Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

HUGH PRICE HUGHES WEDI MARW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HUGH PRICE HUGHES WEDI MARW. ■ Bu farw y pregethwr Wesleyaidd byd- enwog, Hugh Price Hughes, yn sydyn iawn nos Lun diweddaf, yn ei breswylfod yn Llun- dain. Ar ei ffordd adref o gynhadledd gref- yddol yn y prydnawn tarawyd ef ag ergyd o'r parlys mud, a chyn pen awr o amser yr oedd enaid y gwr mawr wedi ehedeg ymaith Brodor o dref Caerfyrddin oedd Mr. Hughes, a ganwyd ef yno yn 1847. Bwriadai ei dad iddo fod yn fargyfreithiwr, ond credai y mab mai pregethu oedd ei waith i fod, ac felly y bu. Trodd allan yn un o ddynion enwocaf ei enwad a'i oes, ac mae'r gwaith hynod a gyf- lawnodd yn Llundain yn ystod y blynyddau diweddaf hyn yn brawf llaw gwr Duw wedi bod yn ymwneyd ag ef. Hanai o deulu parchus a chrefyddol, a dywedir fod ei daid yn un o'r Wesleyaid cyntaf yn yr ardal. Aeth yn gynar o dan efrydiaeth yng Ngholeg y Wesleyaid yn Richmond, ac ym mhen amser, dechreuodd fel pregethwr achlysurol. Dechreuodd ar ei gylch cyntaf yn Dover, a chaed yno arwydd- ion eglur fo d y pregethwr yn meddu dawn anarferol, ac fod ei natur Gymroaidd yn debyg o'i nodi allan fel pregethwr tanllyd yn ei gylch. Aeth ei glodydd ar led yn fuan, ac yn ei symudiadau bugeiliol yn ol trefn y Wes- leyaid daeth yn enwog fel yr Efengylydd Cymreig." Yn 1887 dechreuwyd ar y Genhadaeth yn y West End, a chymerwyd St. James's Hall at gynhal y gwasanaeth ar nos Sul. Aeth clod Mr Hughes ar led, a llanwyd y neuadd o'r cychwyn, a deuai miloedd o bell ac agos ac o bob gwlad i wrando ar y pregethwr Cymreig yn traethu yr efengyl mor ddylanwadol. Llwyddodd y Genhadaeth yn ddirfawr, a chyfrifir hi heddyw fel un o ganghenau mwyaf pwysig yr enwad. Nid yn unig gyda chrefydd yr oedd Mr. Hughes yn flaenllaw, eithr gyda phob achos dyngarol, a phob mudiad a dueddai er dyr- chafu'r isel neu wella'r tylawd. Arweiniodd lawer i gad yn erbyn gorthrwm a Phariseaeth, ac 'roedd ei lais o blaid y gweithiwr ymhob anghydfod. Beth amser yn ol, collodd ei iechyd ac yn fwy anffodus fyth, cafodd ei hudo i gredu fod y rhyfel diweddar yn Affrica yn rhyfel cyf- iawn, a bu llawer o guro arno am ei ddal- iadau Jingoaidd. Erbyn hyn, yr oedd yn barod i ganmol gwrhydri y Boeriaid a diau, pe cawsai iechyd, mai efe fuasai y llais cryfaf rhag Haw yn erbyn milwriaeth ym Mhrydain. Chwith fydd clywed am ei farw, ac mae colli cymeriad aruchel fel. efe o'n plith yn galw yn groyw am arweiniad yr Ysbryd i alw ereill i lanw y bylchau mawrion a achosir drwy ei ymadawiad.

[No title]

Bwrdd yf Celt. P