Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Byd U A R fl.Gan. u

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd U A R fl. Gan. u Gan PEDR ALAW. [« PENDENNIS," LOUGHTON.] Miss FRANCES REES. Cyn y bydd yr ysgrif hon mewn print bydd y gerddores hon wedi dechreu cerdded ffordd newydd ar ei gyrfa gobeithio y caiff fesur helaeth o hapusrwydd ac y bydd y gan" yn y cywair lion bob amser. Yn ei chysylltiad a King's Cross, nis ang- fcofir ei chariadus lafur fel organydd. Bu yn y swydd hon am flynyddoedd ac yn bur ffydd- lawn bob amser. Ond gyda chor y Kymric yr enillodd enwogrwydd; a chredwn na ddarfu i gor Cymreig Llundeinig erioed ymenwogi gymaint a hwn. Bydd y ffeithiau canlynol yn ddigon o gadarnhad o hyn: Yn y flwyddyn 1895, gwnaeth pyyllgor Eisteddfod Undeb Ysgolion yr Anibynwyr Cymreig gynyg ar gynllun newydd mewn cystadlu dewisasant gydgan i gor merched. Penderfynwyd ffurfio cor yn y Tabernacl, King's Cross, gyda'r amcan o gystadlu. En- wyd ef, Cor Merched Gwalia" (" The Gwalia Ladies' Choir") a Miss Rees yn arweinydd. Enillodd y cor y wobr. Bu yn Uwyddianus befyd ymhob un o'r naw cystadleuaeth ddi- lynol yr ymgeisiodd ynddynt yn Llundain! Am hyn, anrhegodd yr aelodau Miss Rees a baton hardd. Wedi hyn, penderfynwyd eangu terfynau gweithrediadau y cor. Ychwanegwyd ato, gyda golwg ar gystadlu yn Eisteddfod Llan- dudno, a rhoddwyd iddo yr enw," The London Kymric Choir." Yn yr ymdrechfa yn Llan- dudno daeth y cor allan yn ail-oreu, a mawr oedd y ganmoliaeth a gafodd am ei ganu godidog. Wel, ar ol hyn, naturiol ydoedd ymgeisio am y brif wobr-yr hyn a wnaed ymhen dwy flynedd wedi hyny, yn Eisteddfod Genedl- aethol Ffestiniog; a'r pryd hyn syrthiodd y brif wobr i ran merched Llundain, ynghyda bathcdyn aur i'r arweinydd. Dyma'r tro olaf i'r cor gystadlu, a bellach ymroddodd i ganu mewn cyngherddau. Ym- ddangosodd yn yr Albert Hall, y Queen's Hall, St. James's Hall, ac mewn cyngherddau mawrion yn y wlad. Hefyd, rhoddwyd amryw o gyngherddau-yr aelodau yn cyfranu yr alawon, &c. Mewn un tymhor, rhoddwyd deg ar ugain o gyngherddau. Ym mis Awst, y flwyddyn ddiweddaf, rhodd- odd y cor ddeuddeg o gyngherddau yn Plymouth, a mawr ydoedd canmoliaeth pap- yrau y dref bwysig hono i ganu y cor. Bellach, gan y bydd yr arweinydd yn ym- gartrefu yng Nghymru, tebyg na cheir clywed y cor hwn mwyach. Os felly, da genym ddeall ddarfod i'r aelodau addaw ymuno a chor yr Wyl Gerddorol Gymreig. Bydd eu lleisiau rhagorol yn gaffaeliad mawr i'r cor newydd- Miss GWLADYS ROBERTS. Sylwasom ar ganu rhagorol y ferch hon yn Stratford amser byr yn ol. Y mae newydd enill y Madam Sainton- Dolby Prize yn yr Athrofa Frenhinol. Yn sicr, y mae llawer o lwyddiant eto yn ei haros. Miss TEIFY DAVIES. Gwelwn oddiwrth bap- yrau lleol Abertawe fod y gantores boblogaidd bon wedi cael derbyniad bynod o groesawus yno mewn cyngherdd mawr a roddwyd yn yr Albert Hall, nos Iau cyn y diweddaf. Dyma'r tro cyntaf iddi dalu ymweliad a'r dref, mae'n debyg; ond y mae yn eglur, oddiwrth ym- ddygiad y gwrandawyr, y bydd raid ei chael yno yn ami ar ol hyn. Gorfu iddi ganu, ac ail ganu ac eto, ni foddlonwyd y dorf, eithr galwasant ami wedyn, Y mae Miss Davies i'w llongyfarch ond y syndod yw, fob pobl y Sowth heb ganfod ei thalentau dysglaer hyd yn hyn. Hwyrach, wedi iddi enill safle bwysig ymysg y Saeson, y cydnabyddant hi. Dyna ein hen arferiad ni'r Cymry.

Braslun 0 Adgofion Cymreig…

Bwrdd'y 6 Celt.'