Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Yr wytbncs nesaf dechreuir Brwydr Waterlw Ymneillduwyr Prydain. A lwyddir i orchfygu y Napoleon Eglwysyddol sydd bwnc arall. Druan o John Kensit! Ei wobr ef am geisio diwygio yr Eglwys oddifewn oedd cael ei ladd. Yn ei farwolaeth, er hyny, ca Protestaniaid Prydain fywyd adnewyddol at eu cenhadaeth bwysig. Gwneir parotoadau mawrion gogyfer a thaith y Brenin ar draws Llundain, Sadwrn, Hydref 25ain a dywedir y bydd yr orym- daith yn werth ei gweled. Disgwylir i ddychweliad y Brenin ac agor- iad y Senedd fod yn gyfryngau i wella llawer ar fasnach y brifddinas yn ystod yr Hydref eleni. Ca'r Americanwyr brofiad chwerw y dydd- iau hyn o nerth cyfalaf. Y mae holl feistri- aid glofaol y wlad wedi gwrthod gwell telerau i'w glowyr, a'r canlyniad yw fod streic enbyd ym myned ym mlaen yno. Yn ol pob argoel y mae blaenoriad y Weinyddiaeth yn dechreu meddwl am gyn- llun newydd ynglyn a'r Bil Addysg, a rydd lai o achos i'r Ymneillduwyr i'w wrthwynebu. Mae bwrdeisdrefi Caerfyrddin yn son am wahodd Syr A. L. Jones, Lerpwl, i ymladd y frwydr Doriaidd yn y lie y tro nesaf yn erbyn Alfred Davies. Rhyfedd y fath wane sydd arnynt am fobl arianog. Ni waeth ganddynt ddim bwtwn am eu credo a'u daliadau, yr unig angen yw,-digon o awr Y ffyliaid gwasaidd Pobl ardderchog am yfed a gwledda yw'r beirdd ym mhob oes, a'r un peth ydym ninau heddyw, ond ein bod yn fwy respectabi. Y nos o'r blaen caed "gwledd llongyiarchiadol i fardd Cadeiriol Bangor yng ngwesty'r Fren, hines Caernarfon. 'Roedd nifer o feirdd- llenorion, cantorion, a phregethwyr yn y lie, a chaed noson hynod o sebonilyd,-chwedl Prifathraw John Rhys-gyda digon i'w yfed a bwyta. Yr Hybarch Ddr. Owen Evans, Lerpwl— gynt LIundain-a Mr. Josiah Thomas, Lerpwl, fyddant olygwyr y Dysgedydd o hyn allan. Nis gellid wrth ddau well o blith hyd yn oed gewri Anibynia. Cafodd Archesgob Caergaint hwyl anghyff- redin yn y gynhadledd a gynhaliwyd yr wyth- nos ddiweddaf yn Llanbedr, Ceredigion. Un o hynodion y rhan yma o'r byd i'w Ras oedd y ffaith y gellid tramwyo 17 milldir mewn dwy awr o amser gyda'r gerbydres lIeol! Gwarthod pawb, rhaid fod y gyriedydd allan o'i go' y tro hwn. Fel rheol, fe gymer rhyw haner diwrnod i drafaelio y pellder! Bedyddwyr y tri trochiad," dyna enwad newydd eto, neu o'r hyn leiaf, adran newydd o enwad y Bedyddwyr. Yng Nghaerfyrddin y mae apostolion y gredo hon, a'u cred yw y dylid trochi deirgwaith-yn enw'r Drindod- cyn y gall dyn fod yn gadwedig. Ofnwn na fydd tair trochiad ddim yn ddigon i olchi ymaith anwybodaeth a chulni rhyw Ddefodwyr cul o'r dosbarth yma

Advertising