Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
CYNGHERDD ER BUDD YR HEN FARDD "CWCWLL" I GYMERYD LLE AR NOS WENER. Taeh.wedidl mi, i@@% YN YR HOLBORN TOWN HALL. CADEIRYDD- Timothy Davies, Ysw., C.S.Ll. (Maer Fulham). GYSTIDLEDAETH I FARITONE. AM Y DADGANIAD GOREU O'R GAN "The Bugler," RHODDIR Cwpan Arian Hardd. Mnwau yr ymgeiswyr ar yr Unawd Baritone i fod yn llaw yr Ysgrifenyddion erbyn y dydd Sadwrn blaenorol i'r Cyngherdd, sef Tachwedd 15fed. Cynhelir Prawf Rhagbarotoaiul nos Iau yr 20fed 0 Dachwedd (sef y noson flaenorol i'r cyngherdd). Rhoddir gwybodaeth ym mha le y cymer le, ar fyrder. Fel y rrae'n wybyddus i bawb o Gymry Ijlundain bu Cwcwll yn un o'r rhai mwyaf pared, ar ran ereill, ynglyn a gwaith o'r natur yma yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio. Erbyn hyn y mae wedi myn'd yn llesg iawn ac yn analluog i enill bywoliaeth, ac amcan y mudiad hwn yw rhoddi cynhaliaeth iddo. Y mae pwyllgor sylweddol a dylanwadol wedi ei ffurfio ynglyn a'r mudiad; ac y maent yn dymuno apelio at bawb o Gymry Llundain am eu cefnogaeth. Cadeirydd y Pwyllgor: R. T. OWEN, Ysw., Capel Holloway. Trys. ac Ymddiriedolwyr: J. D. LEWIS, Ysw., Tabernacl, a L. H. ROBERTS, Ysw., Wilton Square. IBydd ein Cantorion Blaenaf yn gwasanaethu yn y cyngherdd. Gellir cael tocynau i'r cyngherdd oddiwrth yr ysgrifenyddion ac aelodau y pwyllgor. Ysgrifenyddion I. DAVIE S, 65, Wynyatt Street, Goswell Road, E.C. E. THOMAS, 3, Warburton Street, Mare Street, Hackney.
CAU Y DRWS YM METHESDA.
CAU Y DRWS YM METHESDA. Yr oedd miloedd o Gymry yn gobeithio ychydig ddyddiau yn ol fod helynt y Penrhyn ar ddarfod. Anfonodd y bobl oedd allan ar streic at ei arglwyddiaeth ei hun, i ofyn iddo am roddi gwrandawiad i'w cwynion, a thybid gan rai y buasai dyngarwch yn galw ar y teyrn o gastell Penrhyn i roddi clust o wran- dawiad i'r rhai oedd yn haner newynu o'r tu allan; ond siomwyd pawb yn aruthr. Cyd- syniodd i'w derbyn ar delerau, ond yr oedd y telerau hyny mor anheg fel y bu raid i'r chwarelwyr eto roddi eu hachos ger ei fron. Hawliai Penrhyn nad oeddent i ofyn o gwbl am bwyllgor yn y chwarel: hyny yw, nad oeddent byth i ffurfio un math o Undeb yn y lie i ymdrin a'u cwynion a'u hawliau cyfreith- iol. Amcan hynyna, wrth gwrs, oedd lladd pob rhithyn o'r ysbryd undebol yn eu mysg er gwneyd y bobl yn unigolion diamddiffyn fel ag y gallesid eu troi a'u trin fel y mynid dan bawenau swyddogion y chwarel. Gofynai y bobl am ganiatad i setlo materion eu hunain yn eu ffordd eu hunain, a chaniataent iddo yntau i wneyd yr un fath a'i eiddo ei hunan. Ond nid yw Arglwydd Penrhyn wedi dysgu yr egwyddor hono. Nid yw yn foddlawn cania- tau i ereill yr hyn a hawlia efe ei hun. Rhaid iddo ef ddangos ei fod gryn raddau yn uwch a gwell na phawb ereill; ac, a gwr felly, ofer yw disgwyl y ceir dim trwy deg na thrwy ym- resymu ag ef. Mae'r dynion bellach ar dru- garedd y werin, a gobeithio y cynhelir hwy am gryn ysbaid eto er eu galluogi i gario allan eu brwydr fawr a'r gwr creulawn hwn. Hwyrach y daw y bobl bellach i weled rhes- ymoldeb cyngor John Burns, yr hwn a ddy- wedai mai nid trwy ganu emynau a siarad yn oedd y ffordd i enill iawnderau. Rhaid ymladd eto fel yn y dyddiau gynt, a goreu po gyntaf y deallo pobl Bethesda hyny.
CEISIO DIWYGIO YR ANNIW-YGIADWY.
CEISIO DIWYGIO YR ANNIW- YGIADWY. Sonia ambell Ryddfrydwr clauar am ddiw- ygio y Mesur Addysg, ac y gwnai fil go lew pe tynid o hono yr adran yma neu y Hall. Aeth adyn ysgeler o grachbrydydd gwlad un tro at Jonathan Huws o Langollen gan erfyn arno gywiro rhywbeth ar lun englyn a wnaethai. Edrychodd y bardd yn fanwl ar yr englyn a chraffodd yn ddifrifol ar yr awdwr, a chydag ochenaid, sylwai, Hawdd- ach gneyd un newydd o lawer, Nedi bach." Cymhwyser yr un geiriau am y Bil Addysg, deg Hawddach gneyd un newydd o lawer, Balfour bach."
MR. HUMPHREYS-OWEN A'R MESUR…
MR. HUMPHREYS-OWEN A'R MESUR ADDYSG. Wrth siarad y dydd o'r blaen ym Meifod ar y Mesur Addysg, cyfeiriodd Mr. Hum- phreys-Owen, A.S., at y pMisi o wrthod talu y dreth. Os, meddai, y byddai i ddyn ddatgan yn gydwybodol, Y mae hon yn gyfraith ddrwg," a dioddef ei chosb yn hytrach nag ufuddhau iddi, nid oedd ganddo ef ddim i'w ddyweyd yn erbyn y fath benderfyniad gael ei gario allan ar ran y person hwnw. Ond nid oedd ef yn cytuno a'r rhai a geisient, mewn ffordd o wrthwynebiad cydwybodol, rwystro i Ddeddf Seneddol gael ei chario allan drwy wrthwynebiad undebol i ufuddau iddi. Yn dal y golygiadau hyny, yr oedd ef yn analluog i argymhell i Gynghor Sir Mal- dwyn esiampl Cynghorau Sirol Caernarfon a Fflint, ac i gyhoeddi gwrthwynebiad i gario y ddeddf allan.
HYN A'R LLALL.
HYN A'R LLALL. Mae Cynghor Eglwysi Rhyddion. Pwllheli, fe ddywedir, wedi gwneyd penderfyniad i gymeryd pleidlais ar y Mesur Addysg. Mae y Parchn. Charles Davies, Caerdydd, ac Evan T. Jones, Llanelli, wedi eu penodi i draddodi pregethau Cymreig mewn cy- sylltiad a Chymanfa Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon i gael ei chynal y mis hwn yn Birmingham. Mae Mr. Michael Davitt, mewn llythyr at ohebydd, yn desgrifio y Mesur Addysg fel offeryn a drwsgl gynlluniwyd i dori dan a din- ystrio gwir reolaeth y bobl dros addysg fydol, a gobeithia y bydd iddo gael ei orchfygu. Deallwn fod Cofiadur yr Orsedd, Eifionydd, wedi dychwelyd yn ol o'i ymweliad a Montreal, Canada, lie yr aeth am adferiad iechyd. Waeth gan ynadon y dyddiau hyn yn y byd pwy i'w dirwyo os y gyrant gar modur yn rhy gyflym. Gwyr pawb am y dirwyon ar yried- ydd Ardalydd Mon, a'r dydd o'r blaen dir- wywyd gyriedydd y Prif Weinidog i 6p am yru cerbyd ei feistr yn ol 25 milldir yr awr. Y Parch. J. Owen, gweinidog gyda'r Ani- bynwyr yn Bethesda a Llandysilio, Penfro, ac olynydd i'r Parch. D. Stanley Jones, Caernar- fon, a enillodd ar y bryddest i Dewi Sant yn Eisteddfod Clynderwen. Brodor o Lanelli ydyw Mr. Owen, a dechreuodd ei yrfa, fel y Parch. J. Ossian Davies, yn argraffydd. Yr oedd yr athraw Hybarch M. D. Jones a. Dr. Pan Jones yn perthyn i'r un adran o fyddin Indipendia; a phan hysbyswyd fod y blaenaf ar fedr cyhoeddi llyfr ar Wenyn, gofynai hen grafwr fyddai dim gwell hefyd i Dr. Pan wneyd llyfr ar Gacwn, wrth ba rai y golygid debyg pobl y Cyfansoddiad Newydd. Daw cor o Rymney ynghyd ag ereill i gystadleuaeth Eisteddfod Queen's Hall yn Chwefror nesaf. Faint o gorau Seisnig a ddel, ni wyddis eto. Aeth Archesgob Caergaint am dro i ddyff- ryn Teifi yr wythnos hon, gan ymweled a choleg enwog Llanbedr. Y coleg hwn yw magwrfa offeiriaid y wlad. Mae Chamberlain yn dechreu ofni. Yr wythnos hon galwodd am gynhadledd o'i gefnogwyr ym Mirmingham, er ceisio eu hudo i'r un farn ag ef ei hun ar y Mesur. Y ffaith amlwg yw, y try Chamberlain gyda llais y wlad er mwyn cadw ei safle; ac os bydd pobl Birmingham yn gadarn cawn weled cryn gyfnewidiad yn y Bil erbyn dechreu y Sen- edd-dymhor. Y corau Seisnig eto'n cario I dyna yw'r newydd o New Brighton, ger Lerpwl. Mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yno ddydd Sadwrn diweddaf aeth cor Manchester a'r brif gamp, a chor St. Helens a'r darn i'r corau meibion! Cor Manchester enillodd pwy ddydd ym Mangor, felly, rhaid rhoddi y goreu iddynt bellach. Ym Mhorthdinorwig foreu Sul diweddaf, torodd tan allan yn un o anedd-dai y lie. Yn y ty trigai hen ferch o'r enw Lucy Hickson a phan welodd y cymydogion fod y lie ar dan, aethant i geisio ei chael allan o'i hystafeU. Aeth cymydog o'r enw Mrs. Evans i fewn trwy y ffenestr, ac wrth lusgo allan gorff y truanes, gorchfygwyd hithau gan y mwg, a. chollodd y ddwy eu bywyd.