Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

INDIAID CYMREIG AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

INDIAID CYMREIG AMERICA. Y TRADDODIADAU AM MODOC YN DARGANFOD AMERICA. A ddarganfyddwyd America gan y Tyw- ysog Madoc o Gymru yn y flwyddyn 1170, ac a oes rhai o'i hiliogaeth yn trigo heddyw ym mhlith Indiaid Dakota, sydd gwestiwn ag y mae llawer o ysgrifenu wedi bod arno o bryd i bryd; a blynyddau yn ol brithid colofnau ein newyddiaduron a'n cylchgronau gan erth- yglau yn olrhain llinach a haniad y llwyth Indiaid Cymreig a honir a drigianent yn yr America ymheil cyn ei darganfyddiad gan Columbus, a thuedda amryw o hynafiaethwyr a haneswyr o nod i gredu mai Madoc a'i gyfeillion ydoedd y dynion gwynion cyntaf i sangu gwlad yr Amerig. Mae'n wir y gwaHir hyn gan luaws, y rhai a haerant nad yw yr honiad i Madoc a'i gyf- eillion forio am a thirio yn ddiogel yn America yn ddim amgen na chwedl ddisail; ond y mae rhesymolrwydd y rhesymau a gyflwynir <iros gredu mai i Madoc y perthyn y clod o ddarganfod y byd newydd yn llawer cad- arnach nag yw y rhesymau a roddir gan y rhai sydd yn gwadu i Madoc erioed gyrhaedd America. Nid yw darganfyddiad America gan y Cymry yn hanes newydd. Yn nyddiau y Frenhines Elizabeth, cyn i'r un drefedigaeth Seisnig gael ei sefydlu yno, credid hyny yn gyffredinol ym Mhrydain Fawr, a chofnodir hyny fel ffaith yn llyfrau hanesyddol y cyfnod hwnw. Teimlir dyddorodeb adnewyddol yn y testyn hwn y dyddiau hyn gan rai o hanes- wyr ein gwlad, ac y mae dwy ysgrif a ym- ddangosodd yn ddiweddar wedi denu cryn sylw, a rhyw fras-linelliad o'u sylwedd a gyflwynwn i'r darllenydd. Awdwr yr ysgrif gyntaf yw Mr. Hubert M. Skinner, ac ymddangosodd yn un o bapyrau St. Louis. Ffrwyth ysgrifell Mr. T. J. Chap- man, Pittsburg, yw yr ail ysgrif, a'r hon y rhoddwyd goleuni dydd trwy gyfrwng un o newyddiaduron y ddinas hono. Y mae y Proff. Chapman yn hanesydd a hynafiaethydd tra adnabyddus i drigolion Talaeth Penn, ac y mae yr Indiaid Cymreig wedi bod yn destyn ymchwiliadol llawer awr iddo. Anffodus i bleidwyr y ddamcaniaeth Madoc- aidd yw iddynt gael eu hamddifadu o gyfleus- derau a manteision gwyddonol i wneyd ymchwiliad trwyadl er profi gwirionedd yr honiad parth llinach a iaith yr Idiaid Cym- reig." Credwn er hyny, fod prawfion digon rhesymol wrth law i argyhoeddi y diragfarn o gywirdeb a gwirionedd yr hawl mai Cymry ydoedd darganfyddwyr cyntaf y wlad hon. Mae'n rhaid fod sail gwirionedd i'r honiad hwn cyn byth y buasai wedi goroesi cyfnod mor faith drwy gymaint o gyfnewidiadau, heb son am yr helbulon adfydus a diri yr awd trwyddynt, o ddinystriad y cofnodion Cymreig trwy dan, i ddifodiad y Madociaid trwy glefyd heintus; ac eithaf rhesymol yw y casgliad mai y gwir, ac nid y gau, sydd yn aros ar ol y fath wyntyllu trwyadl ar lawr dyrnu amser trwy gyfnod o flynyddau meithion. Pan fu farw Owain Gwynedd, Tywysog Gogledd Cymru, yr hwn deyrnasai yn y blyn- yddau o 1137 i 1169, cododd ymrafael rhwng ei feibion (y rhai a rifent un a'r bymtheg), parth dewisiad ei olynydd. Yr oedd Edward, y mab hynaf o herwydd eiddilwch meddyliol ac amherffeithrwydd corphorol, yn anaddas i wisgo mantell ei dad. Goresgynodd Hywel, yr ail fab, yr orsedd. Mab anghyfreithiawn oedd hwn, wedi ei genhedlu o un o ferched yr Iwerddon, a gomeddodd Dafydd, y trydydd mab, ddatgan ei deyrngarwch iddo, yr hyn a derfynodd mewn rhyfel cartrefol, yn yr hwn y lladdwyd neu y gorfcdwyd Hywel, y traws- feddianwr, i ffoi, ac esgynodd Dafydd yr orsedd. Madoc oedd cadlywydd y llongau yn y cyfnod hwn, ond ni chymerodd ran yn y cweryl teuluol. Yn hytrach, rhoddodd ei brofiad morwrol mewn gweithrediad trwy hwylio ar daith i chwilio am y gorllewin fyd, a chyrhaeddodd wlad ag oedd anhysbys i'r byd gwareiddiedig y pryd hwnw. Wedi glanio yn y wlad newydd dywedir iddo adael y rhan fwyaf o'i fintai ynddi a dychwelyd i Gymru i gyrchu rhagor o'i gydgenedl i sefydlu yn y "wlad well," lie yr addawai y gallent oil "drigo mewn heddwch a digonedd mewn gwlad eang, hyfryd a ffwythlon, a lie nad anghenraid iddynt frwydro byth a beunydd am lain o dir clogyrnog fel yng Nghymru." Ffurf- iwyd ail fintai, o tua 300 o eneidiau, ac mewn deg o longau gwynebodd eilwaith yn y flwyddyn 1170 am y byd newydd, gan hwylio o ynys Mon, o fan gyferbyn a'r lie y saif Pont Menai heddyw. Er y ffyna traddodiad i un o'r fintai, sef Cynfrig ap Rhys, ddychwelyd yn 01 i Gymru, nid oes sicrwydd pendant i un o honynt erioed ail droedio tir eu genedigol wlad. Wedi sefydliad y trefedigaethau Seisnig yn y wlad hono, daeth y newydd am fodol- aeth llwyth o Indiaid Cymreig yn y Gorllewin yn siarad cyffredin, ac yr oedd y cyfryw yn ymddangosiadol ar sail mor gredadwy fel y penderfynwyd gwneyd ymchwiliad trylwyr i hyny, a ffurfiwyd mintai gyda'r amcan o wneyd ymchwiliad am danynt. Dyryswyd y cynllun hwn, fodd bynag, drwy i ryfel y chwyldroad dori allan. Dywedir i'r Indiaid Cymreig yn y cyfnod hwn ymfudo i'r diriog- aeth Ysbaenaidd tu draw i afon y Mississippi, ac iddynt yn ddiweddarach babellu ar y Miss- ouri Uwchaf. Wedi i egwyl heddwch ddilyn y rhyfel, cyfansoddodd y bardd Southey bryddest ar "Madoc," a bu ei chyhoeddiad yn y flwyddyn 1805 yn gyfrwng i adenynu dyddordeb yn y cwestiwn, a dyheuai llawer am gael goleuni pendant ar y mater. Yr oedd trigfan yr Indiaid Cymreig y pryd hyn yn hynod anghysbell, ac anhawdd oedd cael personau cymhwys i anturio ar daith ymchwil- iadol drwy y fath anialdir peryglus. Er cym- aint yr anhawsderau, gwnawd trefniadau drachefn i wynebu'r daith, a diau y buasid wedi llwyddo i wasgaru y tywyllwch niwliog sydd wedi gordai hanes y tylwyth dyddorol hwn onibai am i anffawd ddiragwel arall ddig- wydd. Torodd y frech wen allan ym maesdrefi yr Indiaid Cymreig yng ngauafau 1838-39, a difodwyd agos yr holl dylwyth gan y clef yd heintus hwn, ac ni adawyd ond unarddeg-ar- hugain o ddisgynyddion Madoc ar dir y byw. Gwragedd oedd agos yr oil o'r rhai a arbed- wyd, a phan yn ffoi o ddyffryn marwolaeth Missouri cymerwyd hwynt yn garcharorion gan y Ricarees, oddiar y rhai y dygwyd hwynt yn ddiweddarach gan y tylwyth Sioux. Ym- briododd y gwragedd ag aelodau y llwyth hwn, a dywedir fod dros dri chant o honynt, ffrwyth y traws-rywiad uchod, yn trigo yn awr ar y Fort Berthold Reservation yn Dakota Ogleddol. Dyna yn fyr fraslinelliad o hanes gyrfa Madoc a'i gymdeithion o'r flwyddyn y gadaw- sant Gymru hyd y dydd heddyw, a chyflwynir ymhellach y tystiolaethau ar y rhai y seilir y y gred mai Madoc oedd y dyn gwyn cyntaf i ddarganfod America. Dywed y Proff. Chapman nad oes amheu- aeth nad oedd y cyn-deidiau yn credu yn gyffredinol y trigai llwyth o Indiaid yn y gorHewin a siaradent yr iaith Gymraeg, a'r rhai a gymerid yn ganiataol oeddynt hiliog- aeth Madoc a'i gyfeillion. Cadarnheir y dyb hon mewn cyfrol a gyhoeddwyd gan y Parch. Chas. Beatty, yr hon a gyfenwir Journal of a Two Months' Tour. Argraffwyd y llyfryn hwn yn Llundain yn 1768, ac y mae copi o hono ar gael heddyw yn y Carnegie Library yn Pittsburg. Awdwr y gyfrol uchod oedd caplan byddin Forbes yn y flwyddyn 1758, ac efe draddododd y bregeth Brotestanaidd gyntaf yn Pittsburg. Cymerodd y daith y cronicla ei hanes ar gais Cymanfa Bresbyter- aidd New York a Philadelphia yn 1766 er gwneyd ymchwiliad i gyflwr ac anghenion crefyddol trigianwyr gorllewinbarth Pennsyl- I vania, a thra ar yr ymchwiliad hwn y tradd- ododd ei bregeth gyntaf i warchlu Fort Pitt Medi 7, 1766. Pan ar y daith hon trafaeliodd dros chwe' chant o filldiroedd, ac yn ystod ei ymdaith cyfarfyddodd ag un o'r enw Benjamin Sutton, yr hwn hysbysai Mr. Beatty iddo dreulio rhai blynyddau gyda llwyth o Indisid Cymreig, y rhai a drigent yr ochr orllewinol i'r Mississippi. Siaradent yr iaith Gymraeg, ac yr oedd yn eu meddiant Feibl Cymraeg ac er nad oeddynt yn alluog i'w ddarllen, yr oeddynt yn hynod o ofalus a gochelgar o hono. Yr oedd yn ben- dant yn yr haeriad mai Cymraeg oeddynt yn siarad, canys clywodd Gymro o'r enw Lewis yr hwn fu am dymhor yn garcharor ymhlith yr Indiaid, yn parablu yn Gymraeg a hwynt. Crybwylla hefyd am ddyn o'r enw Levi Hicks, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd ymhlith Indiaid America. Treuliodd Hicks beth amser yn maesdrefi yr Indiaid Cymreig, a thystiai yntau mai Cymraeg oedd iaith yr Indiaid. Cyd-deithiai a Mr. Beatty ar y daith hon Indiad o'r enw Joseph, perthynol i un o'r llwythau a drigent yng ngorilewinbarth Penn- sylvania a dwyreinbartb Ohio. Yr oedd yn alluog i siarad amryw o dafod ieithoedd yr Indiaid, ac oherwydd hyny cyflogwyd ef fel guide a chyfieithydd gan Mr. Beatty. Tystiai iddo gyfarfod aelodau perthynol i dylwyth Madoc droion ar wahanol deithiau, ac yr oedd wedi treulio peth amser gyda hwynt yn eu maesdrefi. Gwyddai i sicrwydd mai Cymraeg a siaradent, oherwydd yr cedd ganddo ef ei hun grap lied dda ar Gymraeg yr Indiaid. (I'w barhau.)

Advertising