Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

TRYMHAU'R GOSB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRYMHAU'R GOSB. 0 ddrwg i waeth y mae pethau'n myn'd ym Methesda. Gwyr Arglwydd Penrhyn yn dda y sefyllfa druenus y mae'r dynion ynddi; ac yn awr ei oruchafiaeth y mae yn bender- fynol o hawlio y telerau goreu ag a all, tra ar yr un pryd y mae'n ymhyfrydu mewn cosbi'r troseddwyr hyd eithaf ei ddigllonedd. » Credid rai dyddiau yn ol ei fod yn barod i roddi ystyriaeth i gri y chwarelwyr, y rhai ydynt wedi ymddwyn yn llawer rhy foneddig- aidd ato yn ystod yr holl amser ond y mae yn eglur bellach nad yw ei arglwyddiaeth yn barod i ganiatau yr un iota o ryddid iddynt o'r tufewn i'r chwarel, ac y gwna ei eithaf ar yr adeg bresenol i roddi terfyn am byth ar unrhyw anghydfod o fewn y lie. Rhaid i'r bobl, mewn gair, fod yn slafiaid i Gastell Penrhyn, neu newynu yn yr ardal, Gan y dynion eu hunain y mae'r gallu i roddi ateb- iad i hyn, ond nid oes genym ddim ffydd y gwnant hwy ymddwyn yn gadarn o dan y tel- erau presenoL • » • Rhy dawel a boddlongar ydynt wedi bod o lawer. Pe baent wedi dangos tipyn mwy o benderfyniad buasai y wlad wedi eu helpu yn llawer mwy calon-agored. Na, rhyw hen labwst yw'r chwarelwr wedi bod, a dyna a fydd hefyd tra y caniata i fobl fel Arglwydd Penrhyn ei gaethiwo a'i fflangellu. Mor wa- hanol ydynt hwy i'r Bauwyr Ac fe fydd pob gwlad dan haul yn dyheu am gynorthwyo y rheiny am eu bod wedi ymladd, ac ymladd yn ddewr, er nad yn fuddugoliaethus.

MARWOLAETH R. A. DAVIES, "…

[No title]