Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Tra mae'r holl wlad yn ferw oherwyddd y Bil Addysg, mae'r Brenin yn mwynhau ei hun mewn rhedegfeydd ceffylau a difyrion ereill. Anwybodaeth, rhagfarn a chelwydd-dyna y trioedd sydd gyfrifol am holl swn yr Ym- neullduwyr ar y Mesur Addysg, medd Balfour. Fe geir gwel'd yn y man pa mor anwybodus yw'r wlad I Agorwyd llyfrgell Sant Deiniol, Penarlag, dydd Mawrth diweddaf. Mae hon i fod yn goffa cenedlaethol am y diweddar W. E. Gladstone. Cynhelir ymchwiliad y dyddiau hyn i'r holl gwynion ynglyn a'n milwyr yn Affrica, ac ynglyn a'r trefniadau i'w cludo yno a'u bwyda. Ond ni chaiff y cyhoedd glywed dim o'r man- ylion. Ymchwiliad dirgelaidd a fydd. Da genym weled fod Syr George Newnes yn gadarn iawn yn ei wrthwynebiad i'r Mesur Addysg. Tra yn siarad yn Abertawe y dydd o'r blaen, datganai yn groyw na thalai y dreth ysgol. Pe gwnai hyny, meddai, byddai yn anheilwng o'i dad, yr hwn a wrthododd ar bob achlysur i dalu treth yr eglwys yn ei ddyddiau ef. Parhau mae cyfyngder y chwarelwyr ym Methesda, ac nid oes yr un gobaith yr aiff un o'r gweithwyr yn ol mwyach. Mae'r teimlad yn erbyn y bradwyr yn parhau yn lied uchel, ond ar y goreu, nid oes bywyd bras i neb o honynt ar hyn o bryd. Druan o'r hen Ddr. Parker Mae'n par- hau yn wael, ac ofnir am ei adferiad. Aeth yn ol at ei waith yn rhy fuan, ond profodd y City Temple yn rhy galed iddo bregethu ynddi rhagor nag ar y Sul cyntaf. Gan fod dyddiau henaint wedi dod, ofnwn y bydd raid iddo blygu bellach i alwadau natur a rhoddi'r goreu i bregethu i filoedd y Deml am byth mwyach. Nid yw iechyd y Parch. Hugh Price Hughes agos mor gryf ag y bu, a thyna, yn ddiau, sydd i gyfrif, i raddau, am ei ddistaw- rwydd ar hyn o bryd ar y Mesur Addysg. Ond y mae enw Hugh Price Hughes wedi colli ei ddylanwad byth oddiar y bradychodd ryddid drwy bleidio y Weinyddiaeth yn adeg y rhyfel diweddar.