Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddlnasm

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddlnasm Cofier am y cwrdd protestio a gynhelir nos Wener nesaf yn St. James's Hall am wyth o'r gloch. Er mwyn cyfarfod a threuliau y cyfarfod gofaled pob Celtiwr i sicrhau tocyn swllt. Un o'r awdurdodau goreu ar bwnc Addysg yw Mr. Asquith, a bydd ei araeth yn werth ei gwrando: a beth am yr aelodau Seneddol Cymreig a fydd yno ? Onid ydynt hwy yn deilwng o'n cefnogaeth unol? Gymry cod- wch, a dangoswch eich atgasedd tuag at y Bil. Nos Fawrth nesaf, cynhelir cyngherdd blynyddol Eglwys St. Benet, yn St. Bride's Inst tute, ac y mae nifer ragorol o gantorion wedi eu I icrhau am y noson a'r nos Iau dilynol, ceir cyfleustra i glywed yr areithiwr doniol a'r pregethwr poblogaidd Gomer Lewis yn trin ar Ogoniant amrywiaeth yn neuadd Capel Castle Street. Yr un noson mae cwrdd cystadieuol Capel Jewin. Bydd Esgob Kensington-Dr. Ridgeway- yn talu ymweliad ag Eglwys D.-wi Sant, Paddington, nos yfory (Saboth), a thraddodir pregeth Seisnig ganddo. Disgwylir Syr Isambard Owen a Syr John Puleston i ddar- llen y llithoedd yno. # • Mae gwyr Morganwg wedi ffurfio eu hunain yn Gymdeithas Sirol yn Llundain yma, ac y mae pwyllgor cryf o fechgyn bro Morgan wedi eu hethol yn ddiweddar gyda'r bwriad o wneyd cymdeithas gref o alltudion y sir enwog hono sydd yn trigo yn y ddinas yma ar hyn o bryd. Mae amryw o wyr blaenaf y sir yn ffafriol i'r mudiad, a rhoddir gwahoddiad cynhes i feibion y sir i ymuno. Ceir pob manylion am amcanion y gymdeithas a'r cyfarfodydd a gynhelir ond gohebu a Mr. Leason Thomas, 43, Upper Gloucester Place, Clarence Gate, W. < Cafodd yr aelodau Seneddol Cymreig noson lawen ychydig amser ol, trwy gael gwahodd- iad i gyd-giniawa a Mr. Balfour y prifweinidog. Mae'n debyg mai'r Cyrnol Pryce-Jones oedd rhoddwr y wledd, a chafodd amryw o wyr blaenaf ein cenedl eu gwahodd yno i gyfarfod a phenaeth gwleidyddol ein gwlad, a datgan- odd Mr. Balfour, mewn araeth ar ol ciniaw, ei bleser o fod yn bresenol, a theimlai nad oedd, er ymysg gwrthwynebwyr gwleidyddol, eto ymysg gelynion personol iddo. Yn ol pob hanes, 'roedd yn noson hwyliog iawn, a chaf- odd pob plaid eu boddhau. < Hen dro cas wnaeth Mr. Alfred Davies noson neu ddwy wedi'r ginio, serch hyny. Yn y Ty yr oedd dadl frwd ar y Mesur Addysg, a chollodd Balfour ei dymher yn arw. Pan oedd pethau yn poethi tipyn, a swn ystorm gerllaw, wele Alfred Heddychol yn codi ar ei draed gan ddyweyd mewn ton wylofus fod yn ddrwg ganddo weled nwydau Mr. Balfour, ac yn taer erfyn arno i fod mor fwynaidd ag yr ydoedd yn y giniaw Gymraeg noson neu ddwy yn gynt. Hen dro sal, wir, Mr Davies, oedd edliw iddo ei fod wedi cael gwledd ar gost un o'r Cymry! Gwelir apel mewn rhan arall o'r papyr ynglyn a gweddw y diweddar R. A. Davies, yr adroddwr. Deallwn fod gwir angen am gynorthwy parod a sylweddol gan fod y cyf- eillion yn trefnu i sicrhau masnach fechan i'r teulu fel ag i enill digon at eu cynhaliaeth. Hyderwn na throi'r clust fyddar i'r apel hwn. < Ynglyn a'r gwahoddiad caredig a roddodd Mr. Ernest Rhys pwy ddydd o flaen Undeb y I Cymdeithasau, deallwn fod yn ei fwriad i gymeryd parti o fobt ieuanc drwy yr Amgu- eddfa Brydeinig ar y 15fed o'r mis hwn am 3.30 o'r gloch yn y prydnawn. Awgryma Mr. Rhys y priodoldeb o eangu cylch yr ymwel- iadau gan fod llu mawr o honom heb weled na deall haner y trysorau rhyfeddol sydd yn gorwedd mewn hedd yng ngwahanol Amgu- eddfeydd yn y ddinas yma. Pwy bynag a hoffai ymuno a pbarti teithiol a diwylliadol Mr. Rhys anfoned ei enw ar frys i'r ysgrifen- ydd, Mr. W. A. Willington, 4, Park Walk, Chelsea, S.W. Dymuna Mr Rhys a Mr Willington ar i'r bobl ieuainc eu cyfarfod yn nrws y British Museum dydd Sadwrn nesaf (Isfed) am 3.30 yn brydlon, fel ag i roddi digon o amser i fyned trwy y lie yn hwylus. » Bu cynulliad urddasol iawn yn Neuadd Drefol Fulham nos Fercher cyn y diweddaf. Noson at home" y Faeres ydoedd, a daeth gwahoddedigion o bell ac agos i f wynhau o garedigrwydd Mrs. Davies. Yn sicr, y mae'r Faeres Gymreig wedi gwneyd y flwyddyn yn un hynod yn hanes Fulham drwy ei charedigrwydd, ei haelfrydedd a'i phob- logrwydd cyffredinol. » Difgwylir noson o de a chyngherdd o radd tuhwnt i'r cyffredin ynglyn a Chymdeithas Lenyddol Eglwys Dewi Sant, nos Fawrth nesaf. Bydd Miss Annie Mathers yn trefnu yr holl raglen. Llywyddir gan Miss Alice Wil- liams, chwaer yr aelod anrhydeddus dros sir Feirionydd. Bydd te am 6.30 a dechreuir y cyngherdd, &c., mor agos ag y gellir i 8 o'r gloch. Erbyn hyn, mae'r pel-droedwyr Cymreig wrthi yn brysur bob dydd Sadwrn, a deallwn eu bod yn gatrawd lied dda eleni eto. Ar- weinir hwy gan Mr. W. M. Llewellyn, a'r ysgrifenyddion ydynt Mri. W. Ll. Davies, 3, Lincoln's Inn Fields, W.C., a F. H. Clav, i, Rosebery Avenue, E.C. Gofala Mr J D Williams, 94, Richmond Road, N., am y god. Ac os oes uarhyw gyfaill i'r mudiad am roddi cynorthwy, wel, boed iddo gyfeirio ei gamrau ar y Sadwrn i weled yr ymdrechfeydd. Cyngherdd rhagarol a gaed yng Nghapel Shirland Road nos Iau, Hydref 30iin, a chym- aint oedd swyn y canu fel y cynhyrfodd awen Awelfryn i ganu molawd i'r cadeirydd- Mr D Rees-fel a ganlyn. 0 dan yr am- gylchiad, wrth gwrs, esgusodir cywirdeb cynghaneddol:— CYFWYNEDIG I Mr. D. Bees, cadeirydd cyngherdd blynyddol Capel N Shirland Road, nos Iau, Hydref 30,1902. Gawr boddus, gwladgar, baddiol-dihafal Yw Rees ffraeth ddoniol; Lienor, a. llyw dyddorol, Diau i neb nid yw 'nol.—AwELFBYN. Nos Iau cyn y diweddaf, traddododd y Parch Wilson Roberts anerchiad ddyddorol a rhagorol, o flaen Cymdeithas Stratford, ar Proff. Drumond a'i weithiau.' Yr oedd y cynulliad yn lluOSJg, a cafwyd sylwadau pellach ar yr un mater gan amryw o'r cyfeill- ion ieuainc. Tystiai amryw o honynt eu bod wedi cael symbyliad yn y cyfarfod i roddi mwy o sylw i Drummond a'i weithiau yn y dyfodol. Diau, os bydd ein Cymdeithasau Llenyddol yn symbyliad i ddarllen a myfyrio, byddant yn sicr o ateb dybeii ardderchog. Da genym ddeall fod y crythor enwog- Mr. Philip Lewis-mewn Ilawn gwaith yn y byd proffeswrol Seisnig. Bu yn ddiweddar yn chwareu yng Ngwyl Norwich, ac yn flaen- orol yng Ngwyliau Gloucester, Leeds, Wor- cester, Lincoln, Sheffield. Cofied ein cyd- wladwyr y bydd Mr. Lewis yn chwareu un- awdau yng nghyngherdd Cwcwll ar yr 2lain o'r mis hwn yn Holborn Town Hall. Deallwn fod y cyfaill ieuanc Mr. Jack Edwards, Grafton Road, Kentish Town, wedi ymadaw a'r ystad hen-Iancyddol, a'r dydd o'r blaen priodwyd ef a Miss Lizzie Thomas, unig ferch Mrs. Thomas, The Dairy, Hanover Street, Kentish Town. Yn Eglwys St Martin's, Haverstock Hill, y rhoed y cwlwm priodasol, a gwasanaethwyd ar y gwr ifanc gan Mr L R Edwards, Grafton Road, tra yr oedd Miss Poole a Miss Willingale fel morwynion gan y briodferch. Dymunwyd yn dda i'r par ieuanc gan dorf o gyfeillion, a chawsant lu o anrheg- ion gwerthfawr ar yr amgylchiad hapus. » w Cafodd corau Penrhyn-y meibion a'r merched—dderbyniad cynhes iawn yng nchynulliad mawr Alexandra Park ddydd Sadwrn diweddaf. Canasant nifer o alawon Cymreig tra yr oedd y miloedd yn tyru i'w lleoedd yn y neuadd fawr, a chyn i'r prif siaradwyr godi caed arweiniad ganddynt yn y darnau Seisnig oedd ar y rhaglen-caneuon gwleidyddol y dydd. Gwnaed casgliad yn ystod y canu, a deallwn fod dros 60 punt wedi eu sicrhau. Cynulliad Rhyddfrydol oeddent, ac ar y cyfan ymddygasant yn dra haelfrydig hefyd. Parha y corau i ganu a chasglu ar hyd a lied Llundain, ac os ceir eu presenoldeb yn rhai o'n cynulliadau mawrion eto, sicr yw y rhoddir iddynt dderbyniad cynes iawn. Mawr ganmolid eu canu gan Mr. Campbell Bannerman ar ddechreu ei araeth fawr. Nos Lun diweddaf agorodd Cymdeithas City Road ei thymhor gyda chyfarfod hwyliog, a daeth cynulliad ardderchog ynghyd. Y swyddogion ydynt, Parch R L Jones (llywydd), Mri Ebenezer Hughes a John Williams (is- lywyddion), Mr E Wynn Davies (ysgrifenydd), Mr J Richards (trysorydd). <t Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y rhai canlynoh—A Iran gerddorol, Misses Pierce, Nellie Jones, Jenkins, Edith Lloyd Jones, Mrs. Anne Hughes, Mrs. Idris Jones, a Mr. Eben- ezer Morgan. Adroddiad gan Mr. Tom Powell. Cymerwyd cryn ddyddordeb yng nghystadleuaeth yr araeth ddifyfyr, ac allan o saitg o ymgeiswyr rhanwyd y wobr rhwng Mr. Ebenezer Hughes a Mr Idris Jones. Un peth arall o gryn ddyddordeb yn y cwrdd ydoedd etholiad seneddol. Yr ymgeisydd Rhyddfrydol a etholwyd, gyda mwyafrif mawr. • » Rhoddir cyngherdd arbenig gan Miss L. Teify Davies ar y 5ed o'r mis nesaf yn Beck- stein Hall, Wigmore Street, a diau y bydd Cymry'r ddinas yn barod i roddi pob cefnog- aeth iddi. 'Does neb yn f wy parod na Miss Davies i wasanaethu ein hachosion ni, a sicr y gwna canoedd o'i hedmygwyr bresenoli eu hunain yn y "SOlg recital" a roddir ganddi. Ceir manylion eto. Ar gais y Parch. Llewelyn Bowyer-gwein- idog newydd East Ham a Woolwich-y mae y Gymdeithas Feiblaidd wedi rhoddi Beibl mawr a hardd at wasanaeth pwlpud Capei Woolwich. Da genym ddeall fod arwyddion gweithgarwch yn bodoli yn y ddau gapel wedi sefydliad Mr. Bower yn y He.

Advertising