Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GWADDOLI ENWADAETH.

CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION.

CYNGHERDD CAPEL WOOLWICH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHERDD CAPEL WOOLWICH. Rhoddwyd cyngherdd rhagorol yn nghapel Woolwich nos Iau cyn y diweddaf, ac er mai ynglyn a'r capel Cymraeg yr ydoedd, daeth cyfeillion yno o bell ac agos i lanw y lie ac i wrando ar y rhai oedd i gymeryd rhan. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr W H Lewis -goruchwyliwr yr L. and P. Bank-a than ei drefnusrwydd aed trwy raglen faith, a rhaid addef fod y safon gerddorol ymheU uwchlaw'r cyffredin. Cymerwyd rhan gan y p jrsonau canlynol, ymhlith ereill, Miss E. H. Hopkins, Miss Styles, Miss Weeden, Miss Winnie Jones, Mrs Keely, Miss Wiseman, Miss K Tapping, y Mri Hicks, R J Evans, Hubert Lewis, J Gronow, W G Watson, Bowen, R G Thomas. Wedi gorphen a'r canu talwyd diolchgar- wch cynes i'r cadeirydd, a bu raid i awen y Parch. Llewelyn Bowyer ategu hyn yn trwy englynu iddo ef ac hefyd i'r gyfeilyddes Miss Hopkins. Wele yr englynion:- I'r cadeirydd: Ein llywydd, ddaw i'n llwyddo,—Ein Lewis Ni laesa ei ddwylo, Dyri i'n cadairo heno, Ddyn o barch, addien y bo. I'r gyfeilyddes: A'n cyfeiles fu yn cyfeilio-ddaeth Yn od o ddigwyno Yn deg, bu Miss Hopkins do, 'N poeni gyda'n piano. Da genym weled gwedd mor lewyrchus yn y lie wedi dyfodiad y Parch Llewelyn Bawyer i'r cylch. Mae'r aelodaeth yn parhau i fyned ar gynydd, a sicr yw y daw eglwys gref eto yn Woolwich fel yn y dyddiau gynt. Cynhelir yr oedfeuon ar y Saboth am 11, 3, a 6.30, a cheir cynulliadau hefyd bob nos Iau. Traddodir darlith gan y gweinidog nos Iau nesaf-y 13eg-3.r "Ceiriog," a'r nos Iau dilynol ceir anerchiad gan y Parch. Edmund Davies, Leytonstone. Rhoddir gwahoddiad cynhes i'r Cymry sydd o fewn y cylch i fyn- ychu y cynulliadau wythnosol hyn. GLYNCOTHI.

MAGGIE JANE.

Advertising