Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

r BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r BYD A'R BETTWS. Camsynied mawr yw meddwl fod cwestiwn y Boeriaid wedi ei lwyr benderfynu yn yr heddwch diweddar. Sonir yn awr am drethi y Transvaal, ac wrth siarad am arian y mae'r Llywodraeth eisoes wedi creu digllonedd gwyr mawr y wlad hono. 0 dipyn i beth fe ddaw LIoegr i ddeall na fydd arweinwyr Jingoaidd Affrica yn deyrn- gar, ond tra y gallont hwy ymgyfoethogi ar gefn ein hymddygiadau ffol ni. Cynhelir gwasanaeth o ddiolchgarwch am adferiad y Brenin yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ar y 26ain o'r mis nesaf. Bydd y Brenin a'r holl deulu brenhinol yn bresenol yn yr wyl. Y diwrnod blaenorol ant ar daith ar draws y ddinas fel y bwriadwyd ganddynt wneyd adeg y coroniad. Wedi cael diwedd ar y rhyfel, y mae'r pleidiau gwleidyddol yn gweithio yn galed y dyddiau hyn ynglyn a'r Mesur Addysg. Mae argoelion y ceir dadlu brwd arno hefyd, oherwydd y mae'r wlad yn dechreu dod i ddeall ei adranau anghyfiawn, a phan ddaw yr adeg i dalu y trethoedd a fwriedir gyfodi ynglyn ag ef byddis yn debyg o gael ami i derfysg yn y wlad. Arwr y gadgyrch yn erbyn y Bil Addysg yw Dr. Clifford, gweinidog poblogaidd y Bed- yddwyr yn Westbourne Park. Mae ei lyth- yrau yn y Daily News ar y Mesur wedi bod yn agoriad llygaid i lawer o Ryddfrydwyr claiar. Ar ol ei eglurhad ef, ni ddylai yr un Ymneillduwr fod yn hepian nac yn dawel.