Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinas. Nos Fercher nesaf, cynhelir cyngherdd blynyddol Capel Charing Cross, a chan mai hwn yw'r cyngherdd cyntaf wedi dyfodiad y Parch. P. H. Griffiths i'w plith, bydd yn sicr o fod yn boblogaidd iawn. Gwelwn eu bod wedi sicrhau talentau rhagorol i ymddangos ynddo. Yn anffodus, ar yr un noson y ceir dadl yr Undeb yng Nghlapham Junction, er, efallai, fod y pellder rhwng y naill a'r llall yn ddigon rhag gwneyd yr un niwed i'w gilydd. Eto, rhaid addef fod y pwnc a ymdrinir o dan nawdd yr Undeb yn un a hawlia ystyriaeth a chefn- ogaeth holl Gymry'r ddinas. Mae Miss Teify Davies yn rhoddi ei chyng- herdd hithau y nos Wener dilynol, sef y sed o'r mis hwn. Gan fod y Bechstein Hall yn Ile mor gyfleus, ac yn agos i'r Queen's Hall, hyderwn y gwria canoedd eu ffordd i Wigmore Street i gefnogi'r bencerddes ar y noson hon. 0 0 I Nos Iau nesaf mae cyngherdd Barrett's Grove, yn y New Tabernacl, Old Street, ac nid yn Shoreditch Town Hall fel yr hysbys- wyd yn flaenorol. Mae y rhagolygonyn add- awol am wyl lwyddianus. Da genym am hyn, oherwydd haedda'r eglwys fechan yng Nghapel Y Gohebydd bob cynorthwy yn eu brwydr galed yn erbyn baich trwm o ddyled. Cafodd Mr. Lloyd-George wrandawiad ar- dderchog yn y Caledonian Baths nos Iau cyn y diweddaf. Ychydig amser yn ol gwrthod- wyd y neuadd iddo am ei fod yn "Pro-Boer," ond erbyn heddyw mae'r bobl yn dod i ddeall mai barn Mr. George oedd yn iawn wedi'r cyfan. Y noson hon, yr oeddent yn ei haner- addoli. Rhyfedd fel y gellir diwygio y Sais drwy effeithio ar ei logell; a diau fod y treth- oedd trymion presenol wedi gwneyd mwy na dim er agor ei lygaid o'r anghyfiawnder yn y Transvaal. » 0 dan lywyddiaeth y Parch. Richard Rob- erts, Willesden Green, cafwyd cwrdd hwyliog yn Shaftesbury Mission Hall, o dan nawdd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig, nos Lun diweddaf. Yr oedd amryw o fechgyn a merched ieuainc ynglyn a'r gwahanol gym- deithasau wedi addaw eu gwasanaeth am y noson i ddyddori y dorf o Gymry tylodion oeddent wedi dod ynghyd, a chaed cryn fwynhad yn y gwaith. Y mae'r Undeb i'w ganmol am y mudiad newydd daionus hwn. » Daeth cynuMiad rhagorol ynghyd i Gapel Radnor Street nos Iau cyn y diweddaf, pryd y rhoed cyngherdd blynyddol yno. Yn blaenori y cyngherdd yr oedd cwrdd te, a da genym allu dyweyd i wragedd y capel wneyd eu rhan yn anrhydeddus ynglyn a'r darpar- iadau yno. Yr oedd yno raglen ragorol wedi ei threfnu, a chaed hwyl mawr ar yr holl waith. Er hyny, rhaid addef i ni ofidio am un peth. Yr oedd gwr ieuanc yn adrodd yno, ac er mwyn iddo gael chwareu teg bu raid troi plerityn bychan allan. Buasai yn fwy doeth troi yr adroddwr allan o lawer. Os na all ein artistes ddygymod a chymeradwyaeth diniwed plant, gwell iddynt gadw o'r llwyfan yn gyfangwbl. # Mudiad rhagorol ynglyn a'r Cymdeithasau Llenyddol Cymreig yw'r dadleuon yma a drefnir rhwng y naill gymdeithas a'r llall yn ystcd y gauaf. Rhydd fantais i wahanol dalentau ddod i'r amlwg, a chyfleusderau i fobl ieuainc siarad ger bron odfeuon mawrion. Nos Fawrth diweddaf, caed cyfarfyddiad hapus rhwng pobl Jewin a'r Tabernacl, yn I neuadd capel y blaenaf, a chaed cryn hwyl yno wrth ddadleu y naill ochr a'r llall. j • • Pwnc yr ymdrafodaeth ydoedd, Pa un ai'r Eglwys ai'r Wladwriaeth sydd i lywodraethu y byd ?'; Agorwyd yn gadarn a dysgedig o blaid yr Eglwys gan Mr. Benjamin ar ran pobl Jewin, tra yr oedd bechgyn y Tabernacl wedi cael gan Mr John Rice i arwain eu cad hwy o blaid y Wladwriaeth. Bu yno gryn ddadlu o'r naill du a'r llall, a bu raid rhoddi taw arnynt gan gymaint eu brwdfrydedd ar ol deg o'r gloch. Wedi'r dadlu, caed fod plaid yr eglwys yn ddigryn, a dyfarnwyd y ddadl o'u plaid gyda chymeradwyaeth. Llywydd- wyd yn ddeheuig gan weinidog y lie, y Parch. J. E. Davies, M.A. Swper goffi ar raddfa eang a gynhaliwyd yng Nghlapham Junction, nos Fercher, Tach- wedd Igeg, o dan nawdd y Cymro twym-galon Mr D C Davies, Silverthorne Road (gynt o Ledrod), a chadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. D Jones, Rathbone Place, a chafwyd rhodd ragorol ganddo at yr achos yn y lie. Yn gofalu am feirniadu y canu yr oedd y cerddor adnabydtius, Mr Madoc Davies. Beirniaid yr adroddiad oeddynt Mri Llewelyn Evans a Tom Jer kins, Battersea Park. Cipiwyd y wobr o fedal aur am yr adroddiad gan Mr. E Jenkins, Walham Green; y fedal aur am yr unawd i feibion gan Llew Caron; a Miss Mary Morgan, Jewin, enillodd y fedal aur am yr unawd dan 16. Llongyfarchwn Mr D C Davies ar lwyddiant y cyfarfod; yr oedd y casgliad yn neillduol o dda. Yr oedd dadgan- iadau Miss Sally James, John Street, yn dda iawn; ac am adroddiadau Mrs D 0 Evans 'does eisieu ond dyweyd eu bod yn berffaith. Lie rhyfedd oedd gan Gymdeithas Ddiwyll- iadol Shirland Doad nos Wener yr wythnos ddiweddaf. Y merched oedd yr achos eto. Maent wedi bod yn bur flaenllaw yn ddi- weddar yn y He gyda'u papyrau galluog a'u hareithiau grymus, nes y maent wedi myned i gredu eu bod lawn cyfuwch eu hysgwyddau a'r bechgyn, a daethant ymlaen i ddyweyd y noson hono, -1 Na ddylai meibion gael mwy o gyflog na merched." Eu champion y tro hwn oedd Miss Evans, 26, Hatherley Grove, a darllenodd bapyr galluog, yn dangos fel yr oedd merched yn cael cam, gan sefyll i fyny yn gadarn dros eu hawliau. Yr oedd nifer luosog o honynt wedi dyfod ynghyd i gefnogi y chwaer, ac nid oedd prinder rhai i siarad yn eu plith. Ceisiodd un neu ddau o'r bechgyn hetyd gymeryd eu plaid, ond cafodd y truain wybod ganddynt ar y diwedd nad oedd angen eu gwasanaeth, eu bod hwy (y merched) yn ddigon galluog i amddiffyn eu hunain. Mr D Williams gyrnerodd ochr y bechgyn. Caed fod mwyafrif mawr o blaid y merched ar y diwedd.

Advertising