Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CYMRU A'R MESUR ADDYSG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'R MESUR ADDYSG. Erbyn hyn gellir ystyried y Bil Addysg yn Ddeddf, oherwydd byr fydd ei arosiad yn Nhy'r Arglwyddi, a phrin y credwn y bydd y cyfnewidiadau o un pwys y naill ffordd na'r llall. Hwyrach y gwneir rhai man welliantau, ond ar y cyfan gellir ystyried y cyfan fel wedi ei benderfynu. m » Y pwnc nesaf fydd pa fodd y mae Cymru yn myn'd i weithio y Mesur. Dylai ar bob cyfrif fanteisio ar bob adran a gallu a roddir drwyddo. Rhaid i'r Cynghorau Sirol fod yn j fyw yn awr ar y cychwyn, a gobeithio y gwna pob Ymneiliduwr ei oreu i gadw y bobl yn effro i'w dyledswyddau er gorfodi yr Aelodau i benodi personau cymwys ar y pwyllg'orau lieol. Nid ar unwaith y ceir n wyddiant, ac nid oes disgwyl y gweiir pob peth ynglyn a'r gwaith yn hwylio'n Hawen, ond y mae gan Gymru fantais nad oes gan y I Saeson ddim cyffelyb iddi. Mae'r wlad drwyddi yn Ymneillduol, ac os oes yna bosibl- rwydd i Anghydffurfwyr o gwbl i sicrhau eu buddianau, dylid ar bob cyfrif ei wneyd yng Nghymru, oherwydd gellir cymeryd yn gan- iatol y gofala Eglwyswyr Loegr ar bob smic ynglyn a'u heiddo hwy. Yr ydym eisoes fel gwlad wedi dangos sut y gellir cario allan gynllun addysg ar linellau llwyddianus, ac os llwyddasom ar yr ysgolion canolradd, sicr yw y gellir llwyddo o dan y cynllun presenol. I'n tyb ni credwn mai mudiad doeth oedd gosod boll addysg y wlad o dan yr un reolaeth, ac mai gwegi yw cwynion y Byrddau canolog yna, a gyhuddant Syr Alfred Thomas am ei waith. Mae'r mesur bellach ar ddod yn Ddeddf, ac os oes daioni ynddo, wel, bai Cymru fydd os na ddaw a'r daioni hwnw yn amlwg.

Bgd y --A It I ,A-Gan.