Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Bud u Ban. u

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bud u Ban. u Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] GWYL GERDDOROL GYMREIG. Yr ydym yn bresenol ynghanol tymhor y gwyliau cerdd- orol; ac yn eu plith ceir gwyl Caerdydd. Fel y dywedasom laweroedd o weithiau, credwn yn gryf yn y gwyliau hyn y maent yn gwneyd lies dirfawr i genedl y Saeson. Drwyddynt caiff y bobl fantais i glywed y prif weithiau, hefyd rai newyddion. Hefyd, y mae corau y gwahanol gylchoedd yn myned drwy yr ym- arferiad mwyaf llesol, drwy ymgodymu a gweithiau cyflawn. Fel hyn cedwir y can- torion ochr yn ochr; ac y mae'r un fantais yn syrthio i ran y gwrandawyr. Oni fyddai yn bosibl sefydlu GWYL GERDD- OROL GYMREIG LuNDEiNic ? Y mae y defnydd- iau vrna; ac y mae'r cyfleusderau yn ffafriol iawn-lIawer mwy felly nag ydynt i leoedd gwledig. Yn enwedig, hawdd fyddai cael yma y chwareuwyr cerddorfaol goreu o fewn y deyrnas. Byddai yn hawdd iddynt gyd- gyfarfod. Y mae nifer ein hunawdwyr proff- esedig hefyd yn fawr, Nid anhawdd ychwaith ddylai y gwaith fod o ddewis cor o 300 i 400 o Gymry; a diau y gellid trefnu lie iddynt ymarfer am swm bychan. 0 berthynas i arweinydd, os etyb rhywun nad oes genym Gymro yn Llundain a allai arwain cerddorfa a chor, na fydded i ni ddi- galoni: gellid dod o hyd i un yn rhywle arall. Y peth mawr ydyw codi chwaeth ein cantorion Cymreig ac ereill nad ydynt yn gallu canu, ond ydynt yn bur hoff- o glywed canu. Y mae y gwyliau cerddorol yn gwneyd hyn i'n cymydogion-heblaw eu bod yn fodd- ion i ddwyn elw sylweddol i ysbytai a sef- ydliadau teilwng ereill. Os dywed rhywun fod genym ein cyman- faoedd canu yn Llundain, atebwn yn wylaidd nad oes genym lawer o ffydd ynddynt-nid cymaint ag yn y blynyddoedd a fu. Y mae'r dechreuwr canu yn awr yn gerddor lied abl; ac, fel rheol, gwyr lIe mae cuddiad cryfder emyn. Gwyr yn eithaf da pa fath o don a etyb i eiriau penodol. Gellid felly yn rhwydd a diogel adael iddo ofalu am donau y cysegr, yn enwedig gan fod wrth ei law gasgliad o donau diweddar mor fawr ac amrywiol. Onid yw felly yn bryd i ni godi at bethau uwch yn y byd cerddorol ? Os rhaid cadw'r holl eisteddfodau ar fyn'd yma, oni ellid trefnu i gynhal gwyl gerdd- orol Gyrnreig bob yn ail blwyddyn? Neu, goreu oil pe cyfyngid yr eisteddfodau i'r capelau unigol, oddigerth UN eisteddfod fawr i'r oil, a hono i'w chynhal bob yn ail a'r wyl gerddorol. Yn y ffordd hon gallai y man eisteddfodau fod yn foddion dadblygiad i'r talentau lleol, a byddai yr eisteddfod fawr yn lie manteisiol i oreuon y talentau lleol ym- ddisgleirio. Yn yr wyl gerddorol gellid defnyddio talentau ein meibion a'n merched i gyflwjno i sylw weithiau Cymreig a Seisnig teilwng— rhai hen a diweddar; hefyd, gellid ynddi gyflwyno i sylw gynyrchion cerddor- faol, am ba rai y mae arnaf ofn nad oes gan nifer fawr o'n Heisteddfodwyr Llundeinig yn bresenol y ddirnadaeth leiaf. Yr ydym, dro yn ol, wedi apelio at ein darllenwyr i draethu eu barn ar faterion cerddorol, ond yn ofer. A ydyw yn bosibl eu deffro i ymdrin a mater yr ysgrif hon Beth yw eu barn arno ? A fyddant hwy yn fodd- lawn i gyfarfod a ni i fyned ymhellach i'r manylion ac i ffurfio pwyllgor i geisio cario allan y cynllun ? Y mae'r golofn hon yn rhydd iddynt ddyweyd eu barn, a gobeithio y gwnant hyny yn ddioed. Yr ydym yn dis- gwyl wrthynt. Carem gael gair oddiwrth pob dechreuwr canu ac organydd ac ereill.

[No title]

Y Dyfodol.

'PREPAID WANTS.

Advertising