Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ORDEINIO MR. LLEWELYN BOWYER.

Advertising

Oddeutu-r Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

i lwybrau y tad. Boed i Hilda a Dilys ddilyn llwybrau eu rhieni caredig. Derbyniwyd y Parch. G. H. Havard, B.D. (gweinidog newydd Wilton Square) i'r Undeb, a bydd ei sefydliad yn y weinidogaeth yn Llundain yn elfen o nerth a chryfder yn y weinidogaeth leol. w « Yn ychwanegol at brotest yr Anibynwyr yn Chelsea, y dydd o'r blaen, deallwn fod mud- iad ar droed i gynhal cyfarfod Cymreig yn y ddinas i brotestio yn erbyn y Mesur Addysg sydd ger bron y Senedd ar hyn o bryd. Y mae y teimlad yn parhau i gynyddu yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn ceisio ei wthio drwodd, ac nid yw ond naturiol i ninau Gymry gael mantais i godi ein lief yn unol a phen- dant yn ei erbyn. Mae nifer fawr o wyr blaenaf ein cenedl wedi addaw eu presen- oldeb. 000 Gwelwn fod aelodau Cor Meibion Gwalia wedi trefnu i wneyd cyngherdd i Mr. Madoc Davies, yn mis Ionawr nesaf. Dyma dro yn ei le, oherwydd y mae Madoc wedi llafurio yn galed am flynyddau gyda'r parti, ac wedi eu harwain droion i fuddugoliaeth yn ein gwahanol eisteddfodau. Hyderwn y bydd y cyngherdd yn deilwng o safle y cor ac o urddas yr arweinydd cerddgar ei hunan. 000 Nos Fawrth diweddaf, bu bardd coronog ein dyddiau ni yn ymdrin a chadeirfeirdd y ddeuddegfed ganrif, ac er fod pellder yr oesau cydrhyngddynt yn fawr, eto, yr oedd naws yr hen i'w clywed yn nhraddodiad y newydd neu, o'r hyn leiaf, dyna oedd tyst- iolaeth y rhai fuont yn gwrando ar y Parch. R. Silyn Roberts yn traethu ar Feirdd a barddoniaeth y 12fed ganrif o flaen Cym- deithas Lenyddol Jewin nos Fawrth, o dan lywyddiaeth y Parch. J. E. Davies, M.A. 000 Ar ddechreu y ddarlith, llongyfarchwyd y bardd ieuanc gan "Rhuddwawr," am ei fuddugoliaeth ardderchog eleni yn Mangor; a sicr yw fod cenedl gyfan yn llawenhau wrth weled gwr ieuanc o dalentau disglaer yn dringo mor uchel yn gynar ar ei daith, a dywedai Iorwerth Ceitho ar y diwedd mai pleser o beth oedd talu y deyrnged yma iddo mewn capel, ac nid mewn tafarn fel y gwnai beirdd yn gyffredin. Yn hyn o beth yr oedd y bardd newydd i'w edmygu. 000 Y cyfnod dyddorol a chythryblus cydrhwng Llewelyn Fawr a Llewelyn ein Llyw Olaf 1194—1282 oedd y ganrif a ymdrinid arni gan Mr. Roberts, ac yr oedd beirdd y cyfnod a'u gweithiau fel pe ar flaenau ei fysedd, a rhoddai ddetholiadau tarawgar o honynt er egluro ei nodiadau. Gwr pwysig oedd y bardd yn y cyfnod hwn, a thelid parch arbenig iddo; ond pa ryfedd, onid oedd llawer o dywysogion ein gwlad yn eu plitb. Y bobl fawr oedd noddwyr lien yn yr oes hono, ond erbyn heddyw mae'r werin wedi cymeryd eu lie, a'r mawrion wedi troi yn fradwyr i'n hiaith a'n cenedlaetholdeb fel y gwnai rhai ysywaeth yn y blynyddoedd tywyll gynt. 000 Cenhadaeth benaf y bardd yn y cyfnod hwn oedd gwrthwynebu gormes y Sais, a gwnai hyny drwy ganu gwrhydri ein dewrion ar faes y gad, a thrwy anogaethau'r beirdd yr a'i llawer cad i'r rhyfel. Cyweirnod rhyfelgar oedd i'r holl farddoniaeth, ac nid rbyfedd hyny oherwydd adlais o fywyd y genedl a'r oes yw ei llenyddiaeth bob amser. Bu tua 30 o feirdd enwog yn byw yn y ganrif bono; ac mae darllen eu gweithiau, sydd eto ar gael, yn brawf nad cenedl ddigynyrch oedd cenedl y Cymry ar y pryd. 000 Sonia corau o bell ac agos am ddod i ) 'Steddfcd Queen's Hall ym Mis Bach, a'r di- weddaf i ddatgan ei obaith i fod yn bresenol yw cor enwog y Moelwyn o ardal y chwareli. 000 Mae darlith Gomer Lewis ar Ffair y Byd o hyd yn fyw, a bu yn ei thraddodi yng Ngogledd Cymru yr wythncs ddiweddaf. Mae y ddarlith wedi cael ei thraddodi rai canoedd, os nad miloedd, o droion cyn hyn. 000 Bu torf fawr yn angladd John Kensit-y merthyr Protestanaidd-yn Llundain y Sadwrn diweddaf. Dygwyd ei gorff y noson cynt o Lerpwl i'r ddinas, ac yr oedd yn amlwg fod cydymdeimlad y genedl yn llwyr a'i weddw a'i blant yn awr eu hiraeth. Da genym weled fod yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi gweled yn ddoeth i ryddhau y mab o'r carchar ar dderbyniad y newydd prudd am ei dad.