Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
OddeutuOp BiHnas*
OddeutuOp BiHnas* A barnu oddiwrth y cynulliadau mawrion a gaed yn y gwahanol eglwysi y Sul diweddaf, y mae Cymry LIundain wedi dod yn ol o'u gwahanol bererindodau hafol, ac yn edrych er gwell ar ol y gwyliau. # » Caed torfeydd mawr yn Falmouth Road yn ystod eu gwyl bregethu, ac yr oedd gwrando ar ddau o wyr blaenaf y Cyfundeb ym mher- sonau y Parchn. Thomas Jones, Rhostyllen a John Hughes, M.A., Lerpwl, yn dwyn adlais melus o wyliau mawr yr hen wlad yn y dydd- iau gynt. Mae'r pregethu mor nerthol ag erioed; ond a ydym ni yn gwerthfawrogi hyny sydd amheus. Trefnir i gynhal cyngherdd mawreddog ynglyn a Chapel Barrett's, Grove yn Shore- ditch Town Hall ar y 4ydd o fis Rhagfyr nesaf, ac y mae nifer o gantorion gwych wedi eu sicrhau eisoes, megis cor Madame Clara Novello Davies, Emlyn Davies, Her- bert Emlyn, &c., ond fe geir yr holl fanylion eto. Da genym weled fod yna gryn dipyn o weithgarwch ynglyn a'r capel hwn bellach, ac fod gwedd fwy llewyrchus yn dod ar y lie o dan ofal y gweinidog parchus-y Parch. R. Rowlands. Ond gan fod baich trwm o ddyled ar yr adeilad, mae'n anhawdd symud ymlaen gyda chyfnewidiadau angenrheidiol i gynydd yr ardal. Pe gellid symud y baich hwn diau y deuai bywiogrwydd eto i gapel y" Go- hebydd." » # EMYN Y CYNHAUAF. Ar y Bon Llangoedmor" new Nashville" Mewn peraidd don ac uchel lef, Dyrchafwn glod hyd orsedd nef, Am hael fendithion daear lawr; Bywyd a lluniaath, nwyf a nerth, Cysuron iechyd, pur eu gwerth, Sydd oil o law ein Crewr mawr. Ei hen gyfamod sicr yw, Ei fwrdd sydd lawn i ddynol ryw, Llygaid pob un yn disgwyl sydd Holl bysg y mor ac adar nef Eu prydlon faeth gant ganddo Ef; Pa fodd na chofia blant y Ffydd ? Ond mwy na holl fendithion byd, Diolchwn am drysorau drud Hen ffordd y cadw,-moddion gras. Gobaith gogoniant, nefol fraint Mwynhad goleuni gyda'r saint, Ger Duw a'r Oen mewn bythol flas. BENJAMIN THOMAS. » Yr wythnos ddiweddaf yr oeddem yn anog ein cyd-ddinasyddion i sefydlu corau o'r new- ydd yn ein plith, a deallwn yn awr fod Mr. Merlin Morgan wedi ffurfio cor meibion new- ydd yn y West End. Bu cyfarfod o'raelodau nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, ond bwr- iedir cynhal yr ymarferiad bob nos Fercher yn ystod y tymhor. Os gellir trefnu, byddis yn manteisio ar neuadd Charing Cross fel man cyfarfod y cor. Llwydd iddo! Y Parchn. W. J. Nicholson, Porthmadog, a R. Thomas, Glandwr, ger Abertawe, oedd pregethwyr mawr cymanfa y Tabernacl eleni, a dydd Sul diweddaf yr oedd y ddau mewn hwyl a chynulliadau mawr yn gwrando arnynt Dau o wyr blaenaf y pwlpud Anibynol yw y rhai'n a sicr yw y bydd dylanwad eu traeth- iadau yn hir ar y torfeydd fu yno. » Byr ac egwan o ran corffolaeth oedd y Gogleddwr, ond gallai bregethu yn hir ac yn gadarn gyda hyawdledd a nerth anorchfygol; ac er mai gwr hir a theneu oedd y Hall o'r De, yr oedd ei bregethau yn hynod o fyr ac yn lla wn maeth a chysuron. Pe baem i ddesgrifio ein teimladau o dan eu traethiadau melus, nis gallem wneyd yn well na defnyddio dullwedd un o gedyrn y pwlpud Anibynol, a chyhoeddi mai nid y byr oedd yn rhy hir ond yr hir yn rhy fyr < Cynhelir cyfarfodydd arbenig yng nghapel Wilton Square ar y 30ain o'r mis hwn i or- deinio y Parch. G. Havard, B.A., B.D. Dis- gwylir nifer o wyr blaenaf y Cyfundeb yno i gyd-lawenhau a'r eglwys yn ei hundeb hapus. Dydd Sadwrn diweddaf, yng Nghladdfa Finchley, claddwyd gweddillion y diweddar Roland A. Davies Yr Adroddwr," a daeth nifer o'i hen gydnabod yno i dalu'r deyrnged olaf o barch i'w weddillion. Gedy weddw a phedwar o blant ar drugaredd y byd a nodded cyfeillion, ac y mae ein cydymdeimlad llwyraf a hwy yn awr eu galar a'u colled. Yr oedd Mr. Davies wedi bod yn dioddef llawer yn ddiweddar a chafodd gystudd caled, a chan nas gallodd ddilyn ei alwedigaeth, myned allan ac nid dod i fewn oedd yr arian. Gwnaed budd-gyngherdd iddo yn ddiweddar gan ei gyfeillion, ac er iddo gael elw syl- weddol, eto, byddai gweled rhai o'n cym- deithasau dyngarol yn rhoddi ychydig gyn- orthwy i'r plant ar ddechreu eu gyrfa yn weithred i'w hedmygu a'i chlodfori. Hwyrach y cymer ein harweinwyr dyngarol y mater i ystyriaeth. Rywfodd neu gilydd, nid yw'r bardd Cym- reig, Syr Lewis Morris, yn fawr ei barch gan grach-feirniaid eiddigus Llundain, ac hwyrach mai da yw hyny hefyd yn y pen draw. Da iawn, felly, yw genym weled fod gan y Brenin farn arall am dano ef a'i weithiau, a hysbysir ni yn awr ei fod i dderbyn medal y coroniad am ei gan i'r amgylchiad pwysig hwnw. Cyhoeddwyd ei gan beth amser yn ol yn John Bull."
COF-GOLOFM i'r DIWEDDAR BARCH.…
COF-GOLOFM i'r DIWEDDAR BARCH. W. RYLE DAVIES. Y DADORCHUDDIAD YN FINCHLEY. Y mae tua deunaw mis o amser oddiar pan gollodd eglwys M.C. Holloway, Llundain, ei gweinidog poblogaidd-y Parch. W. Ryle Davies-ac y rme adgof am ei weinidogaeth effeithiol a chaled yn aros yn berarogl yn y lie hyd y dydd hwn. Fel y cofir yn ddiau, torwyd Mr. a Mrs. Davies i lawr ynghanol eu dyddiau, a gadaw- sant dri o amddifaid i wynebu gwg byd a chroesau'r ddaear yma. Ond y mae'n hyfryd cofnodi fod pwyllgor cadarn wedi gofalu am danynt a'u dysgu a'u cyfarwyddo ar ddechreu eu gyrfa. Ymhellach na hyn, teimlodd eglwys Hollo- way y dylasai wneyd rhywbeth i goffhau y cysylltiad maith a fu rhyngddi hi a Mr. Davies, a pheth amser yn ol penderfynwyd i wneyd casgliad tuagat godi cof-adail hardd ar y fan He y gorwedd yn Finchley, a rhaid dyweyd fod y mudiad wedi cael cefnogaeth unol pob gwr yn y lie. Gaed yn agos i haner can' punt o arian, a ffrwyth y bwriad oedd i gofgolofn hardd gael ei gosod ar ei fedd, a dadorchuddiwyd hi dydd Sadwrn diweddaf o flaen torf o edmyg- wyr y rhai a aethant bellder o ffordd i ddangos eu parch i enw y gwr a weithiodd mor galed am ysbaid maith yn ein mysg. Dachreuwyd y gweithrediadau trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Gaienydd Williams, yr hwn oedd ar ymweliad a'r lie ar y pryd. ac yna caed anerchiad yn Ilawn adgofion I melus a hiraethus am dano gan y Parch. J. E. Davies, M.A., yr hwn a arweiniai y gwaith. Ar ol hyn, daeth Mr. Lewis H. Roberts^ Canonbury, ymlaen, gan dynu y lien oddiar y golofn, ar yr hon yr oedd yr arysgrifen a ganlyn:— Bedd Gwr Duw a'i deulu." Er serchus gof am y Parch. W. Ryle Davies yr hwn a fu yn weinidog Eglwys M.C. Holloway am 14 mlynedd yn iawn gyfranu Gair y Gwirionedd, ac yn ffyddlawn yn yr holl dy. Bu farw Mr. Davies, 6 Ebrill, 1901. Mrs. Davies, 31 Rhagfyr 1900. Ac ar ochr arall i'r golofn, y mae y manylioti a ganlyn am y plant bychain sydd yn gorwedd yn yr un bedd a'u rhieni hoff:— Hefyd. Annie 14 Hydref 1892. David 4 Rhagfyr 1895. Getta 25 Gorphenaf 1899. Teyrnged o barch Eglwys Holloway i'w gweinidog yw y golofn hon. Dywedai Mr. Roberts fod eglwys Holloway i'w chanmol am y rhodd haelionus hon, a'u bod wedi rhoddi esiampl ragorol i eglwysi ereill i'w hefelychu. Y mae nifer o wyr enwog yr Hen Gorff yn gorwedd heb lech i ddynodi eu gorweddfan, a da y gwnaeth yr eglwys roddi arweiniad mewn mater mor bwysig. Yna caed anerchiadau edmygol ar y di- weddar Mr. Davies a'i waith gan y brodyr a ganlyn :— Mr. Evans, blaenor hynaf yr eglwys Parch Llewelyn Edwards, M.A.; Mr. John Morgan; Parch D C Jones, y Boro; Parch J Wilson Roberts, a gorphenwyd drwy weddi gan y Parch. D. Oliver, Mile End.
[No title]
Bu'r nofelydd Ffrengig enwog, M. Zola, farw mewn modd hynod foreu dydd Llun diweddaf. Trwy ryw anffawd, llanwyd ei ystafell wely a mwg o'r tan, a mygodd cyn i neb ddod i'w alw yn y boreu. Yr oedd yn 66 mlwydd oed, ac yn un o gymeriadau llen- yddol hynotaf Ffrainc yn y blynyddoedd hyn. Fel pob dyn mawr, cafodd ei erlid droion a'i glodfori hyd yr entrych gan ei gydwladwyr. Yr wythnos ddiweddaf, teithiodd cerbydres o orsaf Euston i Gaergybi heb orfod aros unwaith ar y daith. Cludai y gerbydres Arglwydd Raglaw newydd yr Iwerddon, a chychwynwyd o Lundain am 1.40 o'r gloch y prydnawn. Cyrhaeddasant Gaergybi erbyn 6.43 o'r gloch, sef taith o 264 milldir mewn pum' awr a thair mynud. Dyma y daith hiraf a wnaed eto gan wyr y rheilftordd heb arosiad ar y siwrne. Ofni streic fawr y maent yn y Deheudir. Os gwrthyd y meistriaid fwrdd cymod yn He y llithr-raddfa dywed Mabon y bydd yr ymdrechfa fwyaf colled us a welodd y fasnach lo erioed. •
Advertising
GRELLIER & SON Welsh Printers, 211, GRAY'S INN ROAD, W-C A Large Staff always ready for all Classes of Work.