Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
LLYFRAU NEWYDDION.
LLYFRAU NEWYDDION. DAU ARWR CENEDL. Oes gan y gorphenol garw ei wersi i ni? Ac, a yw hanes yr arwyr a fu yn rhoddi ysbrydiaeth ynom i ymladd brwydrau'r dy- iodol ? Dyddiau blinion yw y rhai'n, ac ni fu adeg ericed yn ein hanes gyda mwy o angen am arweiniad na phan y gwelid peb eg- wyddor o iawnder a phob dyhead cenedl- aethol yn cael eu llethu gan drais galluoedd a chenedloedd cryfach na ni, a chredwu nad oes dim a'n parotoa yn well i'r gad nac as- tudio hanes yr arwyr a'r amseroedd a fu, a diolchwn yn gynes am ddwy gyfrol amserol a ddylai gael darlleniad helaeth gan bob un sydd wedi ei drwytho a chenedlaetholdeb yr hil Geltaidd. I bob Cymro sy'n ymhytrydu yn awyrgylch rhyddid, ac yn mwynhau bendithion golud- oedd ac addysg ei wlad, nid oes enw a ddylai gael mwv o barch ganddo nag enw HENRY RICHARD-blaenffrwyth ein bywyd gwerinol, ac i'r Gwyddel twym-galon pa enw sy'n enyn mwy o swyn na choffa am HENRY GRATTAN, ac y mae jmddargosiad dwy gyfrol ar y ddau Henry, o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd, yn ffaith amlwg fod y cenedloedd bychain hyn heb anghofio eu dyledion arbenig i arwyr yr oesau o'r blaen, ac yn sicr y mae'r ddau Henry yn hawlio lie blaenaf ein hed- tnygedd. HENRY GRATTAN. Dyma'r gwr a osododd seiliau rhyddid i genedl orthrymus y Gwyddel, ac y mE, e darllen hanes ei wrhydri dros les- iant ei wlad yn darllen fel penod o ramant, ac mae awdwr y gyfrol fechan hon wedi llwyddo i osod o flaen y darllenydd Seisnig ei hanes mewn diwyg hynod o ffafriol. Traethawd beirniadol yw a enillodd y "Gladstone Prize ym Mhrifysgol Rhydychen y flwyddyn hon, a da y gwnelai rhai o lywiawdwyr ein Prifysgol ni pe gallasent weithiau ddod o hyd i rywbeth tebyg i hyn ymysg gweithiau ein hefrydwyr cenedlgarol a dysgedig. Yn y penodau hyn rhoddir gwelediad clir o gyflwr y genedl o'r ochr draw i f6r Gwerddon ar derfyn y ddeunawfed ganrif, ac y mae cael cipdrem ar hanes Senedd Grattan yn anheb- gorol angenrheidiol i'r sawl bynag a hoffa wybod dim am y pwnc Gwyddelig, ac am eu hawliau i Ymreolaeth yn arbenig. Adeg gythryblus oedd hi ar yr Iwerddon pan aeth Grattan i fewn i'r Senedd yn ddyn ieuanc addawol, naw ar ugain oed, yn y flwyddyn 1775 ond er mor flin ydoedd pethau yno, yr oedd yn waeth yn yr America. Yr oedd anghydweliad rhyngom a'r talaethau, a chyn pen ychydig amser torodd y rhyfel allan a fu'n achos i ni golli meddiant o'r tiroedd tu- hwnt i'r Werydd. Pan oedd y cyfyngder yma ar Loegr, manteisiodd yr Iwerddon arno, a thrwy allu a chraffder Grattan caed llawer iawn o welliantau pwysig. Er hyn i gyd, ni lwyddwyd i liniaru gorthrymderau yr ynys, ac ar wahan i feichiau llethol mewn ffurf o dreth- oedd yr oedd y lie wedi ei drwytho a phob budreddi politicaidd a'r rhaglawiaid Seisnig o dro i dro wedi llwyddo i ddyrchafu pob math o gymeriadau ariancg ac anfoesol i fod yn fath o lywiawdwyr ar ylle. Y mae'r brwydrau gafodd Grattan yn eibyn y llwgrwobrwywyr hyn, yn benodau gwerth eu hastudio, ac ant ymhell i gyfrif paham y collodd yr Iwerddon ei Senedd yn 1800. Yn ystod y chwarter canrif y bu Grattan yn y Senedd llwyddodd i enill llu o fesurau bendithfawr i'w wlad. Efe oedd y gallu cryfaf a welodd o blaid iawnder cenedlaethol, ac fel areithydd, diau y saif yn ddigymhar yn rhestr enwogion ei wlad. Caed prawf eglur ar hyn pan ddaeth i Westmins- ter yn 1805. Bu yn anerch y Ty Cyffredin droion, a hyny pan o< dd cewri areithyddol yn y lie, ond cyfrifir Grattan fel yn ben arnynt oil. Bu farw yn 1819 ar ol oes galed a gweithgar, a choffheir ei enw tra bo son am hanes yr Ynys Werdd. Pryner y llyfr hwn ar bob cyfrif. HENRY RICHARD. Dyma arwr mawr y Cymry yn y ganrif o'r blaen. Er wedi ei gladdu oddiar 1888, eto, dyma'r cofiant Cym- raeg cyntaf a wnaed am dano Rhyfedd fel yr esgeulusa Cymru ei phlant. Mae dau gofiant Seisnig wedi ymddangos er's tro, ond Henry Richard, fel y gwelai y Saeson ef, geir yn y ddau hyny, ond yn awr, gan mai Cymro sydd wedi bod wrth y gwaith y mae gobaith am welediad arall arno, neu o'r hyn leiaf fe ddylai fod. Un o blant y genedl oedd Henry Richard-mab i bregethwr gwledig yng Ngheredigion-eto, esgynodd i'r anrhyd- edd uchaf yn y Senedd fel ei cyfrifid ef yn gy- ffredinol fel" Yr aelod tros Gymru." Efe oedd y llais a dorodd allan yn hyglyw ar ran y genedl pan oedd tirfeddianwyr y wlad yn erlid eu tenantiaid am bleidleisio dros eu heg- wyddorion, ac am y brwydrau lluosog a ym- laddodd ar ein rhan dylai cenedl y Cymry gadw ei goffa byth yn wyrdd. Nis oes dis- gwyl cael cofiant manwl i wr mawr fel hwn o fewn rhyw dri chant a haner odudalenau,eto, diolch i'r avdvtr am gipdrem ddarllenadwy iawn am y gwr a anghofiwyd cyhyd. Gob- eithio, er hyny, y cyfyd rhyw hanesydd yn man a wna gyfiawnder ag ef ac y caiff Cymru gyfrol deilwng o'r hwn a wnaeth gymaint drosti ar ddechreu ei deffroad gwleidyddol- [HENRY GRATTAN by P M. Roxby: T Fisher Unwin, Paternoster Square, Llundain. Pris, 3s 6c net.] [HENRY RICHARD, ei fywyd a'i waith gan Eleazar Roberts. Hughes a'i Fab, Gwrec- sam. Pris, 3s 6c.]
Advertising
Castle Street Mutual Improvement Society. Session 1902-1903. President, T. HINDS, ESQ. THE SECOND EVENING CONCERT Of the above Society will take place SATURDAY, DECEMBER 13th, 1902. Chairman: DR. EVAN JONES. ARTISTES- Miss SARA DA VIES, Miss GWENNIE WILLIAMS, Miss MOLLIE OWEN (Aberystwyth) (First appearance in London), MR. SETH HUGHES, MR. JOHN SANDBROOK, Elocutionist: MR. D. EGRYN OWEN, Solo Violinist: MB. PHILIP LEWIS, Accompanist: MR. MERLIN MORGAN. Doors open 7.30. Concert commence 8 p.m. Admission by programme, one shilling. To be obtained of John Owen, 36, King Street, Camden Town (Musical Sec.), orD. H. Trehaine, Wharncliffe New Villa, Southgate (General Sec). HARECOURT CHAPEL (ST. PAUL'S ROAD, CANONBURY). NEXT SUNDAY (DECEMBER 14th), 11 and 7, REV. H. ELVET LEWIS EVENING—MUSICAL SERVICE: GAUL'S "HOLY CITY," I Heb Genedlaetkoldeb, heb Gelf, heb Hanfod- aeth, heb Fywyd, heb Ddim." CYMDEITHAS Y BRYTHONWYR (SEFYDLWYD CHWEF. 1901.) CYMDEITHAS WERINOL I DDATBLYGU CYMREIGAETH. Cynhelir Cyfarfodydd y Gym- deithas hon YN 63, Chancery Lane, (ARBITRATION ROOM) Am 8 o'r gloch yn brydlon, Am fanylion ynghylch Aelodaeth, &c., ym- oheber a'r Y sgrifenyddion, Mr. J. WINTON EVANS, 98, Marlborough Road, Brompton Road, S.W. Mr. G. GRIFFITHS, 42, King's Road, Chelsea, S.W. RHAGLEN Y TYMHOR 1902-3 Rhagfyr n.—"Eben Jones" Mr. T. J. HOOSON, M.A. 1903 Ionawr 8.—" Islwyn Mr. T. J. THOMAS, B.Sc. (Sarnicol). „ 22.—" Cymreigaeth mewn Gwleidydd- iaeth D. LLOYD-GEORGE, Ysw., A.S. Chwef. 5.—Einhiaith, ein gwlad, a'n cenedl" Mr. T. JENKINS. „ 19.—" Y Cymro oddicartre Parch. J. MACHRETH REES. Maw. 5.—" Gerald Gymro, a Chymreigaeth yn y I2fed ganrif." Mr. D. REES, M.A. „ 19.—" Morgan Llwyd J. H. DAVIES, Ysw., M.A. Ebrill 2.—" Cipolwg ar bensaerniaeth y Cymry yn y prif, a'r canol oesoedd." Mr. R. WILLIAMS, F.R.I. B.A,, L.C.C. „ 16.—" Beirniadaeth lenyddol yng Nghymru." Parch. H. ELFED LEWIS. 30. Cymru ar drothwy'r diwygiad' Parch. F. KNOYLE, B.A. CYHOEDDIADAU Y GYMDEITHAS. 1. "Ymneillduaeth a Bywyd Cenedlaethol Cymru." Gan y Parch. J. MACHRETH REES 2. Cenhadaeth Cymru." Gan W. LLEWELYN WILLIAMS, Ysw., B.C.L. 3. "Talhaiarn." Gan TREBOR ALED. 4. Y Cymro Llenyddol." Gan y|Parch. J. MACHRETH REES Pris ic. yr un. Y 4 drwy y post 6c. Oddiwrth yr Ysgrifenyddion, neu o SWYDDFA'R CELT, 211, GRAY'S INN ROAD, LONDON, W.C.