Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PRA iF DIG SION DAFYDD.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

PRA iF DIG SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. Ol-ERC Y LLYS. COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Oryno. | Mr. Digyffro. GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. DROB YR ERLYNIAD. I DROS Y CARCHAROR. Mr. Gwladgarwr. Mr. Uchelgais. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Masnach. Mr. Lien Cymru. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Grefydd Cymru carcharor. (gwraig Mr. Lien). Miss Balchder, meroh y Miss AddysgCymru, march carcharor. Mr. Lien. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. CARCHAROR. Drc SION DAFYDD. BHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofu, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. (Parhad). Mr. Gwladgarwr. Mr. Gwareiddiad I Mr. Clir-ei-lais. Mr. Gwareiddiad! Mr. Gwareiddiad! TYST V. MR. GWAREIDDIAD. Mr. G. Yr ych chwi yn hen gyfaill i Mr. Cymraeg ? Mr. Gw. Efe oedd fy nghyfaill cyntaf yn y rhan hon o'r byd. Mr. G. Y mae Mr. Cymraeg, 'rwy'n meddwl, yn un o'ch cynrychiolwyr yma ? Mr. Gw. Ydyw'n siwr, ac ni chefais ei ffyddlonach mewn un cwr o'r byd. Nid yw yn gwrandaw ar bob stori ffol, ac nid yw yn rhedeg ar ol oferedd. Y mae yn wr diwyll- iedig, ac yn caru heddwch, hynawsedd, a gwirionedd. Gallaf ddyweyd yn onest na chefais erioed was mwy trylwyr nag efe, na goruchwyliwr gwell a mwy goleuedig ar fy nghyfoeth. Mr. G. Chwi glywsoch beth ddywedodd Miss Addysg am Mr. Rhith-Gwareiddiad. A ydych yn perthyn i'ch gilydd ? Mr. Gw. Ydym y mae'n haner-brawd i mi, a dywedir ein bod yn debyg iawn i'n gilydd. Amcana ef ychwanegu at y tebygol- rwydd drwy wisgo mor agos ag y gall i fi, ac y mae hyd yn oed yn dynwared fy llais a'm geiriau a'm hystumiau. Mae wedi creu cym- aint o anrhefn ym mhob man fel yr wyf wedi ei orfodi i alw ei hun wrth ei enw llawn, sef Rhith-Gwareiddiad. Ond mae llawer eto yn cael eu twyllo ganddo. Mr. G. A ydych yn adnabod y car- charor ? Mr. Gw. Na; nis gallaf ddyweyd fy mod yn ei adwaen, a phan y nesaf ato, cilia draw. Bu'm yn ei rybuddio unwaith i beidio niweidio Mr. Cymraeg. Mr. G. Beth berodd i chwi ei rybuddio ? Mr. Gw. Gwelais ef yn bygwth Mr. Cym- raeg un diwrnod ar drothwy ty Miss Addysg, ac eis ato i'w gynghori i fod yn dawel. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.j Mr. Uchelgais. Un o'ch gweision chwi yw Mr. Cymraeg ? Mr. Gw. Ie. Mr. U. A welsoch chwi'r carcharor yn Xaraw Mr. Cymraeg ? Mr. Gw. Naddo. Mr. U. Mae genych weision ereill yn y wlad hon heblaw Mr. Cymraeg, megis Mr. Saesneg, Mr. Masnach, ac felly yn y blaen ? Mr. Gw. Oes. Mr. U. Ac y maent hwy yn weision ffydd- Ion hefyd ? Mr. Gw. Maent yn weision tra ffyddlon, <ond nid wyf yn teimlo mor sicr o'u doethineb ar bob amgylchiad ag wyf o Mr. Cymraeg. [Mr. Uchelgais yn eistedd a Mr. Gwareiddiad yn sefyll.] Mr. G. Dr. Hanes Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Hanes Dr. Hanes TYST VI. DR. HANES. Mr. Gwladgarwr. Yr ydych chwi yn hen gyfarwydd, Dr. Hanes, a'r erlynydd ? Dr. Hanes. 'Rwy'n cofio'r dydd y'i gan- wyd 'rwy'n ei gofio yn blentyn bach yn yr ysgol yn ymladd wrth ochr Llewelyn a Glyn- dwr yn erbyn Iorwerth a Harri; 'rwy'n ei gofio'n dawnsio wrth swn telyn Dafydd ap Gwilym. Gwelais ef yn dadblygu dan gyfar- wyddyd tyner a thadol yr Esgob Morgan bu'm yn gweini arno ar ei wely cystudd; bu'm yn cyd-lawenau a Mrs. Crefydd pan adferwyd ei iechyd; ac yr wyf wedi bod yn ymhyfrydu yn ei nerth a'i nwyfiant newydd oddiar hyny. Mr. G. Y mae Mr. Cymraeg yn ddyn iach ynte ? Dr. Hanes. Mae ei galon fel y gloch; mae ei holl aelodau yn iach; ac er fod ei gylla ychydig yn wan ar adegau, nid oes un rheswm paham nas gall oroesi llawer iawn o'i frodyr ieuengaf. Mr. G, Y chwi fu'n gweini iddo yn ei gys- ¡ tudd yng Nghalon Cenedl ? Dr. H. Ie'n siwr. Mr. G. Beth oedd ei gyflwr pan welsoch chwi ef ? Dr. H Yr oedd yn dechreu dod ato ei hun. Yr oedd clwyf ar ochr ei gern, ac yr oedd wedi gwaedu llawer. Tywelltais olew i'r clwyf, ac ni fu'n hir cyn cael adferiad llwyr. Mr. G. Clywsoch Mr. Cymraeg yn adrodd pa fodd y derbyniodd yr archoll ? A ddy- wedech chwi, a barnu oddiwrth natur y clwyf, y gallai fod wedi ei dderbyn yn y modd a ddesgrifid ganddo ? Dr. H. Nid yn unig gallai, ond credaf fod hyny yn debygol iawn. Mr, G. A welsoch chwi'r gyllell hon o'r blaen ? Dr. H. Do. Mr. G. Ym meddiant pwy oedd hi pan welsoch hi o'r blaen ? Dr. H. Ym meddiant y carcharor. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Mr. Uchelgais. 'Dyw cylla Mr. Cymraeg ddim yn gryf, Dr. Hanes ? Dr. H. Ddim mor gryfed, dywedwch, a chylla Mr. Saesneg (chwerthin). Mae ef yn gallu llyncu pobpeth heb deimlo poen ar ol hyny. Mr. U. Ac y mae Mr. Cymraeg wedi llewygu unwaith neu ddwy ? Dr. H. Ydyw. Mr. U. Ac mi allai fod wedi llewygu ar yr wythfed o Fedi ? Dr. H. Ni fyddai hyny, wrth gwrs, yn ambosibl, er ei fod yn beth lied anhebygol. Mr. U. A phe bai wedi llewygu, a syrthio yn erbyn careg lem, gallai hyny esbonio'r clwyf welsoch ar ochr ei gern ? Dr. H. Ni fyddai yn amhosibl. Mr. U. Dywedwch i chwi weled y gyllell ym meddiant y carcharor. A welsoch chwi hi ganddo ar y cyntaf o Fedi? Dr. H. Naddo; oblegid ni welais y car- charor y dydd hwnw. [Mr. Uchelgais yn eistedd.] Y Barnwr. Yr ych yn adnabod y car- charor ? Dr. H. Ydwyf, fy arglwydd, er yn blentyn. Y Barnwr. Beth ddywedech yw ei allu corphorol a meddyliot ? Dr. H. Nid yw ei allu corphorol ond bychan, a'i allu meddyliol yn llai fyth, Mae ei feddwl mor wamal fel y mae'r lleiaf yn ddigon i'w gynhyrfu a'i wallgofi. Y Barnwr. A ydych yn ei ystyried yn hollol lawn ? Dr. H. Prin yr hoffwn ddyweyd hyny. Y mae ganddo ddigon o synwyr i wneyd a chadw arian, a dim rhagor. [Dr. Hanes yn eistedd.] (I'w barhau.)

Advertising