Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ORDEINIO MR. LLEWELYN BOWYER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ORDEINIO MR. LLEWELYN BOWYER. Nid yn ami y ceir gwasanaeth i ordeinio gweinidog Cymreig ymysg eglwysi y ddinas yma. Ein rheol gyffredin yw rhoddi galw- adau i weinidogion o'r wlad i'n bugeilio, ond yn awr ac yn y man, fe geir gan ambeli i ddyn ifanc i ddod i'n mysg i ddechreu ar ei yrfa ac i gael ei ordeinio i gyflawn waith ei ddewisiad yng nghylchoedd Cymreig y ddinas. Dyna gaed yr wythnos hon, yng Nghapel y Boro. Fel yr ydym eisoes wedi cofnodi y mae dwy eglwys fechan yr Anibynwyr yn Woolwich ac East Ham wedi llwyddo i gael gwasanaeth dyn ieuanc o Goleg Bala- Bangor i ofalu am danynt, a chan ei fod new- ydd orphen ei yrfa yn y coleg, yr oedd yn weddus i'w ordeinio i gyflawn waith y weinid- ogaeth fel ag i'w osod ar yr un tir a'i frodyr ac i dderbyn cydnabyddiaeth gyhoeddus ei fod bellach yn gyflawn weinidog yr Efengyl. Dwy eglwys fechan, ond gweithgar sydd ganddo dan ei ofal, a deallwn fod yno ragolygon addawol am gynulliadau tra sef- ydlog. Y mae eglwys yn ardal Woolwich er yn foreu iawn yn hanes yr enwad yn y dref, oherwydd yn yr ardal hono gynt y trigai y rhan luosocaf o Gymry Llundain. Pobl oedd- ent a weithient yn nociau y Llywodraeth megis seiri o lanau mor Aberteifi a gweithwyr mewn haiarn o ardaloedd Morganwg. Bu yr eglwys droion mewn helbul, ac er's blyn- yddau, bellach, nid yw'r achos wedi bod yn rhy flodeuog yno, gan nad oedd bosibl cael yr un gwr a roddai ei amser a'i dalentau at grynhoi y gwasgaredigion at eu gilydd. Yn ddiweddar, buwyd yn ffodus i gael adeilad arall i sefydlu eglwys yn ardal East Ham, ac y mae eglwys addawol yn cydgrynhoi yn y parth hwnw bellach; a chan fod y cylch yn eang, a'r ddwy eglwys yn hawdd eu gweithio o dan ofal yr un bugail, penderfynwyd i sefydlu gweinidog rheolaidd os oedd modd. Am beth amser bu Mr. D. Harries, y cen- hadwr, yn gofalu am danynt, ond ar ol tipyn o brofiad penderfynodd Mr. Harries i ddych- welyd i'w faes cyntefig fel cenhadwr o dan y genhadaeth ddinesig; a bellach wele Mr. Bowyer wedi ei sefydlu i gyflawn ofal y ddau achos bychan hyn. ( Yng nghapel y Boro-mam eglwys yr Anibynwyr yn Llundain-y cymerodd yr ordeiniad le, a daeth tyrfa luosog ynghyd nos Lun diweddaf i fod yn dystion o, ac yn gyn- orthwywyr yn, y gwasanaeth. Llywyddwyd y gweithrediadau gan y Parch D. C. Jones, gweinidog y lie, a chymerwyd rhan yn y gwaith gan amryw o weinidogion y cylch. Gofynwyd y cwestiynau arferol a barth ei ddaliadau crefyddol gan y Parch. J. Machreth Rees, ac atebwyd yn fanwl a bodd- haol gan y gwr ieuanc. Caed anerchiad ar Natur eglwys gan y Prifathraw L. Probert, D.D., a rhoddwyd y cynghorion arferol i'r gweinidog ieuanc gan y Parch. O. J. Owen, Ponciau, Rhiwabon. Cyn gorphen y cyfarfod, daeth dau o flaenoriaid ei hen eglwys yn Ponciau ymlaen i ddatgan eu hedmygedd a'u parch o Mr. Bowyer, ac i ddymuno pob daioni iddo yn ei gylch newydd. Cyflwynasant iddo hefyd bwrs yn cynwys 13 punt, fel anrheg fechan oddi- wrth aelodau yr eglwys. Diolchodd Mr. Bowyer yn garedig i'w hen gyfeillion, a dywedai mai nid dyma'r tro cyntaf iddo dderbyn caredigrwydd ar law pobl y lie. Y mae y gwr ieuanc yn dechreu ar ei waith gyda dymuniadau goreu llu o edmygwyr, a hyderwn y bydd ei arosiad yn y ddinas yn lies i'w enwad ac yn ychwanegiad crefyddol yn y Babilon fawr hon.

Advertising

Oddeutu-r Ddinas.