Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Bgd y A I R r ,---- fian.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bgd y A I R r fian. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] GWYL GERDDOROL GYMREIG. Derbyniasom lythyr oddiwrth Mr. R. O. Jones, Canonbury, yn yr hwn yr addawa y cyfaill hwn roddi bob cefnogaeth yn ei allu i ddwyn ein cynllun i weithrediad. Wele ran o'i lythyr :— I am heartily with you in the project. I have felt for a long time that with the talent we have in London, both vocal and instrumental, we certainly ought to make more use of it than we do, in order to educate ourselves as a nation to a much higher level in things musical. We should probably unearth some fine talents in more than one direction- a conductor for instance. I believe we have in London more than one who is qualified for the post, but who, owing to tne lack of opportunity, is not known. Henry J. Wood, for instance, was only discovered after he had had an oppor- tunity." Er mwyn ceisio rhoddi y cynllun" ar y ffordd i gael ei sylweddoli, gwahoddwn y personau canlynol i gyfarfod a ni yn Neuadd y Tabernacl, King's Cross, nos Iau nesaf, am wyth o'r gloch :—Mr. R. O. Jones; Mr. Llewellyn Edmunds; "Cadfanydd Mr. David Evans, Mus.Bac. a Mr. Tim Evans, Jewin; Mr. Merlin Morgan; Mr. William Jenkins a Mr. David Jones, Holloway; Mr. W. H. Roberts, Cecil Court: Mr. David Jones, Commercial Road Mr Madoc Davies; Miss Frances Rees; Mr. Vincent Davies; Mr. Emlyn Davies Mr. Maengwyn Davies; Mr. Tudor Rhys, hefyd holl organwyr a dechreuwyr canu pob capel ac eglwys nad ydym yn ffodus i'w hadnabod; hefyd pob Cymro a Chymraes yn Llundain ag sydd yn hoffi lies cerddorol cenedl y Cymry, ac yn awyddus i ddangos hyny drwy eu presenoldeb a'u parodrwydd i weithredu ar ran y mudiad er sicrhau ei lwyddiant. Dyma gyfle i ni, o leiaf, sefyil uwch ben mater pwysig-un nas gwelir yn awr pa mor fendithiol y gall fod. Gan hyny, hyderwn na fydd i'r cerddorion a'r cerdd-garwyr ein siomi NOS IAU nesaf. Diolch i I Cadfanydd am ei lythyr i'r CELT. Gwel ei enw ymhlith y gwahoddedigion i'r cyfarfod nos Iau. Bydd yn dda genym gael cefnogaeth rhai fel efe—rhai na phroffesant fod yn gerddorion, ond ydynt yn hoffi cerdd- oriaeth ac yn barod i ddadleu ei hawliau hi) yn enwedig yn ei chysylltiad a'r Cymry. GWYL GERDDOROL BRISTOL. Y newydd- bethau yma, yr wythnos ddiweddaf, oeddynt Coronation Ode" (Dr. Elgar) a a The Legend of St. Christopher (Dr. Parker). Y mae gwaith Dr. Elgar yn debyg o ddod yn bur boblogaidd-yn fwy felly na'i waith mawr "Gerontius." Y mae yn syn gorfod cofnodi mai lied oeraidd ydoedd derbyniad gwaith Dr. Parker, gan yr ystyrir ef yn un gorchestol. Rhydd rhai y bai ar y Itbretto-nad yw ynddi ei hun yn ddyddorol. Ceir cyfle cyn hir f glywed dadganiad o'r gwaith yn Llundain, yn ddiau, ac hwyrach y bydd yn gwella drwy wy o gydnabyddiaeth ag ef. GWYL GERDDOROL SHEFFIELD. Deallwn fod hon yn rhagorol iawn; ac o ran ansawdd y canu, yr oedd yn ddiguro. Dywedai un beirniad na fuasai yn ddiogel i gantorion unrhyw ran o'r deyrnas roddi her i gor gwyl Sheffield, gan mor ardderchog ydoedd ei ganu; ond rhyfedd gorfod cydnabod wedi hyny fod y cor hwn yn ddiffygiol o ran ton- yddiaeth yng ngwaith Dr. Elgar, sef Breudd- wyd Gerontius "-gwaith, mae'n debyg, sydd yn cynwys digon o anhawsderau i ddarllenwyr corawl i'w dychryn I Anhawdd gwneyd gweithiau felly yn bcblogaidd, er eu holl rag- oriaethau. GWYL GERDDOROL CAERDYDD. Cawsom nodyn oddiwrth Mr. J T Rees, Mus.Bac., yn dyweyd ei fod yng Nghaerdydd yn yr wyl. Yr oedd yn mynychu'r boll rehearsals er ymgydnab- yddu ymlaen Haw ac, meddai, "Y mae Samson and Delilah' gan Saint Saens yn grand Da pe buasem oil mor ffodus a Mr. Rees, yn gallu mynychu'r rehearsals a'r gwyliau hyn Onid da fydd pan y gellir cael gwyl gerddorol Gymreig yn Llundain, yn hytrach na rhedeg i Gaerdydd i wyl Seisnig EISTEDDFOD QUEEN'S HALL. Derbyniwyd oddiwrth yr ysgrifenydd—Mr. D. R. Hughes -restr y testynau, a diolchwn iddo. Gwnaed sylwadau blaenorol ar y dewisiad a drwg genym sylwi nad ymddengys fod y pwyllor hyd yn hyn wedi ail-ystyried y mater o gyfyngu nifer yr aelodau yn y corau. Anogir ein darllenwyr, os am gystadlu, i anfon at Mr Hughes am restr y testynau. Ei gyfeiriad ydyw Oakland," 4, Barrow Road, Streatham Common, S.W. Daeth copi o'r prif ddarn-" Dinystr Pompeii "-i law, a cheisiwn ddyweyd ychydig arno yn y rhifyn nesaf.

BwrsSsS y f Ceft.