Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD A PR BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A PR BETTWS. I ba beth y daeth yr Ymherawdwr William drosodd i Brydain tybed ? Myn rhai mai dilyn esiampl Chamberlain a wna, sef dod yma yn bersonol i drefnu materion masnachol y«ld wy wlad. Mae'r wlad hon wedi colli ei phen er's blynyddau ynglyn a helyntion Deheudir Affrica, a rhydd ei holl sylw i'r parthau hyn. Anghofia ein llywiawdwyr fod genym barthau ereill y dylid edrych ar eu hoi, ac mae'n eglur ddigon ein bod yn cael ein graddol wthio allan o gyffiniau China gan alluoedd ereill. Iddew arianog yw Arglwydd Faer Llundain eleni eto. Yr unig drwydded i fod yn Arglwydd Faer yw bod yn berchen ar godaid dda o gyfoeth. Anghofir pob peth gan y Tadau dinesig os bydd eu harwr yn gyfoethog. Esgusawd y Llywodraeth dros wthio y Bil Addysg drwodd cyn y Nadolig yw fod ganddi lawer iawn o waith i'w gyflawnu eto. Y mae'n syndod mor lleied sydd wedi ei wneyd ganddi pan ystyriom ei mwyafrif llethol yn y Ty. Mae y relwe 6 Aberystwyth i Bont y Gwr Drwg bellach wedi ei chwbihau, a'r wythnos hon aeth nifer o wyr blaenaf y sir am dro arni. Agorir hi i'r cyhoedd yn ystod y mis presenol. Parhau yn ei anrhegion mae Mr. Carnegie, a'r wythnos ddiweddaf hysbyswyd ei fod wedi addaw pymtheg mil o bunau i Belfast tuag at godi llyfrgell rad. Parhau mae'r caledi ym mhlith Cymry Patagonia, ac nid yw'r Llywodraeth yno, mae'n debyg, yn gwneyd dim er eu cynorth- wyo yn eu cyni. Y mae haid arall o'r gwlad- fawyr ar ymadael a'r tir, ar tro hwn i Dde- heudir Affrica yr ant. Dywedir fod ein Llywodraeth ni wedi addaw tiroedd iddynt yn y Transvaal ar delerau hynod o ffafriol. Cafodd Mr. C. M. Williams, hen gynghor- wr Trefol yn Aberystwyth, ei deflu allan o'r cyngor yn yr etholiad diweddaf. Yr oedd Mr. Williams wedi bod yn ffyddlon i'w gyd- drefwyr am dros ugain mlynedd, ac wedi gwario amser ac arian ar eu rhan, ac wele ei wobr yn y diwedd. Nid rhyfedd fod Chamberlain am fyn'd i Affrica, ebe Dr. Clifford y dydd o'r blaen. Pe bae genyf fi y fath doraeth o areithiau o'r tu ol i mi, ag a draddodwyd gan Mr. Chamberlain yn 1868-1870, ac yn gorfod gwrando ar ddadleuon y mesur hwn, buaswn yn barod i fyn'd i le lawer pellach nag Affrica." Araeth Mr. Lloyd George oedd un o'r pethau goreu a gaed yn erbyn y Cloadur nos Fawrth diweddaf. Mae amryw yn ymholi beth yw barn Mr. William Jones, A.S., ar y mesur presenol. Y mae'r aelod tros Arfon wedi bod yn ddistaw iawn yn y Ty. Ar y cyfan y mae'r aelodau Cymreig wedi bod yn dra ffyddlon yn eu presenoldeb yn y Ty yn ystod yr ymraniadau ar y Bil Addysg, ond y mae eto le i wella. Mae'r frwydr wedi syrthio yn benaf ar ysgwyddau dau neu dri o'r aelodau, a sicr nas dylai hyny fod. Rhaid wrth fwy o undeb a theyrngarwch eto yn eu plith cyn byth y Uwyddant fel plaid.