Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y SAER A'R TEILIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SAER A'R TEILIWR. Fy nhaid a nhad o'ent seiri coed, A saer wyf finau hefyd, Sy'n colli chwys, o fore i hwyr, I foddio flermwyr celyd Ni bu cenfigen dan fy mron Na gwenwyn at un crefitwr, Nes myn'd i weithio i Dan y Fron, 'Run pryd a Sion y Teiliwr. Yr hofel oedd fy ngweithdy oer A'r gwynt oedd yn chwibianu I'r ty yn syth y rhodiai Sion Gan wneyd rhyw fwmian canu A Lowri'r wraig yn cario glo O'i flaen ar dan y parlwr,- Bu agos i mi fyn'd o'm co' Wrth wel'd fath barch i deiliwr. Daeth amser ciniaw wedi hyn, A minau'n syn fyfyrio Ai ni ohawn ninau ddarn o biff I, Neu fyton wedi ei rostio Na, lwmp o facwn melyn bras I mi, a'r gwas, a'r dyrnwr, Ond hwyaden a phys gleision neis, A phwdin re is, i'r teiliwr. ,Cyn amser te eis at y tan I dwymo danedd.ogau, A phwy oedd yno o fy mlaen Ond Lowri'n gwneyd crempogau A chyda hyn i dwymo'i wydd Fe ddaeth 'rhen Sion o'r parlwr, Gan ddyweyd yn ddistaw yn fy nghlust, Be roet ti am fod yn deiliwr ?" Ond gormod peth i'w ddal oedd hyn,- Mi neidiais i'r crempogau Gan daflu Sion ar draws y faine Nes tori ei grimogau, A'i waed yn llifo hyd y llawr, A Lowri'n llefain Mwrdwr A minau'n llefain nerth fy mhen,- Beth ge'st ti am fod yn deiliwr ?" TALIESIN 0 EIFION.

Advertising