Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

" LLAWDDEN " A CHENEDLAETH-OLDEB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLAWDDEN A CHENEDLAETH- OLDEB. Ar ol coroni'r Bardd ym Mangor a gorphen ag adran lenyddol a Chymreig yr hen wyl, caed blasusyn nad oedd wedi ei osod ar y rhaglen, sef araeth fer gan Ddeon Tyddewi. Yr oedd yr hybarch Ddeon newydd ddod i'r Gogledd o Gymanfa'r Eglwyswyr yn Aber- ystwyth, a da oedd iddo wneyd hyny oherwydd gosododd fwy o wir genedlaetholdeb yng nghalonau y bobl, a mwy o ysbrydiaeth y gwladgarwr Cymreig yn eu tueddiadau nac a gaed gan holl droion a chynulliadau yr wyl. Y mae plant y genedl bob amser yn ad- nabod caredigion y genedl, a phan welwyd Llawdden ar y llwyfan, bu raid iddo roddi araeth ar unwaith-araeth heb na pharotoad na thestyn, dim ond yr ysbryd cenedlgarol yn tori allan yn ei gyflawnder, a thrueni fuasai colli ei eiriau amserol a chraff. Dyma syl- wedd ei draddodiad "Yr oeddwn wedi clywed yn y Deheudir," meddai, fod yr Eisteddfod yn debyg o farw ym Mangor, ac felly daethum o gesail y greadigaeth ym mheilafoedd sir Benfro cyn gynted ag y gallwn i gclli deigryn ar ei bedd ac i dalu y warogaeth olaf iddi. Wedi cyr- haedd, gwelais nad oedd yr Eisteddfod yn marw, ond yr oedd wedi cyfnewid ei dillad o wlanen cartref am sidanau y Sais. Buasai yn well genyf er hyny weled ei morwynion glan a phrydferth yng ngwisg gwlan defaid Cymru. Edrychent cyn hardded, a dyweyd y lleiaf. Pan gyrhaeddais Fangor y noson cynt, adgof- iwyd fi am amser dedwydd 40 mlyriedd yn ol pan adnabu'm y ddinas gyntaf, a'r pryd hyny trigai ynddi ddau hen wr yr oeddwn yn hoff iawn o honynt. Un o honynt oedd y Deon Cotton, hen glerigwr, mor garedig a doniol a'r un a wisgodd gios penglin erioed (chwerthin). A'r llall oedd y Parch. Arthur Jones, D.D., hen gyfaill calon i mi ac i'r Deon. Yr hyn a hynodai Dr. Arthur Jones oedd, nad oedd yng Nghymru y dyadiait hyny ond dau neu dri a feddai y radd 0 D.D.; ond erbyn heddyw yr oeddynt mor lliosog a meillion Mai,-ond bendith Duw ar bob un o honynt (cymeradwyaeth), Yr oedd yr Eisteddfod wedi myned yn uchel iawn erbyn heddyw, a'r bardd coronog, er mor ieuanc ydoedd, newydd raddio yn M.A., ac nid oedd rhyw lawer er pan fu efe yn y coleg ym Mangor. Erbyn heddyw nid oedd raid i'r Cymro fyned o'i wlad ei hun i gael yr addysg; a'r urddau uchaf yr oedd yn bosibl eu caeL Gallai eu derbyn yn ei Brifysgol ei hun oedd dan nawdd y Brenhin, ac i ba un yr oedd: Tywysog Cymru yn Ganghellydd (cym)., Hynodid diwedd y 18ied ganrif gan ddiwygiadf crefyddol cryf, a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddiwygiad addysgol pwysig, Na ato Duw iddynt ysgaru rhyngddynt— gwybodaeth a gras, addysg a chrefydd. Dysg yn y pen, a gras yn y galon, oedd eisietr, arnynt bob un. Bu amser pan arferai y Cymro synied yn rhy fach am dano ei hun, a phan adawai i estroniaid ei wthio o'r neilldi» yn ei wlad ei hun. Gwas i weision fu yr hen labwst meddal, tawel, llonydd, ymostyngar a. dioddefgar (chwerthin), Dyna fu'r Cymro, Ond yr oedd yr hen lane yn dechreu dihunc* (cym). Oedd; yr oedd bywyd yn yr hen lew wedi'r cwbl; ac yr oedd eisoes wedi enilf iawnderau na freuddwydiodd ei gyndadau, erioed am danynt. Ond yr oedd ganddynt lawer iawn eto i'w henill. Yr oedd ganddynt bentrefi ymhob cwr o Gymru oedd yn warth f, wareiddiad, a miloedd o bobl yn byw mewn Heoedd lie yr oedd iechyd, syberwyd a gwedd- eidd-dra bron yn bethau gwyrthiol. Dywedai hyn yn wyneb yr aelodau Seneddol oedd yno,, a gwelai un o honynt yn eistedd o'i flaen. Yr oedd yn warth i'r wladwriaeth fad pobl onest,. pobl ddiwyd, yn gorfod byw lie na wnaethai cwn hela'r ysweiniaid byth dynu anadl. Cyflwr. pentrefi Cymru ddylai fod pwnc y dydd o hyn- allan. Gobeithiai eu bod oll yn byw EfengyJ y Groes, ac a'u holl egni am ei lledaenu dros wyneb y ddaear. Yr oedd ganddynt genhadon; dewr ar Fryniau Cassia, ac ynghanol yn India- ac mewn gwledydd ereill. Na fydded iddynt anghofio y Cenhadwr Griffith John, Cymro C" Forganwg, a'r cenhadwr mwyaf llwyddianus y dyddiau hyn yn yr holl Ymherodraeth Chineaidd. Ond dylent yng Nghymru gofio. fod y fath beth a chrefydd y corph a chrefydd, yr enaid hefyd :— Da i bawb cynildeb yw A thad i gyfoeth ydyw." Beth ddylai fod eu gwaith yn ystod yr ugeinfed ganrif ? Gweithio allan eu hiachaw- dwriaeth eu huncin. Na fydded iddynt ddis- gwyl i'r dieithriaid wneyd unrhyw beth dros- tynt. Disgwyl gormod ar ddieithriaid fw melldith y Cymry yn yr oesoedd gynt. Ni,, ddylai fod felly. Ni ddymunai feithrin culni) yn y genedl. Nid Cymru i'r Cymry ar draul ereill, ond lie byddo gallu, cymhwysder st chymeriad, dylai y Cymro gael chwareu teg yn ei wlad ei hun. Eu gwlad hwy ydoedd hL Ni ddymunai efe brophwydo 'chwaith, ond? yr oedd yn rhaid iddo ddyweyd y byddai i'r Cymry Berchenogi eu gwlad, y mynydd a'r mor, pan fyddai holl feddau'r byd ar un gair yn agoryd. Wrth wyr a gwrag-edd ieuainc Cymru dymunai ddyweyd Glynwch wrth yr hen iaith, gwasanaethwch yr hen genedl bydd- wch ffyddlawn i'w Beibl; meithrinwch yr hen grefydd, ac anrhydeddwch goffadwriaeth y cyd-dadau (cym). Rhyfeddai wrth edrych o- gylch y babeli na welai enw yr ArchddiacoB Griffiths a pha le yr oedd darlun Tom Ellisr ysbryd yr hwn oedd yn fyw yn y genedl. Yng' Nghasnewydd y gwelodd efe ef ddiweddaf—- yr anwyl Dom Ellis, sirioldeb yn ei lygaidy. hawddgarweh ar ei rudd, ac mor hoenus a'r ehedydd, ond erbyn hyn y peth goreu allent ddisgwyl fyddai gwiriad yr hen ernyn Melus fydd y fwyn gyfeillach Yn y tragwyddoldeb maith.

Byd g A"I --R CBan.