Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
LLYFRAU NEWYDDION.
LLYFRAU NEWYDDION. Ar ol seibiant y gwyliau a thawelwch glan y mor, daw son am weithgarwch ym myd y llyfrau. Nid yw'r fasnach wedi bod yn rhyw fywiog iawn er's cryn amser, a phriodolid byny yn gyffredin i'r ffaith fod y rhyfel wedi diddymu'r wlad o arian ac nas gallasai'r werin iforddio i wario cymaint ag a wnai gynt ar lenyddiaeth a chyhoeddiadau cenedlaethol. Ond er yr holl ofrau a chwyno, parhau y mae'r cyhoeddwyr i droi allan eu cyfrolau. Yr un fath am yr awduron eu hunain, maent hwythau yn ail ddechreu erbyn y tymhor gauafol, a deallwn fod y bardd Elfed ar fin cyhoeddi dau lyfr, un yn Saesneg o dan nawdd cymdeithas Religious Tract Society, a'r llall o swyddfa leol yn ardal Pencader. Wrth gwrs, Cymraeg hollol fydd yr olaf, a hysbysir ni mai nifer o emynau a man ganeuon cysegredig fydd cynwys y gyfrol. Cyfrol arall ar droed ydyw eiddo Eleazer Roberts ar Henry Richard, Apostol Heddwch," ac y mae'n resyn ein bod wedi aros cyhyd cyn cael Cofiant Cymraeg o'r gwr da hwn. Ymysg y llyfrau diweddaraf i law rhaid galw sylw at y rhai'n:— Ganeuon Talhaiarn, cyfrol sydd newydd ddod allan o Swyddfa'r Genedl, Caernarfon, gyda rhagdraeth o waith Anthropos. Dyma gyfrol a haedda glod. Yn un peth, am ei rhadlondeb a'i diwyg, nid yw ond swllt mewn llian hardd, wedi ei hargraffu ar bapyr rhagorol; a mentrwn ddyweyd mai hon yw'r gyfrol rataf sydd eto wedi ymddangos o waith unrhyw un o feirdd y genedl. Mae cyfrolau cyntaf Talhaiarn yn costio o bymtheg swllt i bunt, ond wele heddyw ddetholiad rhagorol o bedwar ugain o'i ganeuon goreu am swllt. Os bydd unrhyw Gymro llengar heb, feddu Talhaiarn ar ol hyn, ni haedda ei gydnabod fel Cymro. Nodwedd ragorol arall yn y gyfrol yw'r chwaeth a ddefnyddiwyd gyda'r detholiadau, ac y mae'r cyhoeddwyr i'w can- mol am hyn. Ei ganeuon oedd goreu-bethau "Tal," ac wele hwynt i'r darllenydd eto mor ir eu swyn ac mor felcdaidd eu geiriau ag oeddyntddeugainmiynedd yn ol pan eu cenid yn lied gyffredinol. Yr oedd angen am y casgliad hwn, ac y mae cael cyfrol rad yn haeddu pob cefnogaeth. Y Monwyson. Dyma gyfrol yn ymdrin a'r Morisiaid o Fon a Goronwy Owain. Traeth- awd beirniadol oedd ar y cyntaf, a wobrwy- wyd yn Eisteddfod Lerpwl igoo, a bellach, wele ef wedi ei gyhoeddi i'r cyhoedd. Fel traethawd hanesyddol, y mae yn llyfryn bychan cymeradwy, a cheir ynddo gryn lawer am Lewys Morus a Goronwy, ond y mae'n eglur mai cyfaddasu yr hyn oeddid wedi gy- boeddi o'r blaen y mae'r awdwr, yn hytrach na gwneyd defnydd o'r ystor enfawr o weith- iau y brodyr yma sydd eto ar gael mewn llythyrau. Credwn ei fod yn llawer rhy lym ar Lewis am ei ddiffyg chwaeth," gan edrych arno o safbwynt y Piwritan cul, yn hytrach na'i feirniadu yn ysbryd yr oes yr ydoedd yn byw ynddi. Nid rhyw fardd proffesedig pendrwm, a'i olygon ond yn cyr- haedd o Ardd Eden i Ben Calfaria fel yr awenyddion diweddaraf oedd Lewys Morus; end Cymro llawn o fywiogrwydd ei oes yn byw bywyd y genedl yn ei chyflawnder ac yn canu yr un mor naturiol ag ydoedd yn byw. Am Goronwy druan, yr un hen stori a geir gan "Asaph," a sicr yw fod yna rywbeth ychwaneg i ddyweyd am y gwr hwn, oherwydd prin yr ydym yn credu fod ei genedl wedi ei esgeuluso mor llwyr ag y myn ein llenorion, a hyny heb achos. Ai nid yw'n bryd i'n hanes- wyr gael o hyd i'r gwirionedd, a beirniadu y cymeriad yn ei wir oleuni. Yn ein cred ni byddai yr un mor deg i ddyweyd fod y genedl wedi esgeuluso y diweddar Llew Llwyfo ag iddi anwybyddu yr hen fardd Goronwy. Dau o feibion athrylith, ond dau rhy anhawdd eu trin gan eu cyd-ddynion! [Y MONWYSON. Pris 2s 6c. Cyhoeddedig gan T. R. Roberts, Asaph," Caernarfon.]
MRS. POPHAM, A LLENYDDIAETH…
MRS. POPHAM, A LLENYDDIAETH GYMREIG. Er nad yw y foneddiges dalentog a dysg- edig-Mrs. Popham-yn Gymraes o genedl nac yn byw yng Nghymru ond ar brydiau megys, y mae yn parhau i gymeryd dyddor- deb neillduol yn ein hiaith a'n llenyddiaeth, fel yr eglurais rywbryd yn flaenorol yng ngholofnau Cymreig y CELT. Derbyniais lythyr oddiwrthi yr wythnos o'r blaen, ac amlwg oddiwrth y llythyr ei bod nid yn unig yn effro i'n symudiadau fel Cymry ond yn parhau i weithio ynglyn a chyfieith- iadau o'r Gymraeg i'r Saesneg, fel arfer. Y mae Mrs. Popham yn un o'r personau an- wylaf y cefais erioed y fraint o'u hadnabod. Ceir ynddi gydgyfarfyddiad dymunol o hyn- awsedd, boneddigeiddrwydd, dawn a dysg. Rhoddaf yma ei llythyr fel y gallo'r darllen- ydd weled fel yr ysgrifena hi yn yr hen iaith -yr hon iaith yr esgeulusir cymaint arni gan ei phlant ei hun (y Cymry). Yr wyf hefyd yn rhoddi y gân y cyfeiria y foneddiges lengar ati, ynghyda'i chyfieithiad hi o'r cyfryw, fel y gallo y darllenydd weled a mwynhau yr ychydig a wneir mewn ambell gyfeiriad fel hyn i ddwyn ein hiaith a'n llenyddiaeth i sylw cenedloedd ereill. A maddeuer i minau os llawenychaf ychydig fod ambell ddarn o'm heiddo yn myned drosodd yn ei bwysau at wasanaeth ein cymydogion Seisnig. South Cliff Hotel, Southbourne-on-Sea, Christchurch, Hants. Medi 19 eg, 1902. "Anwyl Trebor Aled,-Gwelais yn ddi- weddar yn y CELT (LLUNDAIN) eich pryddest fechan dlos Gyda'r Wawr,' ac yr ydwyf yn anfon atoch gyfieithiad o honi, gan obeithio y bydd yn gymeradwy genych. Buaswn yn ei anfon o'r blaen, ond yr ydwyf wedi bod yn brysur iawn. Yr oedd yn dda iawn genyf weied fod yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr, ond yr oedd yn ddrwg genyf fod y corau Cymreig yn cael eu gorchfygu etc. Y mae yn rhaid iddynt, I look to their laurels,' chwedl y Saeson, a gweithio yn galetach am y tro nesaf. Mae arnaf eisieu gweled yr hen wlad' yn parhau yn uchaf yn y gelf sydd yn neillduol iddi hi ei hunan. Ni anfonais ddim i'r Eisteddfod eleni, o ran yr oeddwn yn y gwledydd pell yn y gwan- wyn, ac wedi hyny yr oeddwn yn brysur gyda fy ysgrifeniadaa Saesneg. A oeddych chwi yn llwyddianus gyda rhywbeth yn yr Eisteddfod ? Gyda chofion caredig yr ydwyf Yr eiddoch yn gywir, JEANNIE S. POPHAM." Dyna i chwi, gydwladwyr, lythyr Cymraeg gan foneddiges fwyn 0 genedl arall, ac nid oes ond ychydig flynyddoedd er pan ddech- reuodd ddysgu ein hiaith ac wele yn canlyn un o'i hyirdrechion prydferth yn cyfieithu, ac un o'r rhai diweddaf o'i heiddo o'r Gymraeg, sef y gan y cyfeiriwyd ati eisoes :— GYDA'R WAWR. O'm trigfa dawel fechan, Gyda'r wawr, gyda'r wawr, Difyrus rodiais allan Gyda'r wawr, Ar hyd y dolydd gwyrddion Trwy ganol rhos a meillion Yn nghwmni aiono yr afon Gan wrando ei murmuron Gyda'r wawr, gyda'r wawr. Ce's wel'd y gloyw wlithyn Gyda'r wawr, gyda'r wawr, Yn lloni'r gwylaidd flodyn Gyda'r wawr. Ce's glywed praidd y dolydd Yn galw ar eu gilydd, Ac adar man y coedydd I Yn cyfarch y boreuddydd Gyda'r wawr, gyda'r wawr. Cyflwynais inau ganiad Gyda'r wawr, gyda'r wawr, I'r Hwn adfywiai'r cread Gyda'r wawr. Ac wedi diolch Iddo Gofynais gawn i huno Mewn blodau yn fan hono Nes cael ryw ddydd fy neffro Gyda'r wawr, gyda'r wawr. WITH THE DAWN. From my quiet little dwelling I With the dawn, with the dawn, I wandered, care compelling With the dawn, Through fields with clover growing And roses sweetly blowing, Beside the river glistering To its gentle murmurs listening With the dawn, with the dawn. Fresh dew of Heaven's distilling I With the dawn, with the dawn, I saw, each flower-cup filling I With the dawn. Through the haze of sunbeams falling Came the sound of cattle calling, The woods were set a-ringing By the glad birds joyous singing With the dawn, with the dawn. I, too, sang adoration With the dawn, with the dawn, To Him who wakes creation With the dawn. And I prayed that in His keeping Here amid the flowers sleeping I may lie, my long rest taking Till some day comes my waking With the dawn, with the dawn. Yr eiddoch yn wladgar, TREBOR ALED.
"YR HEN AMSER GYNT."
"YR HEN AMSER GYNT." Y Gwyddel, onide, oedd yn bostio un tro y gallasai brynu dau ffowlyn am chwe' chein- iog yn ei ardal enedigol ym mhellafoedd ei wlad. Wel, ynte," ebe'r Sais ai clywai, "pam y daethost yma i Lundain tra yr oedd bwyd- ydd mor rhad yn dy gartref." < O," meddai Pat, "y rheswm ydoedd, prin- der y chwecheiniogau." Yr un fath gellir dyweyd am yr hen amser gynt pan welir mor rhad oedd y gost o fyw, eto yr oedd yr un mor anhawdd cael arian i brynu cynhaliaeth y pryd hyny ag yw yn awr. Dyma rai o'r prisiau a delid gan Lewis Morris—Llewelyn Ddu o Fon—yn sir Aber- teifi, yn 1761, pan y trigai yno :— Eog (salmon) ic y pwys, Ysgadan Deg am geiniog. Giar Tair ceiniog. Ymenyn Tair ceiniog y pwys. Ac ysgrifena tua'r un adeg at ei frawd fod Lloyd o Peterwell (ger Llanbedr) wedi adeil- adu palasdy hardd iddo ei hun am chwe' cheiniog y dydd i'r gweithwyr ar eu cost eu hunain. Beth feddyliai'r gweithwyr heddyw am lafurio am dri swllt yr wythnos ar eu traul eu hunain I
Advertising
SHIRLAND ROAD PRESBYTERIAN CHURCH, PADDINGTON. ANNUAL GRAND CONCERT and TEA THURSDAY, OCTOBER 30th. FURTHER PARTICULARS SHORTLY.