Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

A8C Bgd y Bill.!

[No title]

---------------IPRYDNAWN YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PRYDNAWN YN YR AMGUEDDFA BRYDEINIG. Dydd Sadwrn diweddaf, ymgynullodd nifer lied dda o gyfeillion ar wahoddiad Mr. Ernest Rhys (drwy gyfrwng y CELT) i'r dyben o fyned trwy yr uchod o dan ei arweiniad, ac y mae cael cwmni gwr fel efe, sydd yn treulio gymaint o amser yn yr Amgueddfa ac yn ei adwaen mor dda, yn fantais rhy werthfawr i'w golli. Buwyd wrthi yn brysur am ddwy awr a haner o amser, a thalwyd ymweliad a'r gwa- hanol adranau ag oedd o fwyaf dyddordeb i'r Cymry. Yr ystafell gyntaf oedd yr ystafell ddarllen, lie y canfyddid degau o fyfyrwyr wrthi yn brysur yn chwilota ac adysgrifenu hen gywreinion. Awd wedyn i'r ystafell Ile y ceid engraifft (specimen) o'r argraffiad cyntaf sydd ar gael, ynghyd ag argraffiadau henafol y cyn-oesoedd. Ymwelwyd hefyd a'r Oriel Faenollle y mae engreifftiau i'w gweled o allu yr hen Gymry yn y gelfyddyd hon awd hefyd i'r Oriel Bres a'r orielau lie y ceir eng- reifftiau o allu ein cenedl ynghyd a'i medrus- rwydd mewn pethau celfyddydol megis arfau rhyfel a theuluol ac offerynol. Ar ein llwybr i'r ystafell hon daethom ar draws hen awrlais neillduol o henafol, esiampl o un y dywedir y byddai drwg-weithredwyr yn cael eu rhoddi i farwolaeth arnynt. Y mae i'r awrlais wahanol adranau. Rhoddwr hwn oedd y diweddar Mr. O. V. Morgan, aelod Seneddol cyntaf Battersea (a chyda Haw, dymunwn ddyweyd i ni ddyfod ar draws aelod presenol Battersea, Mr. John Burns, yn ymddifyru ynghyd ag adeiladu ei feddwl yn hynafiaethau yr Amgueddfa, ar yr un dydd. Gwelir oddiwrth hyn fath student ydyw yr aelod anrhydeddus). Canfyddasom amryw o bethau wedi eu gwneyd yn siroedd Fflint, Dinbych, Aberteifi a Chaerfyrddin, ac o siroedd ereill. Un peth yn neillduol a dynodd ein sylw, oedd tarian rhyfel, hynod o gywrain, wedi ei darganfod yn ardal Rosgoch, sir Aberteifi. Yn yr amser byr yma gwelwyd digon i brofi nad cenedl anwaraidd oedd y Cymry fel y myn rhai o ysgrifenwyr Seisnig i ni gredu ond ei bod yn genedl o feddwl a galluoedd nodedig er yn foreu iawn. Cynghorem ein cydgenedl i wneyd mwy o ddefnydd o'r arngueddfeydd hyn yn y dyfodol nag a wnaed yn y gorphenol. Fel y gwyr amryw, y mae Mr. Herbert Lewis, A.S. dros sir Fflint, yn gweithio yn egniol tuagat gael amgueddfa i Gymry yng Nghymru. Deallwn mai ei amcan yw cael symud y pethau Cymreig o'r amgueddfa uchod i'r un Gymreig a fwriada sefydlu yn ein gwlad ni. Amcan rhagorol; ceid felly well cyfleus- dra i weled a phrofi ac ymchwilio pethau Cymreig, oblegid ymysg y nifer fawr o bethau ereill, fel y maent yn awr, yr ydys yn colli golwg arnynt. Ein diweddglo yw, boed i ni gael cynulliad tebyg eto heb fod yn hir iawn CADFANYDD.

[No title]

Advertising