wenent brudd chwerthiniad Gan wyro'u penau'n gam,- Ac yn eu harddwoh plygent hwy Ar anwyl Fedd fy Mam. Y blodau hardd oedd arno Fel delwau bythol hedd Gan law fy chwaer fe'u planwyd 0 gylch ei thawel fedd Pan gofiais inau hyny Fy nghalon ddwys roes lam- Wrth weled gwystlon mabol serch i Yn hulio Bedd fy Mam. Yr awel ocbeneidiai Yn mhlith y blodau blydd, Anadlent eu heneidiau I gol yr awel brudd I A'u cymysg faith felusder Yn donau chwyddol am Y gareg lwyd hyd heddyw sydd Yn cuddio Bedd fy Mam. Pan oedd y gwyll gysgodion I Yn oedi yn y fan Lle'r harddai blodau pruddion Wrth mynwent werdd y Llan, Ymgrymais yn addolgar A chefais syniad am Yr anedd deg ar gaerau'r dydd Tudraw i Fedd fy Mam. Fy nagrau serch a sychais Oddiar fy ngruddiau llaith Mewn gr/mus Ffydd, edrychais I ben y ddyrus daith Y llwybr gynt a droediais A dybiais oedd mor gam,- Ces wel'd ei fod yn union syfch Yn ngoleu Bedd fy Mam.

[No title]

Advertising