Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

CYNGHERDD TEIFY DAVIES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHERDD TEIFY DAVIES. NOSON 0 GAN YN BECHSTEIN HALL. CYDNABOD TALENT DDYSGLAER. Yn y rheng flaenaf o'n cantorion cenedl- aethol heddyw, saif enw Miss Lizzie Teify Davies. Nid heb ei deilyngu, ychwaith, y mae wedi enill y fath safle, oherwydd ychydig iawn yw nifer y rhai sydd wedi gweithio mor galed ac wedi ymladd y fath lu o anhawsderau a hi ym myd y gfan, ac wedi eu gforchfyg-u oil yn anrhydeddus. 0 fod yn gantores fechan ar lanau y Teifi i enill parch ac edmygedd y byd Seisnig-a hyny heb gynorthwy dylanwadau cymdeith- asol, sydd fwy nas cyfrifir yn gyffredin; oherwydd nid yw talent, bob amser, yn cael ei mawrygu oni bydd yno yni a gweithzarwch o'r tu ol iddi hefyd. Llawenydd, gan hyny, oedd genym weled y fath gynulliad parchus wedi dod ynghyd i'r Bechstein Hall nos Wener diweddaf, i dalu teyrnged o barch i'r gantores hygar hon; a sicr yw fod pawb, hefyd, ar derfyn y wledd, wedi cael cyflawn dal am y noson, oherwydd rhaid addef fod Teify wedi mwy na chadw ei safle gerddorol ar y noson hon. Nid oedd ganddi ond un cynorthwywr lleisioI, sef Mr. Frederick Ranalow (a chanwr digon da ydoedd hefyd), a Miss Amy Llewelyn Toms fel offerynydd a phob yn ail a'r rhai hyn, caed gan Teify i roddi rhyw bymtheg o ddarnau t Gwarchod ni, meddem, pan wel- som y rhaglen ar y dechreu, a yw'r ddynes wedi colli? Ond, caed cyn y diwedd fod Miss Davies mor ffres a byw fel y gallasai ail-ddechreu ar y rhestr eilwaith! Afraid fyddai rhoddi beirniadaeth, ond yn sicr gellid canmol pob darn a roed ganddi, ac ar ol hyn ni fydd wiw rhoddi esgus nas gall ganu encdr ar ol rhyw un don fel y myn rhai o'n cantorion tawel Cymreig. Er's cryn amser, bellach, mae Miss Davies wedi dyddori ein cyngherddau Cymreig a'i thalentau disglaer, a sicr yw nas anghofir hi bcHach yn ein huchel wyliau. Trueni o beth ein bod yn ami yn gadael i Saeson i ddar- ganfod talentau ein gwlad, yn hytrach y ni a ddyiasem eu noddi a'u rn,e\thrin, a phan bo un yn barod i lynu wrthym, dylem ninau fod ar ein goreu i'w cefnogi hwy. b Da genym weled hefyd fod Teify heb ang- hofio ei chymwynaswyr cyntaf, eithr cyme r gryn ddyddordeb yng nghaniadaeth y Cymry. Eleni gwnaed hi yn bencerddes yng Ngorsedd y Beirdd ym Mangor, a sicr na haeddodd neb erioed o hil y gan y teitl yn well. Nid yn unig y mae yn gefnogydd parod i'n caneuon, eithr hefyd ni chaed yn ein plith neb mwy parod i roddi help Haw, a llais hefyd, pan fo rhyw fudiad dyngarol neu genedlaethol ac angen cynorthwy arno. Gyda'i gwen hapus a'i chalon agored a'i natur lawen Gymreig, y mae wedi gwneyd canoedd o gyfeillion ar hyd a lied Cymru, a 'does bardd dibriod o Fynwy i Fon, nad yw eisoas wedi englynu iddi englynion serch yn ddiri heb son am y tri mesur ar hugain ereill. Er hyn oil, pirhau i ganu mae'r Bencerddes Mai golud pob merch ifanc Yw ei dewis ar ei Haw." Boed iddi hir oes i ddyddori ei chyd-ddynion &'i thalentau disglaer.

CoMail y Diweddar T. E. Ellis,…

Advertising