Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DEDDFU TRWY DRAIS.

Y PWLPUD METHODISTAIDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PWLPUD METHODISTAIDD. SEFYDLU DAU WEINIDOG YN LLUNDAIN. Dyddiau prysur yw y rhain ym mysg Ym- neillduwyr Cymreig y ddinas. Mae amryw symudiadau crefyddol pwysig wedi cymeryd lie, megys sefydlu gweinidog gan yr Anibyn- wyr ym mhellafoedd y Dwyreinbarth, symud hen eglwys Moor.fields i ardal Mile End Road, a'r dyddiau diweddaf hyn eto wele'r Method- istiad wedi llwyddo i gael dau wr ieuanc o'r hen wlad i ofalu am ddwy o eglwysi pwysig o fewn y Cyfundeb. Fel y gwyddis mae amryw fylchau wedi bod yn hir bellach yn ein pwlpudau. Hyd yn ddiweddar yr oedd tri phwlpud gwag gan y Methodistiaid, sef Charing Cross yn herwydd marwolaeth y Parch. Abraham Roberts; Wilton Square trwy ymddiswyddiad y Parch. J Elias Hughes o fod yn weinidog; a Hollo- way trwy farwolaeth y Parch W Ryle Davies. A chan yr Anibynwyr, y mae eu prif eglwys -y Tabernacl-heb fugail oddiar yr ymad- awodd yr Hybarch Ddr. Evans er's amser yn ol. Ond wele'r Methodistiaid wedi llwyddo i lanw Charing Cross a Wilton Square, a hyny hefyd trwy ddewisiadau hynod o biVrpasol. Gofalasant am ddynion ieuainc talentog i ddod i'r cylch, ac y mie hyny o bwys neill- duol yn y blynyddau bywiog hyn. Dewisddyn yr eglwys yn Wilton Square ydyw y PARCH. GWILYM H. HAVARD, B.D., yr hwn a sefydlwyd yno ar y 30ain o'r mis diweddaf, ynghanol arwyddion amlwg o barch mawr a boddhad cyffredinol. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Mr. William Evans- ysgrifenydd yr eglwys-yn absenoldeb yr hyglod Lewis H. Roberts, yr hwn a orweddai gartref ar wely cystudd, a chwith iawn oedd gan y dorf weled ei le yn wag ar y noson hon. Ar y dechreu, rhoddodd Mr. Evans ychydig o hanes yr eglwys, ac yn ddilynol caed an- erchiad Mr. T. Woodward Owen ar fanylion yr alwad a roed i Mr. Havard, Yn bwyllog, meddai, y gwnaed y penodiad. Gwahoddwyd amryw o bregethwyr o'r wlad i'w gwasan- aethu, ond pan glywsant ac y gwelsant Mr. Havard, yr oedd yn ddigon iddynt. Rhoddwyd galwad daer iddo, a da oedd gan yr eglwys ei fod wedi gwrando ar eu cais. Wedi derbyn yr alwad yr oedd wedi llwyddo i enill y gradd o B.D. at ei radd o B.A., ac yn ychwanegol at hyny hefyd, yr oedd wedi enill Miss Jones, merch y Parch W Jones, Ton, Ystrad, i fod yn wraig iddo. Ar ran Cyfarfod Misol Morganwg yr oedd y Parch J Morgan Jones, Caerdydd a Mr J Lloyd Parry wedi eu danfon i'r cwrdd, a chaed anerchiadau edmygol gan y ddau. Croes- awyd y gweinidog ieuanc gan y Parchn Llewelyn Edwards, M.A., J E Davies, M.A., a R L Whigham, Charing Cross; a rhoddodd y Parch D C Jones o'r Boro ei hanes yn llawn i'r cwrdd oherwydd 'does neb bron o Gymru yn dod i Lundain ead yw Mr Jones yn eu hadwaen yn dda. Y mae Mr. Havard wedi enill parch ac edmygedd llu mawr o Gymry'r ddinas, a sicr yw y bydd yn nerth ac yn ddylanwad ymysg ei frodyr yn y cylch. Boed iddo bob llwydd yn ei faes pwysig. Y nos Iau dilynol, sef Tachwedd y 6ed, yr oedd eglwys Charing Cross yn cael y pleser o groesawu a sefydlu y PARCH. PETER HUGHES GRIFFITHS, fel bugail ar y lie, a chynulliad nodedig a gafwyd yno hefyd. Yr oedd y lie yn orlawn a chyfeillion yr achos wedi tyru o bell ac agos i ddangos eu parch i'r gweinidog newydd ar ei sefydliad yn ein plith. Rhoddwyd croesaw cynhes i Mr Griffiths gan nifer o weinidogion, a daeth rhai o'i hen eglwys yn Abertawe i ddatgan eu colled ar ei ol, a'r enili mawr a gaiff Charing Cross yn ei ddyfodiad. Yn sicr, fe fydd y newydd-ddyfodiaid hyn yn allu ymysg y Cyfundeb Methodistaidd ac yn anrhydedd i grefydd Cymru. Boed iddynt gael oes faith i lanw y cylch- oedd pwysig y maent wedi ymgymeryd a hwynt.

[No title]