Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu-r Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu-r Ddinas. Cofier am gyfarfod mawr yr Undeb sydd i'w gynhal heno yng Nghapel Castle Street. » Mae'r ffin enwadol yn tori i lawr yn raddol yn Llundain. Y dydd o'r blaen bu'r Parch. Machreth Rees yn pregethu yn nghapel y Methodistiaid yn Willesden; a gwelwn fod Elfed yn un o bregethwyr Mile End Road yn ystod y Sul (yfory). » Mr. Barnes-maer St. Pancras-sydd i lywyddu yng nghyngherdd St. Padarn ar y 0 30ain o'r mis hwn. Da yw genym weled hyn oherwydd dengys ein bod yn cydymdeimlo ag ef ar ol i'r Cymro Idris roddi'r fath gurfa iddo beth amser yn ol yn yr etholiad leol ynglyn a'r Cyngor Sir. » Mae Mr. Howell J. Williams ar ddychwelyd o'i daith yn yr America, a bydd yma erbyn agoriad y Senedd-dymhor. Da genym ddeall fod Mr. Williams wedi cael taith hynod o bleserus ac wedi manteisio llawer ar gyfleus- derau y wlad dros y Werydd i ddysgu sut y cerir materion dinesig ymlaen er budd y wlad- wiraeth yn gyffredinol. Yng Nghymdeithasfa Talgarth yr wythnos ddiweddat, gorphenodd y Parch. J. E. Davies, M.A., ei flwyddyn fel llywydd Cymdeithasfa'r Deheudir. Talwyd iddo deyrnged uchel o barch ar ei ymddiswyddiad, ac enillodd safle uchel yn marn ei frodyr drwy y modd de- heuig a boneddigaidd yr ymdriniodd a phob mater a ddygwyd ger bron. Dilynir ef gan y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd. Yn yr Ymofynydd am y mis hwn, edrydd y Parch. R. Rowlands, Barrett's Grove, ei ad- gofion am y Parch. Owen Evans, Cefncoed- cymer. Gyda Mr. Evans y bu Mr. Rowlands yn yr ysgol yn parotoi erbyn myn'd i'r coleg, ac mae cael cipdrem ar yr amser dedwydd hwnw yn ddyddorol iawn. Ynglyn a chofgolofn y diweddar Barch. W. Ryle Davies, Holloway, deallwn mai o dry- sorfa'r capel y caed yr arian, ac mai i gronfa yr amddifaid y defnyddiwyd yr arian a wnaed drwy y casgliad diweddar yn yr eg- lwys. Da genym ddeall fod swm sylweddol wedi ei gael tuagat gynorthwyo'r plant yn eu haddysg, ac i ddechreu ar eu gyrfa yn y byd yma. » Llawen genym glywed bob amser am Gymry llwyddianus yn cofio am ardaloedd eu mebyd, a da genym gofnodi yr wythnos hon am yr anrheg ardderchog a wnaeth Mr. J. Meredith yn ddiweddar i'w hen gapel yn Llanfairmuallt. Y mae Mr. Meredith wedi cyflwyno dwy fil o bunau yn rhodd tuagat adeiladu capel Methodistaidd newydd yn yr hen ardal. • Cofus gan rai o ddarllenwyr y CELT am y darluniau difyr a wnaed i'r papyr ar ddechreu ei yrfa, gan yr arlunydd Dyer Davies. Deallwn fod y gwr erbyn hyn wedi ymsef- ydlu yn Johanesburg, ac yn cartoonist bellach ar un o newyddiaduron y dref hono. Bu Dyer, fel llawer ereill, drwy y rhyfel di- weddar fel milwr cyffredin. • Mae Mr. D. Lleufer Thomas newydd ddy- chwelyd o daith yn Cananda. Bu yn tramwyo ar draws y wlad eang hono er gweled a yw yn gyfaddas i ymfudwyr Cymreig, a deallwn ei fod wedi ei swyno yn fawr a'r golygfeydd ac a'r manteision rhagorol sydd yno i Gymry ieuainc fel ffermwyr a masnachwyr. Dydd Mercher, Hydref y 18fed, yn Eglwys henafol Shoreditch, unwyd mewn glan briodas, Mr. Arthur Packer, Lang Buckley, North- amptonshire, a Miss H. M. Lloyd-trydedd merch y diweddar Mr. a Mrs. John Lloyd, Dolgwm Uchaf, Llanbedr. Cyflawnwyd y gwasanaeth gan y Parch. Saunders Lloyd, a rhoddwyd y briodasferch i ffwrdd gan Mr. Tom Lloyd, Oxford Street (dau gefnder). Y forwyn briodas oedd Miss Enryetta Davies, Kingsland, a'r dyn goreu oedd Mr. Frank Packer. Daeth nifer luosog o gyfeillion y par ieuanc ynghyd i 231, Kingsland Road, yn ystod y nawn a'r hwyr lie yr oedd gwledd o'r fath oreu wedi ei pharotoi. Y mae nifer yr an- rhegion priodasol yn anarferol o fawr a chostus. Cyfeiriad dyfodol cartref Mr. a Mrs. Packer fydd 30, Richmond Road, Dalston. Mae clywed un bardd yn ymdrin a gweith- iau bardd arall bob amser yn ddyddorol ac addysgiadol-ond pan fyddant yn trin eu gilydd ar ol Eisteddfod. Ond nos Sadwrn diweddaf, caed engraifft deg o'r blaenaf pan oedd y bardd Machreth yn arwain Cym- deithas Lenyddol y Tabernacl yn ol at Gymru Dafydd ap Gwilym," a daeth cynull- iad rhagorol ynghyd I fanteisio ar yr ym- driniad. Llywyddwyd gan Mr. T. W. Glyn Evans un o flaenoriaid y lie. « Hanes dyddorol sydd i Gymry yn adeg Dafydd ap Gwilym, ac yr oedd Machreth wedi bod yn chwilota llawer am droion y cyfnod, yr hyn wnaeth ei ddarlith yn hynod o addysgiadol, ac yr oedd ei fawrygiad o Ddafydd ei hun, a'i weithiau, yn llawn mor gynes a phe bae yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym ei hunan. » Y mae cor o rianod Bethesda yn ein mysg ar hyn o bryd, ac y maent yn trefnu i roddi cyfres o gyngherddau. Hyderwn y ca'nt y gefnogaeth haeddianol gan y dinasyddion, oblegid mai i gynhal corph ac enaid wrth eu gilydd yn ardal anghysurus Bethesda y mae yr arian yn myn'd. Ynglyn a chyngherdd yr hen fardd Cwcwll, y mae y rhagolygon yn dda. Nid yn unig y mae'r pwyllgor wedi sicrhau ein cantorion blaenaf i wasanaethu, ond hefyd y maent wedi cael gan gor enwog y Kymric' ddod yno, a'r crythor poblogaidd Mr. Philip Lewis, fel, drwy bobpeth, y mae cyngherdd y bardd yn debyg o fod yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd y tymhor sydd newydd ddechreu. Pryned bawb eu tocynau rhag blaen. Cafwyd cychwyniad rhagorol i Gymdeithas Lenyddol Stratford, nos Iau cyn y diweddaf, ac fe addawa y rhaglen gyfarfodydd godidog drwy y tymhor. Cymerwyd rhan yn y gweith- rediadau gan gyfeillion ieuainc y He, a mwyn- hawyd cwpanaid o de yn ystod y cyfarfod. Da genym fod y cyfeillion ieuainc, y rhai sydd yn llawn yni a brwdfrydedd wedi pwr- casu perdoneg at wasanaeth y cyfarfodydd am y tymhor hwn. Llywyddwyd y gweith- rediadau gan y Parch. J. Wilson Roberts. Ar yr un noson-sef y gfed-dechreuwyd gwaith y tymhor yng nghapsl City Road trwy gynhal swper goffi cyntaf y tymhor, a hwn oedd y cychwyniad goreu eto o ddigon. Cawsom medd ein gohebydd, gynulliad rhagorol, a chymeryd i ystyriaeth fol amryw atdyniadau ereill yr un noson. Os oes rhyw un o ddarllenwyr y CELT am deimlo gartref oddi cartref,' wel, coffi suppers City Ro ld yw y lie am hyny. Yr oedd golwg hynod o gartrefol ar bawb nos Iau cyn y diweddaf, ac yr oedd y swper yn rhad i bawb. ¡ Yr oedd y cyngherdd a ddilynai y swper yn cael ei gario ymlaen gyda thalentau car- trefol fel y canlyn :—Ton gynulleidfaol, unawd perdoneg, caneuon gan Mr. Jones (Ap Caer- alaw), Miss Mary Jenkins (City Road), Miss Edith Lloyd Jones (City Road), Miss Justina- Morgan (Falmouth Road), Mr. Maengwyn Davies, R.A.M. (City Road), Mr John Hughes (City Road). Adroddwyd gan Mri. Eddie Evans a Stanley Morgan, City Road. » Cynygiwyd llyfr hardd fel gwobr am y darluniad goreu o wrthrych heb ei enwi, a chafwyd hwyl dda gyda'r gystadluaeth hon. Y goreu ydoedd Ebenezer Hughes, City Road. Rhoddwyr y wledd y tro hwn oedd Mr. L. T. Jones, Dalston, a'i chwiorydd caredig, a gwledd o'r fath oreu gawsom hefyd. Y cad- eirydd oedd Mr. Pearce, Wimbledon. Bydd y swper goffi nesaf yn cymeryd lie nos Iau, y 30ain o'r mis hwn, ac yn cael ei roddi gan y Parch. Lloyd Jones a'i deulu. Croesaw cynes i bawb. Adrodd hanes eu gwyliau fu aelodau Cym- deithas Ddiwylliadol Shirland Road nos Wener yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd tri wedi eu penodi i agor, sef Miss Williams,, Castellain Road Miss M. E. Evans, West- bourne Grove (papyr yr hon yn ei habsenol- deb a ddarllenwyd gan Miss Davies, Hatherley Grove), a Mr. Nuttall. Nid raid dyweyd iddynt wneyd eu gwaith yn rhagorol, nes codi pawb i hwyl ar unwaith; a pha ryfedd gan iddynt ein dwyn i gyd yn ol i'r hen wlad, i syllu ar ei dyffrynoedd tlws, i wrando ar fiwsig ei nentydd, ac i ddringo liethrau ei mynyddoedd, a'n harwain i Wyddfa wen i wel'd y wawr yn tori, a brenin y dydd yn cychwyn i'w daith, ac yr oedd y dull bardd- onol a'r hwn y gwnaent ddarlunio y golyg- feydd, yn ddigon i wneyd Dyfed yn jealous, Wedi cael y fath agoriad da, rhoddwyd y cyfarfod yn rhydd i bawb a fynai ddyweyd gair, ac ni fu ball ar y siaradwyr am ddwy awr o amser; ac hyfryd oedd gweled pob rhyw ac oed yn cymeryd rhan—o'r hogyn difarf i'r henafgwr penllwyd, ac o'r hogen wridgoch i'r fam oedranus-oll yn llawn bywyd ac aspri, fel mai dyfodol y gymdeithas yn obeithiol iawn. Gofod a ballai i ni enwi yr holl siaradwyr. Llywyddwyd yn fedrus gan Mr. H. Hughes. • • • Cynhaliodd Undeb Gweinidogion Cymreig Llundain gyfarfod cyntaf y tymhor dydd Llun diweddaf, dan lywyddiaeth y Parch. J. Machreth Rees, yn nhy Mr. a Mrs. Evans, Glaslwyn, lOf, High Road, Chiswick, pryd y darllenodd y bardd coronog, y Parch R Silyn Roberts, M.A., adolygiad maith a galluog ar lyfr Dr. G. Adam Smith The Old Testa- ment and Modern Preaching." Cafwyd trin- iaeth werthfawr ar y llyfr dyddorol hwn' » Rhoddodd Mr. a Mrs. Evans dderbyniad croesawus iawn i'r Undeb i'w ty. Brodor o Llanddarog, sir Gaerfyrddin, yw Mr. Edward Evans. Mae ei dad-Mr. Evans, Cwrt, LIan- ddarog-yn bedwar-ugain a saith oed, ond eto mor hoyw ac iach fel y mae yn myned bob Saboth i gapel y Methodistiaid lie y mae yn flaenor parchus er's blynyddoedd. Boed i'r gwron caredig nawnddydd teg, clir, i nos- wylio. Cawsom garedigrwydd mawr ganddo dro yn ol pan yn myned i weled olion capel anwes Bernard Sant gerllaw Llanddarog. o- < Mer::h i'r diweddar Barch. Thomas Job, D.D., Cynwyl, yw Mrs. Evans. G- wnaeth Mr. Job les mawr yn ei oes yn Neheudir Cymru drwy ei bregethu, ac yn arbenig gyda dirwest. Mae ei gofiint allan o'r wasg, a chawsons lawer o fudd a phleser wrth ei diarllen. Llonder yw gweled y plant i gyd yn ffyddla^