Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Os oes llawer o galedi a thylodi yn ffynu ymysg ein gweithwyr a'n pobl gyffredin, y mae yn gynbauaf bras er's rhai wythnosau bellach ar brif gyfreithwyr Prydain. Mewn dau neu dri o achosion —ac yn enwedig yn helynt y Taff Vale yr oedd miloedd o bunau bob dydd yn cael eu gwario rhwng gwyr y cwils. Un o ryfeddodau Llundain yn ystod y gauaf a'r gwanwyn fydd presenoldeb Buffalo Bil yr Americanwr. Gwyddis am ei arddangosfa enwog, a sicr y daw pobl o bell ac agos i'w weled eto. Bydd trens rhad yn dod o bob cyfeiriad i'r ddinas yn ystod ei arosiad yma. Os oes neb yn meddwl mai bywyd segur a gaiff ein haelodau Seneddol, y maent yn cam- gymeryd yn fawr. Gellir cael rhyw am- gyffrediad o'u llafur wrth glywed am nifer y llythyrau a dderbynir ganddynt yno bob dydd: Yn ystod y Senedd-dymhor diweddaf aeth cynifer a 2,563,564 o lythyrau drwy lythyrdy y Ty. Anfonwyd a derbyniwyd 54,354 0 bellebrau, a bu gwyr y wasg yn gyfrifol am 45,704 ychwanegol. Gwerthwyd i'r aelodau ac ereill yn y lie dros werth pedwar mil o bunau mewn stamps yn ystod y tymhor. Ar ol hyn pwy ddywed nad oes rhai o honynt yn gweithio yn brysur iawn. 0 dipyn i beth y mae Cymry yn enill yr holl fyd. Ar hyn o bryd y mae cenhadon ar ymweliad a'r Transvaal yn ymgynghori a'r awdurdodau yno o berthynas i gludo tua thair mil o Gymry Patagonia i ffurfio gwladfa arall yn Neheudir Affrica. Yn ol pob argoelion fe ganiateir eu cais, ac fe rydd y llywodraeth yn Llundain bob cynorthwy er eu cludo drosodd. Mae Arglwydd Milner yn ffafrfol iawn i'r mudiad o blaid eu dwyn i'r Transvaal. Dydd Llun diweddaf cyhoeddodd y Daily News gopi cyflawn o'r Ddeddf Addysg New- ydd, ynghyd a nodiadau manwl ary gwahanol adranau o hono. Dylai pob un sydd yn cym- eryd dyddordeb yn mhwnc addysg sicrhau yr eglurhad hwn, oherwydd y mae nifer o gyf- newidiadau wedi cymeryd lie yn y Mesur er pan ei dygwyd i fewn ar y cyntaf i Dy y Cyffredin. Teithio heb gerbydres fyddwn yn y man ac anfon negeseuon cyflym heb ddefnyddio gwifrau i'r pellebyr. Mae Marconi a'i ddyf- ais gelfydd eisoes wedi sefydlu nifer o orsaf- oedd ar draws y wlad a dywedir y byddis yn abl i anfon cenhadaethau ar draws y Wer- ydd cyn pen ychydig fisoedd. Rhyfedd mor gyflym yr ydym yn symud ymlaen; ac eto, cyfrifir nas ydym ond megis ar ddechreu tymhor o gyfnewidiadau na freuddwydiodd neb erioed eu bod o fewn cyrhaedd y gallu dynol. Saboth heddwch oedd y Saboth diweddaf yn Llundain, a chaed pregethau ar heddwch o brif bwlpudau y ddinas. Ond y fath hum- bug yw'r cyfan Yr ydym eto heb derfynu a helyntion y Transvaal, a chyn anghofio am y tywallt gwaed fu yno, wele ni yn ymdra- baeddu yn merw Venezuela, a'n harweinwyr yn gwaeddi am eu chwythu oil allan o fodol- aeth. Beth dal siarad am heddwch wrth wlad sydd yn yr ysbryd cwerylgar hyn byth a hefyd I