Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

I PRAWF DIC SIGN DAFYDD.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

PRAWF DIC SIGN DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YB ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLERC T LLYS. I COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Cryno. Mr. Digyfiro. GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. I DRos Y CARCHAROR. Mr. Gwladgarwr. Mr. Uchelgais. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Masnach. Mr. Lien Cymru. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig Mr. Lien). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor. Mr. Lien. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. f'f VJARUHABUR. Drc SION DAFYDD. JRHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. (Parhad), Mr. Gwladgarwr. Heddgeidwad Gor- selog Mr. Clir-ei-lais. Gor-selog Gor-selog! TYST VII. HEDDGEIDWAD GOR-SELOG. Mr. G. Yr ych yn Heddgeidwad yn y Pentre ? Hedd G. Ydwyf. Mr. G. Ar yr wythfed o Fedi danfonwyd am danoch ? Hedd G. Do; ar yr wythfed o Fedi o'r flwyddyn hon eis i Balas Ymffrost i gymeryd y carcharor i'r ddalfa. Beth ddigwyddodd pan aethoch yno ? Hedd G. (yn tynu llyfr allan o'i logell). Dywedais wrtho fy mod yn ei gymeryd yn rhwym ar gyhuddiad o glwyfo Mr. Cymraeg gyda'r bwriad o'i lofruddio, a rhybuddiais ef y defnyddid unrhyw beth a ddywedai yn ei vrbyn ar ddydd y prawf. Mr. G. A beth atebodd ? Hedd G. Dywedodd ei fod yn falch fod Mr. Cymraeg wedi cael ei ddolurio, fod Mr. Cymraeg yn elyn iddo ef ac i'r wlad, ac wedi gwneyd ei oreu i'w ddirmygu a'i sarhau ar goedd yr ardal a'r wlad. Mr. G. A fuoch yn Heol Rhagfarn ger llawlr ty ? Hedd G. Do. Mr. G. A gawsoch afael mewn rhywbeth yno? Hedd G. Do; yn agos i'r fan lie codwyd yr erlynydd cefais y gyllell hon. (Yn dangos y gyllell). Mr. G. Dyna'r gyllell ddangosoch i'r er- lynydd ychydig amser yn ol ? Hedd G. Ie, syr. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Mr. Ucbelgais. A ddywedodd y carcharor ddim yn rhagor ? Hedd G. 'Dwyf fi ddim yn cofio iddo ddy- -weyd rhagor. Mr. U. Ddywedodd ef ddim i Mr Cymraeg ei alw yn fradwr ? Hedd G. Do, mi ddywedodd- Mr. U. Dynaddigon. Mr. Gwladgarwr. Gadewch i'r tyst orphen ei frawddeg. Mr. U. O'r goreu, ynte. Mr. G. Dywedodd iddo ef a Mr. Cymraeg ymrafaelio, i Mr. Cymraeg ei alw'n fradwr, ac iddo yntau ar hyny ymosod arno. Mr. U. A yw hyna ar eich llyfr ? Hedd G. Nac ydyw. Mr. U. Mae peth o'r siarad ar y llyfr ? Hedd G. Oes. Mr. U. Pam nad ydyw'r cyfan yna ? Hedd G. 'Down i ddim yn tybied ei fod yn bwysig. [ Mr. U. A phwy ych chwi, syr, i bender- fynu drosto ei hun beth i adrodd a beth i beidio 'Rwy'n gwrthod gofyn rhagor i'r tyst hwn, ac yn gofyn i'ch arglwyddiaeth i'w gym- eryd mewn llaw. Y Barnwr. Rhaid i mi gyffesu fy mod wedi fy syfrdanu wrth glywed y tyst hwn. Mae wedi ymddwyn yn flfol, yn anheg, ac yn answyddogoL Buasai ei drosedd yn fawr dan unrhyw amgylchiad; pan mae rhyddid dyn yn cael ei bwyso yn y glerian, mae ei drosedd yn felldigedig Mae ei ymddygiad yn warth ac yn gywilydd i'r holl lu Ni ddylid celu gair a syrthiodd dros wefusau'r carcharor pan gymerwyd ef i'r ddalfa, pa mor ddistadl bynag yr ymddengys. Ein dyledswydd ni yma, ac nid y Cwnstabl, yw penderfynu a yw o bwys neu beidio. (Gan droi yn sarug at yr Heddgeidwad), Ewch o'm gwydd, cyn i mi eich danfon i garchar. 'Rwy'n tynghedu yr aw- durdodau i gymeryd eich ymddygiad i'w hystyriaeth ddifrifol. (Heddgeidwad Gor-selog yn ymlusgo ymaith). Mr. Gwladgarwr. Dyna'r achos dros yr erlynydd, fy Arglwydd. Mr. Uchelgais. Gyda chaniatad y Llys, nid wyf yn bwriadu gwneyd anerchiad yn y cyfwng hwn, ond cadwaf yr ychydig sylwadau yr wyf am wneyd hyd nes y cawn wybod yr oil o'r dystiolaeth. Y Barnwr. Fel y mynoch, Mr. Uchelgais. Mr. U. Yna galwaf ar fy nhystion ar un- waith. Mr. Masnach! Mr. Clir-ei-lais. Mr. Masnach Mr. Masnach! TYST I. MR. MASNACH. Mr. U. Yr ydych yn adnabod y carcharor, Mr. Masnach ? Mr. Masnach. Ydwyf yn dda. Mr. U. A Mr. Cymraeg ? Mr. M. Nis gallaf ddyweyd i mi gael adnabyddiaeth drylwyr o hono erioed. Yn wir, mae ei olwg mor wladaidd a'i ymddygiad mor anfoesgar nas gweddai i wr o'm sefyllfa gymdeithasol i fod fod yn rhy gyfarwydd ag ef. Mr. U. A ddywedech chwi fod Mr. Cym- raeg yn wr addfwyn ? Mr. M. (yn wawdlyd). Addfwyn, syr? Un o'r bobl fwyaf tymherus a gyferfum erioed! Eto, yr cedd yn dwyllodrus yn ei dymher. Weithiau goddefa bob anfri a sarhad a deflir arno yn dawel brydiau ereill bydd y gair lleiaf yn ddigon i enyn ei natur boeth yn fflam losgedig. Mr. U. A welsoch chwi'r carcharor ag ef gyda'u giiydd ? Mr. M. Do; ambell waith. Yr oedd y carcharor yn treio bob amser ei osgoi, a llawer gwaith y siarsiodd fi i beidio gwneyd dim ag ef. Mr. U. Paham y cynghorai hyny ? Mr. M. Dywedai fod Mr. Cymraeg yn cael dylanwad niweidiol iawn ar yr oil o'i gyfeillion, ei fod yn rhwystr ar ffordd eu llwyddiant, ei fod yn anfoddlon i'w gweled yn codi yn y byd, a'i fod yn eu hanalluogi i droi yn safleoedd uchaf cymdeithas. Cynghorodd fi i beidio gwneyd dim rhagor o Mr. Cymraeg nag a fuasai'n gymhorth i mi i wneyd arian ar ei gefn. Mr. U. Pan gyfarfyddai'r ddau a'u gilydd, pa fodd yr ymddygent ? Mr. M. Byddent bob amser yn ffraeo a'u gilydd. Nid cynt y clywai Mr. Cymraeg y carcharor yn siarad nag y dechreuai ei wawdio, a'i gyhuddo o aniolchgarwch a ffol- ineb a phethau cyffelyb. Mr. U. A beth wnelai y carcharor ? Mr. M. Fel rheol, amcanai osgoi Mr. Cymraeg; ond os methai yna ni wnai ond chwerthin ar ben geiriau enllibus ac ymddyg- iad ffol yr erlynydd. Mr. U. Diolch i chwi, Mr. Masnach. (Mr. Uchelgais yn eistedd). Mr. Gwladgarwr. Aroswch ychydig, Mr. Masnach, mae genyf finau un neu ddau gwestiwn i'w gofyn. Mr. M. Un neu ddau cant, os mynwch. Mr. G. Byddaf yn hollol foddlon, Mr, Masnach, os caf atebion gonest i'r un neue ddau. 'Rwy'n meddwl i chwi wahardd eich siop i Mr. Cymraeg ar rai adegau ? Mr. M. Do; pan oedd yn gwneyd ei oreu yn fy erbyn. Mr. G. Yn gwneyd ei oreu yn eich erbyn Pa brawf sydd genych, syr, dros wneyd y fath gyhuddiad ? Mr. M. Wel, syr, felly y clywais gan y carcharor, a Mr. Rhith-Gwareiddiad, a Dr, Rhagfarn ddegau o weithiau. Mr. G. A dyna'r prawf sydd genych- aie ? Ai ni ddywedodd y carcharor wrthycfe hefyd fod yr erlynydd yn elyn i Mr. Gwar- eiddiad ? Mr. M. Do. Mr. G. Chwi glywsoch beth ddywedodd Mr. Gwareiddiad heddyw ? Mr. M. Do. Mr. G. Pa fodd y gallwch gysoni y ddau ddywediad ? Mr. M. Nis gallaf fi eu cysoni. Mr. G. Ai nid ydych yn credu i'r erlynydd gael ei gyhuddo ar gam ? Mr. M. Ymddengys yn debyg. Mr. G. Ac os felly, y carcharor sydd wedi; dwyn cam-dystiolaeth yn ei erbyn ? Mr. M. Ie. Mr. G. 'Nawr, Mr. Masnach, os dywed- odd y carcharor anwiredd yn un peth, ai nid yw yn debygol ei fod wedi eich twyllo wrthè ddyweyd fod Mr. Cymraeg yn elyn i chwi ? Mr. M. Mae hyny yn bosibl. Mr. G. A adwaenech chwi y diweddar Mr. David Davies, Llundain ? Mr. M. Adwaenwn efe fu un o'm cyn- rychiolwyr mwyaf llwyddianus yn y wlad. Mr. G. Yr oedd efe a'r erlynydd ym ffryndiau mawr ? Mr. M. Oeddynt. Mr. G. Chwi wyddoch hefyd am fasnach- wyr Llundain, fod llawer o honynt yn ddeil- iaid i Mr. Cymraeg ? Mr. M. Gwn. Mr. G. 'Rwy'n gobeithio y dengys hyn fa chwi nad yw'r erlynydd erioed wedi bod ync elyn i chwi. A glywsoch chwi Mr. Cymraeg erioed yn cynyg ymgymodi a'r carcharor ? Mr. M. Do, mi ai clywais. Mr. G. Beth oedd ateb y carcharor ? Mr. M. Fy Arglwydd, a oes rhaid i ms ateb hwn ? Y Barnwr. Oes, os nad ydych am eich carcharu am ddi-ystyru'r llys Mr. M. Wei, syr, pallu wnaeth, gan eis alw'n falldod gwlad, yn rhwystr ar ei ffordd, ef a'i gyfaill Mr. Rhith.Gwareiddiad, ac n2t. fyddai gobaith am yr ardal cyn cael gwared am byth arno ef. Mr. G. Pa bryd y cymerodd y siara(& hyn le ? Mr. M. Ychydig cyn helynt yr wythfedt o Fedi. (Mr. Gwladgarwr yn eistedd). Mr. Uchelgais. Yr ych yn ffryndiau mawr a Mr. Saesneg, Mr. Masnach ? Mr. M. 0, ydwyf: fy ffrynd goreu yn y byd yw efe. Mr. U. Ac fe glywsom fod Mr. Saesneg a'r erlynydd yn berthynasau. A ddywedodd Mr. Saesneg wrthych erioed rywbeth am yr erlynydd ? Mr. M. Do; mai efe oedd fy ngelyn? gwaethaf yn y wlad hon. Mr. U. Dyna ddigon, diolch i chwi, Mr. Masnach. Y Barnwr. Un gair, dyst. A fygythioddl Mr. Cymraeg chwi erioed. Mr. M. Dim yn fy ngwyneb, fy Ar- glwydd. Y Barnwr. Casglaf nad ydych chwi ac, yntau ddim yn adwaen eich gilydd yn dda iawn. Ar b'un mae'r bai am hyn arno ef neu arno chwi ? Mr. M. 0, f' Arglwydd, mae'r erlynydd fel llawer ereill wedi gwneyd ei oreu i'm had- nabod yn well, ond mae'n rhaid i wr yn fy sefyllfa i dynu'r llinell yn rhywle. (Mr. Masnach yn ymadael). (I'w barhau.)