Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu V Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu V Ddinas. Heno dechreuir cyfarfodydd pregethu blyn- yddol Capel Charing Cross. Parheir y gyf- res yn ystod y dydd yfory a nos Lun. Y gwein- idogion eleni fyddant y Parchn Cynddylan Jones a Iolo Caernarfon. w Nos Fercher nesaf, rhoddir swper goffi ar- benig yng Nghapel Clapham Junction, pryd, yn ychwanegol at y coffi, y ceir tair cystad- leuaeth ddeniadol. Bydd y cyfan yn rhad, ond gofynir am gefnogaeth pawb a gaiff ei foddloni yn y cwrdd. Y noson ddilynol, sef nos Iau, mae cyng- berdd capel Stratford ynghyd a'r te blyn- yddol, ac yno hefyd rhoddir cystadleuaethau ar y rhaglen fel math o atdyniad, a dylai pawb a alio fyned i gefnogi y cyfeillion yn y capel hwn. Mae'r ffordd ymhell i rai, feallai, ond mae'r trens yn hynod gyfleus o'r ddinas. # « Yr un noson ceir cynulliadau cyffelyb yng nghapeli Radnor Street, Chelsea ac yn Sussex Road, Holloway, fel na fydd raid i neb o'r dinasyddion fod heb de a chan nos Iau nesaf. m Ar y nos Wener dilynol mae cyngherdd Cwcwll yn yr Holborn Town Hall. Haedda yr hen wr ychydig gefnogaeth, a gobeithio nas anghofir ei angen yn yr wythnos hon. Boed iddo gael cyngherdd da ac elw syl- weddol. » Deallwn fod y pwyllgor ynglyn a'r cyng- herdd hwn yn trefnu rhaglen ddiguro, fel y gall pob un, a aiff i gefnogi yr hen Gymro, fod yn sicr o wledd gerddorol ardderchog. Hefyd, diau y bydd yno gystadlu go dda ar yr unawd baritone. < Pa genym glywed adroddiadau mor rhag- orol am y gwahanol gymdeithasau Ilenyddol eleni. Mae'r rhagleni bellach wedi eu cyflawn drefnu, a phob adran yn llawn gwaith. Boed llwyddiant arbenig i'r tymhor. Ynglyn a chyngherdd St. Padarn-yr hwn a gynhaliwyd yn y Queen's Hall, bythefnos yn ol, yr oedd y cynulliad yn hynod o foddhaol, a'r gefnogaeth a gafodd y cyfeillion yn galon- ogol dros ben. Cadeiriwyd y cwrdd gan Mr. Edmund Barnes-maer St. Pancras—a chaed ganddo eiriau pwrpasol ar y gwaith yn ystod y noson. Ar derfyn y cyngherdd hefyd, anogodd y Parch Morris Roberts ar i'r Cymry roddi eu cefnogaeth unol i'r Parch. William Davies yn ei lafur rhagorol yn y rhan og- leddol o'r ddinas. » Mae Mr Davies yn haeddu hyn, oherwydd, fel gweithiwr difefl a phregethwr naturiol, y mae yn glod i bwlpud yr Hen Fam. Da genym ddeall fod yr Eglwys fechan yn parhau i fyned ar gynydd tan ei ofal, a boed i'r cyngherddau hyn ddwyn elw sylweddol at dreuliau amrywiol y gwaith cenhadol ymysg Cymry gwasgaredig y ddinas. Agorodd Cymdeithas Castle Street ei hadran gerddorol am y tymhor drwy gynhal cyngberdd mawreddog yn eu neuadd eang ar nos Sadwrn y iaf o'r mis hwn, o dan lywydd- iaeth Syr Jehn Williams, Barwnig, Mae cyngherddau Castle Street yn enwog drwy Lundain, ac ni wnaeth Mr John Owen-y trefnydd-well rhaglen erioed na'r tro hwn, ac y mae hyny yn ddigon o ganmoliaeth i safon uchel y cyngherdd. Nid rhyfedd felly fod y lie yn Hawn a phawb yn mawr fwynhau y wledd gerddorol, ac nid I y lleiaf o'r edmygwyr oedd y boneddwr cen- edlgarol a lanwai y gadair am y noson. Yn wir, dangosai Syr John yn eglur mai nid llen- yddiaeth Cymru yn unig oeid yn p2ri bodd- had a phleser iddo. # Y dadganwyr oeddynt Miss Teify Davies a M ldam Eleanor Jones, yn cynrychioli y rhyw deg, ac yn wir yr oeddent yn swynol oliaeth, Bu iddynt ganu ac ail-ganu, a 'doedd bosibl cael gormod o'u melodedd. Yn sicr, fe ofala pobl Castle Street am y rhai'n eto. Y meib- ion cerddgar o*ddent Mri. Gwilym Richards ac Ifor Foster, a chaed ganddynt ddetholiadau rhagorol, er fod y ddau yn dioddef ychydig o dan anwyd. Adroddwyd gan Mr O'Mara fel cynrych- iolydd i'r Cynghorwr Egryn Owen, a chwar- euwyd ar y chwibanogl mewn modd deheuig iawn gan Mr Eli Hudson. Gofalodd Mr. Merlin Morgan am y cyfeiliant yn ei ddull parod arferol. Os ceir rhagor o'r gwledd- oedd hyn, dylent fod yn ddyrchafiad i'n henw cerddgar yn y ddinas. Bu gwyliau aelodau Y Brythonwyr yn hir eleni, ond ail-gyfarfuasant nos Werner yr wythnos ddiweddaf yn eu hystafell eang yn 63, Chancery Lane. Eu pwnc i agor y tym- hor oedd Cymreigaeth mewn Addysg a chan fod pwnc Acdysg ar flaen- au tafod pawb y dyddiau hyn, daeth nifer barchus i'r He er clywed beth oedd gan Mr Llewelyn Williams i ddyweyd ar y mater mor bell ag oedd a fynai a Chymru. Ond gwedd wreiddiol a gymerwyd ar bethau gan Mr Williams, ac yn ei araeth ragorol caed defnydd digon o hwyl siarad gan y gweddill o'r aelodau. Ymysg beirniaid Mr Williams, yr oedd Mri D Morgan, Rowland Rees, D Rees, M.A., Isaac Foulkes (Llyfrbryf), Miss Ellen Wil- liams, Dr Tom Evans, Mri D 0 Evans, J H Davies, M.A., T J Evans, D R Hughes, Edward Owen, a J T Lewis. Dangosai y siarad yn eglur fod gwahanol syniadau yn bodoli ar gyflwr addysg yng Nghymru yn ogystal ag ar syniadau Mr Williams ar y pwnc. Trefnir i gynhal cyfarfod adloniadol ymysg tylodioi y ddinas-o dan nawdd Undeb y Cymdeithas-tu-nos Llny 241.in o'r mis hwn. Yn Shaftesbury Hall, Kerby Street, Poplar, y cymer y cyngherdd Ie, ac enfyn pob cym- deithas nifer o gynrychiolwyr yno er gwneyd rhaglen ddyddorol am y noson. Mae'n rhaid i Gymry fod yn wahanol i bawb ym mhob peth. Dydd Sadwrn diweddaf yr oedd pet-droadwyr Llundain yn chwareu yma yn erbyn clwb Aberavon, ond yn ychwan- egol at atdyni/id y bel rhaid oeid cael cerdi- oriaeth hefyd. Y canlyniad oedd fod cor meibion Port Talbot ar y cae yn canu bob yn ail a chicio bechgyn Aberavon. Syfrdanwyd bechgyn Llundain gymaint gan y canu, fel yr anghofiasant y bel, a'r canlyniad oedd i foys Aberavon eu curo o ddeuddeg yn erbyn tri pwynt. Ar ol bod yn foddion i orchfygu y pel- droedwyr arosodd y cor yma dros nos Sadwrn ac ymddangosodd yn Neuadd y Frenhines ar y Sul, pryd y rhoed cyngherdd godidog gan gantorion Cymreig. Yr oedd y lie yn orlawn, a chaed canu rhagorol gan y cor a'r artistes Cymreig ereill. # • Da genym glywed fod eglwysi Anibynol Barrett's Grove ac East Ham wedi cael ben- thyg symiau sylweddol o arian o Gronfa'r Anibynwyr, er dileu dyledion eu haddoldai. Ar hyn o bryd, mae'r llogau yn uchel; ond o dan drefn y Groifa, gallir llsihiu y bi:c'i arianol yn fawr iawn. 0 0 o Chwareu gwledd yr Arglwydd Fier y bir aelodau Cymdeithas y Tabernacl nos Sidwrnt diweddaf, a daeth llond y neuadd yno iwrando yr areithiau a draddodwyd ar wahanol bync- iau y dydd. Gan mai ar y nos Lun dilynol yr oedd y wledd yn y Guildhall, manteisiodd aelodau y Llywodraeth ar ragwybodaeth bechgyn y Tabernacl, a chaed ganddynt bro.i yr un areithiau 11 Noson y merched oedd gan Gymieithas Shirland Road y nos Waner cynt, ac unwaith y rhoddir lie i'r rheiiy 'does siawns i neb arall. Ar y noson hon, hwy oeidyfirhaolt pob peth yn y lie. Darllen papyrau osdd eu trefn yn y cwrdd hwn, a Dhanoiwyd pedair o honynt at y gwaith, sef Mrs Perrott i draethu ar Garir Iwyddiant mewn b/wyd"; Miss L1.ura M Humphreys ar Hen ddiarhebion Cymreig"; a Miss Jones, Kemp Road, ar Babyddiaeth." w Methodd y badwaredd, sef Miss Edwards, Harlesden, a bod yn bresenol; ond gwnaeth y tair gyntaf eu gwaith yn rhagorol. Yr oedd ol llafur a medr i'w ganfod ar eu cyfan- soddiadau, ac nid yn unig medrent gyfansoddi yn dda, oid medrent hefyd eu darllen yn ddar nes ymylu weithiau ar fod yn hyawdl. Os oedd bai yn bod arnynt, nid oedd ond y bai hwnw ag sydd yn nodweddiadol o'r rhyw, sef arllwys gormod ar y tro. < Siaradwyd ymhellach, hefyd, ar y papyrau gan Miss Richards, Malvern Road; Miss- Williams, Castellain Road, ac ereill. Ceisiodd rhai o'r brodyr siarad ychydig, ond hawdd oedd canfod foi y merched wedi myn'd a'r gwynt o'u hwyliau y nos hon. Ewch rhagoch ferched Shirland Road. < <t Nos Iau cyn y diweddaf, cynhaliwyd yr ail swper goffi am y tymhor ynglyn a Chapel City Road. Rhoddwyd y wledd gan y gwein- idog-Parch. R. LI Jones-a gwledd ragorol a gaed, a phawb yn gwneyd eu rhan yn gan- moladwy. Mr Gomer Jones, un o ffyddlon- iaid Gothic Hall, oedd yn y gadair. Nos Fawrth diweddaf, cynhaliwyd cyng- herdd blynyddol Eglwys St. Benet, yn neuadd St. Bride's Institue, a chaf wyd cynulliad da a chyngherdd hwylus. Cadeiriwyd gan Mr. Mason Williams, yn absenoldeb Mr. T. Lloyd, Oxford Street, yr hwn oedd ya analluog i fod yn bresenol oherwydd anhwyl- deb. Y cantorion oeddynt, Misses Teify Davies a Gwladys Roberts, Mri Emlyn Edwards, John Sandbrook a Alfred Haughton. Adroddwyd gan Miss Madge Titheradge, a chafwyd dwy unawd ar y berdoneg gan Master Theodore L. Davies, yr hwn a chwar- euodd u Moto Continuo (Weber) yn hynod o alluog. Cyfeiliwyd gan Mr T Vincent Davies, organydd yr Eglwys. Pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, a therfyn- I wyd trwy ganu Duw Gadwo'r Brenin.

Advertising