Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

EGLWYSYDDUETH AC OFFEIRIADAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYSYDDUETH AC OFFEIR- IADAETH. Y Mesur Addysg yw pwnc mawr gwleid- yddwyr y dydd. Ni chaed oddiar adeg helyntion treth yr yd y fath bybyrwch yn y wlad yma ar unrhyw Fesur. 0 un pen i'r Ilall o'r deyrnas, y mae Ymneullduaeth wedi ei chyffroi, a gwelir o'r diwedd wir ddrygedd y Mesur ar ol y dadleniadau diweddar yma ar y llwyfan ac yn y wasg. Addefir yn groyw mai ei brif amcan ydyw rhoddi cefnogaeth i ysgolion enwadol, ysgoiion sydd ar hyn o bryd yn methu cyfranu addysg fydol mor effeithiol ag a wneir gan ysgolion Byrddol. Trefnir i ychwanegu gwaddoliadau. y rhai'n, a hyny drwy drethiant lleol, gan adael i'r offeiriaid neu awdurdodau yr ysgol —boent Eglwyswyr, Ymneullduwyr neu Bab- yddion-berffaith ryddid, i hob pwrpas, pa fodd i wario yr arian a gyflwynir tuag at eu cadwraeth. » • Wrth weled posibilrwydd y Mesur, y mae'r offeiriaid wedi uno i'w ganmol; a'r wythnos hon mae'r Arch-Babydd Cardinal Vaughan wedi dangos yn eg-lur mai lies mawr i'w hachos hwy fydd cael y Bil ar ddeddf-Iyfr ein gwlad. Bydd Eglwysyddiaeth ar ei henill yn ddirfawr a daw offeiriadaeth-boed hwnw o Eglwys Loegr neu o Eglwys Rufain-yn uchel ei ben yn ein mysg, a gwae y genedl a reolir eto o dan bawen offeiriaid cul unrhyw wlad. i Poethi mae'r frwydr, a sicr yw y bydd y Senedd-dymhor Hydrefol hwn yn un i'w hir gofio gan Ymneullduwyr Prydain. Pa un at gyda llawenydd neu gyda thristwch ei coffheir amser yn unig a ddengys?

CYMRY LLUNDAIN A'R BIL ADDYSG.…

[No title]