Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeatur Ddinam.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeatur Ddinam. Gyda dyfodiad yr Hydref, mae'r prif gym- deithasau llenyddol Cymreig wedi agor eu drysau, a chaed wythnos fywiog yr wythnos hon yn y gwahanol gylchoedd Cymreig. Nos Sadwrn y i8fed y cynhelir y cwrdd mawr ynglyn a'r Undeb. Gweler y manylion mewn colofn arall. Mae Cymdeithas Jewin Newydd wedi newid noson eu cyfarfod am y tymhor eleni. Gan fod nifer o gymdeithasau ereill yn cyfar- fod nos Wener y maent hwy wedi pender- fynu i gynhal eu cynulliadau ar nos Fawrth, ac agorir y gyfres nos Fawrth nesaf gyda darlith oddiwrth y Parch. R. Silyn Roberts, y bardd coronog am y flwyddyn hon. < Ar ol seibiant y gwyliau, ail-gynullodd Cwrdd Misol Llundain yn Jewin y nos Fercher olaf yn Medi, o dan lywyddiaeth Mr. R. L. Whigham. Yn ystod y cyfarfod penodwyd Mr. L. H. Roberts, trysorydd y C.M., yn gynrychiolydd ar BwyllgorGweinyddiad Casg- liad Diwedd y Ganrif. Hysbysodd y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., ei fod yn bwriadu tori ei gysylltiad bugeiliol ag eglwys Clapham Junction ar ddiwedd y flwyddyn, a thrwy gyngor meddygol yn bwriadu myned drosodd i'r America am rai misoedd. Pasiwyd i gyflwyno ymddiswyddiad Mr. Edwards i ys- tyriaeth Pwyllgor yr Achosion Newyddion. » Gwnaed coffhad parchus am y diweddar Mr. J. H. Morris, Stratford, gan y Parchn. S. E. Prytherch, J. Wilson Roberts, a'r Mri. John Morgan, Holloway, a Timothy Davies, L.C.C. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn o allu- oedd mwy na'r cyffredin, yn naturiol ddawnus, a phob amser yn wresog yn yr ysbryd." Magwyd ef gyda'r Wesleyaid, ond drwy I gysylltiadau teuluaidd a ffurfiodd yn y Brif- ddinas, ymunodd a'r Methodistiaid, gan was- anaethu y swydd o flaenor gyda doethineb a medr am flynyddoedd yn Holloway, Falmouth Road, ac (am ychydig cyn ei farwolaeth) yn Stratford. Teimlir colled a hiraeth ar ei ol. Pasiwyd i anfon eu cydymdeimlad a'i weddw ac a'i ferch yn eu profedigaeth lem. Darllenwyd llythyr cyflwyniad y Parch. Gwilym H. Havard, B.A., B.D., o Gyfarfod Misol Dwyrain Morganwg, ar ei waith yn ymgymeryd a gofal bugeiliol eglwys Wilton Square. Hysbyswyd y cynhelir ei gyfarfod sefydlu nos Iau, Hydref y 30ain, ac enwyd y Parch. Ll. Edwards, M.A., a'r llywydd i gyn- rychioli y C.M. yn y cyfarfod. Rhoddwyd caniatad i Mr. L. H. Roberts i wneyd defn- ydd o lyfrau neillduol yn u safe" y C.M. ynglyn a'i waith yn parotoi ilyfryn bychan ar hanes Methodistiaeth yn Llundain. Darllen- wyd a chadarnhawyd adroddiad Pwyllgor Dathliad Diwedd y Ganrif. Nododd yr ys- grifenydd, Mr. Humphrey Evans, y swm a dalwyd i mewn, ac a addawyd gan bob eglwys. <' Ymysg y penderfyniadau a gadarnhawyd, yr oedd y rhai canlynoi: Fod apet y Gym- anfa Gyffredinol i gael ei darllen ymhob eglwys ar nos Sul yn ystod mis Hydref, a dymunir ar i'r casgliad gael ei gwblhau mor fuan ag sydd bosibl." "Gan ei bod yn amlwg fod nifer o'n haelodau heb gyfranu o gwbl at y casgliad, ein bod yn dymuno ar i'r C.M. anfon gwahoddiad i'r ddau ysgrifenydd cyff- redinol-y Parchn. T. J. Morgan ac Ellis James Jones, M.A.,—i ddyfod ar ymweliad a I Llundain yn ystod y mis nesaf, i ymweled yn benaf a'r rhai sydd heb gyfranu, a bod iddynt gael pob cymorth gan swyddogion y gwa- hanol eglwysi." Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol, ac wedi peth ymdriniaeth ar rai o'r penderfyniadau, cadarnhawyd ef. ar rai o'r penderfyniadau, cadarnhawyd ef. I Cafwyd adroddiadau dyddorol o weithred- iadau Cymdeithasfaoedd Pencoed a Chaer- narfon,—o'r gyntaf gan y Parch. D. Oliver, a'r olaf gan Mr. R. O. Jones, Wilton Square, —a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r ddau frawd am eu hadroddiadau. Rhoddodd Mr. Isaac T. Lloyd, Walham Green, rybudd o gynygiad a wneir ganddo yn y C.M. nesaf gyda golwg ar Fesur Addysg y Llywodraeth. Galwyd sylw gan Mr. T. J. Anthony at y cenadwriaethau o Gymdeithasfa Brynmawr mewn perthynas i'r Ysgol Sabothol, ac yn arbenig y Genhadaeth Dramor. Rhoddwyd anogaeth daer i gario allan awgrymiadau y Gymdeithasfa. Cafwyd gair ymhellach ar y Genhadaeth Dramor gan Mr. O. M. Williams, Holloway. Galwyd sylw at lyfryn newydd gan Dr. Jones, Harlech," Hyd nes daw y meddyg'; ac at' Dduwinyddiaeth y Cyfundeb,' gan Dr. Cynddylan Jones, a rhoddwyd anog- aeth i brynu a darllen y llyfrau hyn. Diwedd- wyd drwy weddi gan y Parch. Gwilym H. Havard, B.D. » Yn ystod y Sul (yfory), cynhelir cyfarfod- ydd pregethu blynyddol yr eglwys yn Wilton Square, pryd y bydd dau o weinidogion enwog yno yn cadw i fyny urddas y pwlpud Cymreig. Bydd oedfaon am 10.30, 2.30 a 6.30 o'r gloch, a pharheir y gyfres nos Lun am saith. < Nos Lun nesaf, yng Nghapel y Boro, cyn- helir gwasanaeth arbenig i ordeinio Mr. Llewelyn Bowyer, o Goleg Bala-Bangor, yn weinidog ar eglwysi Woolwich ac East Ham. Llywyddir y gweithrediadau gan y Parch. D. C. Jones, gweinidog y lie, a chymerir rhan yn y gwaith gan y Prifathraw L. Probert, D.D. Parch. O. J. Owen, Ponciau; Parch. J. Machreth Rees, a'r Parch. R. Rowlands. Dechreuir yn brydlon am 7 o'r gloch, a rhoddir gwahoddiad cynes i bawb. I < Yn ystod y Saboth (yfory) ceir pregethau arbenig yng nghapelau Cymraeg Woolwich ac East Ham. Bydd y Prifathraw Probert yn pregethu yn East Ham yn y Ipreu, a'r Parch. O. J. Owen yn Woolwich. Yn yr hwyr byddant yn newid eu pwlpudau. i Y Parchn. Griffith Ellis, M.A., Bootle, a Machreth Rees, Chelsea, oedd pregethwyr mawr" y cyfarfodydd blynyddol yng nghapel Willesden y Sul diweddaf. Daeth torfeydd lluosog i wrando eu cenhadaethau, a da genym ddeall fod gwedd lewyrchus yn dod ar yr eglwys newydd hon o dan ofal y Parch. Richard Roberts. Llwydd fo i'w rhan yn y dyfodol. • • • Dirwest ydoedd testyn Cymdeithas Pobl j Ieuainc y Borough yng nghyfarfod cyntaf y tymhor, nos lau diweddaf. Ymunodd nifer dan faner dirwest yr un noson. 0 0 0 Ein llongyfarchiadau i'r brawd ieuanc Mr. Thomas John Wood o'r Boro, ar ei lwyddiant yn myned trwy arholiad y Matriculation ym Mhrifysgol Llundain. Aed yn ei flaen. e Myned ar gynydd mae'r gangen Gymreig o Urdd y Maenseiri Rhyddion, a nos Wener, Hydref 3ydd, caed cwrdd sefydlu ynglyn a'r gangen, yng Ngwesty'r Criterion. Yr oedd cynulliad parchus iawn wedi dod ynghyd o dan y Pen Feistr E. R. Cleaton, a chaed nifer o lwnc-destynau a chaneuon swynol ar derfyn y wledd. Mae'r aelodau bellach yn rhifo tua deugain mewn nifer, a sibrydir fod llu ereill yn awyddus am gael mynediad helaeth i mewn i gyfrinion yr Urdd. Bydd gwyl y diolchgarwch yn cymeryd He yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, y Sul (yfory) a'r Llun nesaf. Y mae y Parch. Ebenezer Lloyd, ficer Llansadwrn a Llanwria, sir Gaerfyrddin, yn dra adnabyddus y i a- gobaeth Tyddewi fel pregethwr gafaelgar i nerthol, a bydd yn pregethu am neg o'r gloch y boreu a 6.30 yr hwyr ddydd Sul. Yn y prydnawn, am 3.30, pregethir yn Seisnig gan yr Anrhydeddus a'r Parch J G Adderley, ficer St. Marc, Marylebone Road. Y mae Mr. Adderley yn fab i Arglwydd Norton, ac yn un o'r pregethwyr, areithwyr, a gwlad- weinwyr sydd yn perthyn i'r Christian Social I Union," ac yn rhoddi ei holl amser a'i eiddcr at waith Duw.

Advertising