Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYMREIGAETH MEWN j ADDYSG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMREIGAETH MEWN ADDYSG. Anerchiad a draddodivyd 0 flaen Cymdeithas y Brythonwyr, Tachwedd 7, 1902, [GAN W. LLEWELYN WILLIAMS, M.A., B.C.L.] Palas Gwirionedd yw ystafell y 'Brythonwyr.' Ynddi rhydd i bob un ei farn, ac i bob barn ei Ilafar. Nid felly yn y byd tuallan: nage, nid felly yng Nghymru chwaith. Rhaid i ni dderbyn ein duwinyddiaeth oddjwrth ein tadau, neu o'r pwlpud, neu o'r set fawr. Os cymera neb ei ry ddid i farnu drosto ei hun, a rhoi llafar i'w farn, ni chaiff le yn ein heglwysi. Rhaid dilyn arweinydd mewn gwleidyddiaeth, a rhaid ymladd dros brogram y blaid. Nid oes Ie-tufewn na thuallan i'r Senedd—i'r gwleidyddwr anibynol. Yn wir, rhaid bod yn uniongred hyd yn oed yn ein beirniadaeth lenyddol, ynte, gwae ni! Rhaid i ni oil blygu glin o flaen hwn-a-hwn fel bardd, a hwn-a- itwn fel hanesy dd. Os meiddir awgrymu fod brychau yn yr haul, gelwir y beirniad yn ynfyd neu yn faleisddrwg. Eisieu penaf Cymru heddyw yw GWROLDEB. Os yw'r wlad a'r genedl i ddatblygu, mae'n rhaid i'r gwyr ieuainc fod yn feiddgar ac yn anibynol. Yr hyn greodd Gymru Fydd" oedd gwroldeb beiddgar ein gwyr ieuainc ugain mlynedd yn ol. Pa le mae eu holynwyr ? Ble gwelir to ieuanc yn codi heddyw a'u calonau ar dân gan wladgarwch, eu hysbryd yn ferw gan rym drychfeddyliau newydd, eu cydwybod mewn gwrthryfel yn e rbyn syniadau uniongred yr oes ? Nis gall gwlad na chenedl fyw ar olud ei gorphenol. Rhaid i bob cenhedlaeth weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun. "Ereill a lafuriasant," yn wir; ond os ydym yn foddlon medi'r cynhauaf heb hau had erbyn y dyfodol, yna mae dyddiau newyn gerllaw, ac feallai y bydd yn rhaid i'r genedl fyned i'r Aipht cyn derbyn ymwared. Y mae Cymru wedi enill iddi ei hun gyfun- drefn addysgol na cbafodd moi'i bath erioed o'r blaen. Mae'n bosibl, os nad ydyw'n hawdd, i blentyn y tylotaf, os medda dalent, i ddringo i fyny o ris i ris hyd nes cyrhaedd pen y Brifysgol. Dyna gynhauaf ardderchog a diolch i'r gwyr fu'n hau genhedlaeth yn ol am dano. Ond os yw cyfundrefn addysg Cymru i ateb dyben ei bodolaeth mae eisieu rhagor. Nid er mwyn codi mab gweithiwr i fod yn broffeswr mewn coleg y sefydlwyd y gyfundrefn. Os na wna ragor na hyn, meth- iant a magi a thwyll ydyw'r cyfan. AMCAN ADDYSG. Cwestiwn ofynir yn fynych heddyw ydyw- Beth yw dyben ac amcan addysg ? Ceir gwahanol atebion oddiwrth wahanol bobl, Dyben addysg ebai'r Esgob Hedjey yng Nghasnewydd-ar-wysg fis yn ol "yw trwytho y meddwl plentynaidd a gwirioneddau'r ffydd Gatholig. Mae yn fwy pwysig yn ein golwg ni i'r plentyn fod yn Gatholic da nag yw iddo ddysgu ysgrifenu neu ddarllen neu rifo." 11 Y mae i bob ysgoldy ddau ddrws," ebai Arglwydd Hugh Cecil yn Nhy'r Cyffredin, un drws yn agor i'r byd, a'r llall i'r eg- 1wys." u Dyben addysg ebai'r masnachwr," yw rhoddi gwybodaeth ddefnyddiol i'r plentyn a'i galluoga i wneyd arian yn rhwyddach. Rhaid iddo wybod pa fodd i 'sgrifenu'n dde- heu a rhwydd, i seiffro'n gywir, i ddarllen print ac ysgrifen. Da fyddai iddo hefyd wybod rhywbeth am French a German. Dylai ddyfod allan o'r ysgol a'i gof wedi ei lenwi a gwybodaeth o ffeithiau fydd yn ddefnyddiol iddo mewn masnach." Dyben addysg" medd yr athrawon, fel rbeo], ydyw parotoi'r disgybl i basio arhol- iadau. Drwyarholiad yn unig yr enilla ys- goloriaeth yn y Brifysgol a swydd yn y Civil Service. Rhaid iddo basio arholiad cyn y daw yn feddyg, yn gyfreithiwr, neu yn far- gyfreithiwr. Ie, ac y mae'r rban fwyaf o'r eglwysi'n tybied erbyn hyn nas gall bregethu yr efengyl gyhoeddwyd gyntaf gan Fab y Saer a'r pysgotwyr o Galilea heb yn gyntaf basio arholiad. Felly, dyben addysg yw galluogi'r disgybl i basio arholiad." Heddyw mae'r ddau gyntaf yn ymladd a'r ddau olaf yn y Senedd: ond nid oes nemawr un yn gofyn, A oes un o'r bobl yma'n iawn ? Ai hyn yw dyben addysg ? Ai er dysgu credoau, ai er casglu cyfoeth, ai er enill swyddau breision, y sefydlwyd addysg yng Nghymru ? Os dyma'r ideal osodwn o flaen ein llygaid, yna yn wir meddaf i chwi, ni a ddamniwyd eisoes fel cenedl, ac nid ydyrn deilwng i aros yn bobl arbenig. Beth ynte, yw gwir ddyben addysg ? Yn wir, beth yw addysg ? Credaf fod addysg yn rhywbeth gwell a rhagorach na'r pethau a nodwyd. Siaredir am addysg grefyddol Mae pob addysg yn grefyddol! Dysgu'r plentyn ei wyddor, i agor ei feddwl i weled gogoniant llenyddiaeth, i wneyd iddo glywed a'i glustiau y gerddoriaeth ddwyfol sydd yn llawenhau hanes y canrifoedd, i beri iddo ddeall a mwynhau meddyliau dyfnaf y mwyaf a'r goreu o blant dynion, i symbylu ei ddycb- ymyg, i roddi awch ar ei feddwl, i'w wneyd yn dyner, yn ufudd, yn eirwir, yn onest,—pwy feiddia ddyweyd nad yw hyn yn addysg mor grefyddol a dysgu pader ar gof neu adrodd catechism neu gyffes ffydd ? Dyben addysg, meddaf, yw ffurfio cymeriad pen, cryf, gwrol. 11 Pa lesad i ddyn os enill efe'r holl fyd a cholli ei enaid ei hun ?" A pha lesad i'r dis- gybl os y goresgyn holl ymherodraeth gwyb- odaeth heb feddu diwylliant a sobrwydd a thynerwch cymeriad ? Dangoswch i mi wr nas gall ddyweyd gyda Ceiriog: Hardd yw llun a lliw Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw I ble'r a llygad dyn nad yw Yng ngwydd y tlws a'r cain neu all ddarllen gweithiau prif-feirdd a phrif lenorion y byd-desgrifiad Homer o farwol- aeth Hector neu gywydd Dafydd ap Gwilym yn anfon yr Haf yn llatai i Forganwg neu sonedau Shakspeare a Miltwn—heb deimlo rhyw gynhwrf yn ei enaid; neu ni fedra am- gyffred na gwerthfawrogi dim ond rhywbeth sydd wedi derbyn eisoes imprimatur y beirn- iaid; neu sydd mor ddall na wel ogoniant na phrydferthwch mewn dim bychan; neu sydd wedi sychu i fyny deimladan goreu ei natur fel nas gall gydymdeimlo a'r gwan ac ni theimla ei fod o'r nn gwaed a phridd a'r lluaws,—yna, meddaf, er gwyched ydyw fel ysgolor, er cymaint ac er dyined ei wybod- aeth, nid ydyw'r gwr yn haeddu cael ei alw yn ddiwylliedig. Yr unig wir ddiwylliant yw hyn: meddwl agored, talent awchus, calon i deimlo. Rhith-diwylliant sydd ym meddiant pobl fel Arglwydd Milner. Os mai efe yw'r finest flower of Oxford culturemae'n well genyf fi y blodau symi, swynol sydd yn tyfu'n wyllt rhwng bryniau Cymru. Adnabu'm lawer i hen ffarmwr yng Nghymru na phetruswn eu galw yn ddiwylliedig. Nis gwyddant lawer am foesau cymdeithasol, ond mae eu tynerwch ysbryd, eu cydymdeimlad rhwydd, eu calon iach, a'u symylrwydd un- plyg naturiol yn eu gwneyd yn gartrefol ym mhob cwmni.ac yn eu galluogu i ymddwyn gyda chymaint lledneisrwydd a boneddig- eidd-dra a phe baent wedi eu haddysgu gan Lord Chesterfield ei hun. Ni wyddant fawr o Saesneg, ac ni feddant lyfrgell Gymraeg fawr. Yn wir, ni welir ar eu hastell ond rhyw ddwsin o lyfrau, ond maent wedi darllen a deall y rhai hyn, maent wedi eu hastudio ac o'u mewn eu mwynhau, maent wedi meddwl am bob brawddeg ac wedi tynu allan o honi y mel pydd yn aros pob gwir fyfyriwr. Nid darllen er mwyn difyrwch, nac er mwyn lladd yr ennui a wnaethant, ond er mwyn rhoddi maeth i'r meddwl. Maent wedi myfyrio yng nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos." Maent wedi astudio problems anhawddaf athroniaeth a bywyd gyda Job: maent wedi rhedeg ar adenydd y wawr i entrych nefoedd dychymyg a barddoniaeth ac wedi treiddio a ddyfnderoedd gweddi a mawl gyda'r Salm- ydd ac Esay; maent wedi teimlo swyn tiysni arddull ac wedi canfod gwerth ac effaith y gallu dramayddol yn Efengyl Luc: ac y maent wedi ceisio dilyn Paul Apcstol drwy dywyllwch metaphysics a mysticism. Mewm gair, mae'r hen bobl wedi arfer meddwl, a. dyna'r unig addysg sydd yn werth son am dano. SAFONAU SEISNIG. Wel, ynte, a chymeryd hyn fel ein safon, gofynwn Beth yw gwerth ein cyfundrefn- addysgol yng Nghymru heddyw A ydyw yn well na'r hen gyfundrefn ?" Nid yn well,, cofiwch, er llwyddo'r Cymry mewn masnach neu yn y professions, ond yn well er meithrin a chryfhau ein cymeriad fel cenedl ? Beth wneir yn ein hysgolion elfenol, neu ein colegau uwchraddol, neu yn ein Prifysgol (i) i ddadblygu, a phuro, a chryfhau ein cymer- iad, neu (2) i ddadblygu ac i osod min ar ein cyneddfau meddyliol ? Er pan aiff y bachgen i'r ysgol gyntaf7" dysgir ef-nid mewn geiriau, mae'n wir, ond mor sicr drwy ymddygiad-i efelychu'r Sais.- Saesneg yw iaith swyddogol yr ysgol: Saes- neg yw iaith y Ilyfrau: Saesneg yw iaith yr arolygwr. Ac nid hyny'n unig. Gorfodir y plentyn i ddefnyddio safon Seisnigaidd ym mhob peth. Barn y Sais am hanes Cymru a'r byd: dull y Sais o feddwl a siarad ac ys- grifenu: dyna'r safon bob amser ac ym mhob. peth. Ie, hyd yn oed yn y pethau hyny ym mha un y mae'r Cymry yn tra-rhagori, eto'r Sais aiff a'r dydd. Pwy feiddia ddyweyd, sydd yn alluog i farnu'n gywir, nad yw pregethu Cymru yn Ilawer gwell na phregethu Lloegr ? Ond eto, mae'r arddull areithyddol Gymreig yn prysur ddiflanu o'r tir. Ewch i un o'r capelau Saes- neg am dro,—nid oes eisieu i chwi fyn'd yno'm fynych I-pan mae pregethwr o Gymro yn traethu. A yw'r pregethwr wedi dadblygu a gwrteithio yr hen areithyddiaeth Gymreig-? Dim o'r fath beth Mae'r dyn wedi gwneyd ei oreu, ac wedi llwyddo, i droi ei hun ym Sais. Mae wedi llwyddo, meddaf, ac y mae'n boblogaidd, ac yn derbyn wyth cant neu fwy o gyflog. Ond nid yw gwreiddyn y mater n ynddo. Mae'r naturioldeb oedd yn nodweddu'r "hoelion wyth wedi diflanu. Mae yn barabl- wr penigamp-yn llawer gwell na'i gymydogp y Sais safndrwm. Ond gellir ysgrifenu a Ichabod uwchben areithyddiaeth o'r fath. Nid yw'n "true to nature," ac ni saif. Mae hyn yn wir am bob adran o'n bywyd1 Cymreig. Mae Seisnigaeth yn bwyta i fyny'n cymeriad cenedlaethol. Mae ein bywyd yn cael ei droi i gwrs anaturiol. Mae ein haddysg: yn ein troi ymaith oddiwrth ein gorphenoL Man is the heir of all the ages" medd diareb Saesneg. Ond am y Cymro addysg- iedig gellir dyweyd yn rhy fynych ei fod wedi gwerthu eienedigaeth-fraintam phioled o gawl ? Pa fodd y gwnawn ddisgwyl Cymry Fydd i fod yn Gymru cryf, hunan-ymddibynol, os dysgwn hwynt i anwybyddu eu galluoedd a'u breintiau cynhenid a thrawsnewid eu hunain yn ol patrwn estronol ? Hawdd fyddai i mi-pe bae amser yn caniatau—roddi dwseni o engreifftiau o'r hyn 'rwy'n feddwl, ond rhag eich blino a meithder", gadawaf y mater yn y man yna: ac af ymlaen i ofyn yr ail gwestiwn. Beth mae ein haddysg: yn wneyd i ddadblygu a gosod min ar ein. cyneddfau meddyliol ? DYSGU MEDDWL. Atebaf, y nesaf peth i ddim 1 Apeliaf at brofiad pob un sydd yn yr ystafell yma heno- Taflwch eich cof dros y blynyddau a fu. Pa athraw a'ch dysgodd i feddwl drosoch eich, hun erioed ? Mae'n ddlau genyf i ryw herb athraw yn yr Ysgol Sul wneyd hyny, ond a,, geisiodd yr athraw yn yr ysgol ddyddiol wneyd hyny ? Faint o honom, wrth fod yn hollol onest a ni ein hunain, sydd yn gorfed, cyfaddef mai ychydig iawn o feddwl a wnaeth- om cyn darfod a'r ysgol! Ai nid ar ol ym-