Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.

SWYNOL FEDD Y BARDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SWYNOL FEDD Y BARDD. I Fe fydd fy medd yn brydferth, Bydd gwyryf hawddgar, Wen, I Bob dydd yn caru'r drafferth 0 ddyfod uwoh fy mhen. Ac yno'n llednais-galon Er cof am awdwr cerdd, Bydd gyda'i dwylaw gwynion Yn planu deilen werdd. A daw drachefn a deigryn Yn llenwi'i llygaid clir, I osod gwylaidd flodyn Ynghwmni'r ddeilen ir. Mor debyg fydd y ddoilen Ynghwmni'r blodyn clyd, I'r wyryf dyner, lawen, Ynghwmni'r bardd trwy'r byd. I'r gweryd llonydd, dulaith, 0 ganol dail yr oes, Disgynwn ninau ymaith Dan wywol awel groes. | Yn fuan awn, ferch ddillyn Fel deilos dol a gwaen, Gofala blanu blodyn Os hunaf o dy flaen. A bydd dy ddeigryn tyner I wlitho'r fangre glyd, Yn fwy o barch o'r haner I mi, na cholofn ddrud. Mor swynol fyddai'r syniad O'th weled, Wenferch hardd Yn wylo dagrau cariad Ar flodeu bedd y bardd Llansannan. TEEBOR ALED.

Advertising