Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

PROTESTIO.

CRONFA AT GYNORTHWYO TEULU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRONFA AT GYNORTHWYO TEULU Y DIWEDDAR MR. R. A. DAYIES « YR ADRODDWR." Mae nifer o gyfeillion y diweddar R. A. Davies wedi penderfynu sefydlu tipyn o gronfa er cynorthwyo y teulu (yn cynwys y weddw a phedwar o blant ieuainc) y rhai sydd wedi eu gadael heb unrhyw ddarpariaeth ar eu cyfer. Nid yw iechyd Mrs. Davies o lawer yn gryf, ac nid oes ond un o'r plant newydd ddechreu enill ychydig. Mae'r angen yn sicr o fod yn fawr a'r achos yn sicr o fod yn un haeddol o gydymdeimlad. Byddai y diweddar R. A. Davies yn barod iawn bob amser i gynorthwyo pob achos teilwng gyda'i wasanaeth medrus fel ad- roddwr ac yn awr dyma gyfleustra i'w gyf- eillion a'i gydwladwyr i ddangos eu cydym- deimlad ymarferol a'i deulu sydd wedi eu gadael i sylweddoli colled fawr ar ei ol. Ni fwriedir i'r apel hwn ddyfod mewn un modd i wrthdarawiad a'r hyn a wneir gan gyfeillion caredig yn Wilton Square, City Road a Gothic Hall ar ran y teulu; ond i chwyddo yr byn a gesglir ganddynt hwy. Bwriedir defnyddio yr arian a gyfrenir tuagat sefydlu y weddw mewn masnach. Hyderwn y rhoddir gwrandawiad parod i'r apel presenol. Cydnabyddir yn ddiolchgar bob tanysgrifiad a anfonir i aelodau y pwyll- gor neu i'r personau a ganlyn: Cadeirydd: Parch. R. Lloyd Jones, 45, Almorah Road, Islington. Is-Gadeirydd: Mr. J. O. Pritchard, 8, Glenbrook Road, West Hampstead. Trysorydd: Mr. E. J. Evans, c/o Messrs. Clifford Evans and Co., Porchester Road, Bayswater. Ysgrifenyddion: Morgan Jones, 4, Blackburn Road, West Hampstead. Ebenezer Hughes, 68, Walford Road, Stoke Newington.

Advertising

TONAU CYNULLEIDFAOL