Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Byd y Gail.
Byd y Gail. MR. BEN DAVIES. Gwelwn fod ein prif denorydd newydd ddychwelyd ar cl taith hynod lwyddianus yn y u Neheudir Affrica. Cafodd dderbyniad tyw- ysogaidd yno, ac ymddengys iddo ganu yn ei hwyliau goreu ac nid yw'n syndod o gwbl genym ei fod eisoes wedi derbyn gwa- toddiad i ail-ymweled a'r Cape. Deallwn oddiwrth dystiolaeth Mr. Davies fod canu corawl rhagorol yn Cape Town, a pherfform- iwyd y gweithiau, The Golden Legend a Hymn of Praise meA r. dull rhagorol yno ar y 3ydd a'r 4ydd o Fai, o dan arweiniad Dr. T. Barrow-Dowling. Miss TEIFY DAVIES. Fel y gwelir, y mae y wasg Seisnig yn unfarn yn canmol gwaith Miss Teify Davies ar lwyfan Drury Lane yn ystod yr Wythnosau diweddaf yma. 0 dipyn i beth mae y gantores swynol Gymreig hon yn enill ei safle haeddianol yn y prif Operaon, a sicr y ceir clywed rhagor am dani yn fuan. MR. HENRY J. WOOD. Y mae'r cerddor a'r arweinydd enwog hwn Wedi gwne>d yn hysbys na fydd iddo ar- Wain yn Ngwyl Gerddorol Sheffield, 1905. Y rheswm am ei ymddiswyddiad o'r swydd hon yw ei gariad at ei waith yn y Queen's Hall, ac y mae wedi penderfynu llvvyr ym- roddi o'i holl amser at Gerddorfa'r neuadd !on, gyda pha un y cysylltir ei enw mor uchel a phoblogaidd gan baw b o garwyr y gan. DR. JOACHIM. Ymgynullodd cynulleidfa grvno o edmyg- Wyr y crythor enwog hwn i'r Queen's Hall, rai nosweithiau yn ol, i'r amcan o ddathlu jiwbili ei ymddangosiad cyntaf yn Lloegr. Er prysured yw ein Prifweinidog (Mr. Bal- four) y dyddiau hyn ynglyn a'i ddyled- swyddau Seneddol, gallodd fforddio amser i ddod i lywyddu ar y dathliad hwn ond, o ran hyny, onid yw ef yn gwir garu cerddor- iaeth ? Ar ol cyfeirio at ei hen ffrynd a'i gydysgolheigydd-Syr Hubert Parry—dy- *edai'r Prifweinidog: Wherever there are ears to hear, and wherever there are interpreters to interpret, there the joy "which music is capable 0 giving may be enjoyed, irrespective of nation, irrespective, I had almost said, but certainly untrammelled by the barriers of language. Yna aeth yn mlaen i dalu teyrnged i'r Dr., a chyflwyno iddo ei ddarlun. FRANZ VON VECSEY. Wrth ddathlu jiwbili y Dr. nid amhriodol fod crythor arall yn codi, sef Franz Von Vecsey—bachgen unarddeg oed, a brodor 0 r un wlad a'r Dr. Ganwyd ef yn Buda- Pesth, Mawrth 1893. Y mae'n synu pawb Syda'i grwth. Ie, yn synu hyd yn oed Dr. Joachim ei hun; a dyma ddywedai y gwr hwnw ar ol clywed y bachgen yn chwareu ar y crwth: I am seventy-two years of age, Jet never in my life I have heard the like; lever believed it were possible."
[No title]
Coffa canmlwyddiant genedigaeth Cobden y bu'r Rhyddfrydwyr ddydd Sadwrn di- weddaf, a chaed amryw gyfaifodydd pur *ew^rchus. Daeth dros ddeng mil ynghyd 1 Alexandra Palace, Llundain, i gadw ei enw mewn bri. Am athrodi y Glorian bu raid i'r Gloch dalu dirwy o ffyrling yn mrawdlys Meirion- yddyrwythnos ddiweddaf, Dau bapyr yn ardal Ffestiniog oedd y rhain, a pharodd eu enwau gryn anhawsder i'r bargyfreithwyr eisnig- oedd ar y cylch. 44 Gloryin' versus the **k>tsh oedd eu dull o'u henwi.
CARTRE' RHAMANT.
CARTRE' RHAMANT. Hed fy nychymyg i lan y mor, a disgyn ar draethell unig yn Ngheredigion. I lygad fy narfelydd cyfyd y creigiau oesol, muriau castell tragwyddol y ddaear, yn foelion a garw o'm blaen. Ar fy nghlust tyr dwndwr diderfyn y don o'm hoi, a gwawch anaearol y gigfran ymnytha yn encilfeydd y creigiau. Fry, ar y clogwyn moel, pawr y ddafad y borfa brin; ac am oesau meithion y mae'r bugail a'i gi, a'r ddafad a'r oen, wedi bod yr unig warcheidwaid y fangre henafol. Draw ar y don gwelaf long yn ei llawn hwyliau, yn diog nofio, fel g-wrthrych hollol anibynol ar amser a lie. 'Does adeilad yn y golwg, oddigerth magwyr unig gerllaw, a'i ffenestri fel llygaid ysgerbwd, ei do yn ganddryll, a'r tywod yn llanw ei aelwyd. Gwylan welw'r glanau ydyw weithian ei unig breswylydd. 0 ran yr olygfa o'm cylch gallai fod yn amser Dafydd ap Gwilym, a chaddug y Canoloesoedd eto'n gorphwys ar wyneb Ewrob. Yr oedd y graig, a'r ddafad, a'r wylan a'r llong yr amser hwnw ac efallai, hefyd, fod y fagwyr yn aros er dyddiau blinion yr Angau Du a rhyfeloedd gwaedlyd Iorwerth y Trydydd. Yn nghesail y graig gwelaf dwmpath cochwawr o binc y mor yn blodeuo'n firain, ac o dan fy nhraed y mae rhubanau cyfoethog y gwymon yn ymledu o gareg i gareg hyd y tywod melyn. Draw yn y pellderoedd, dros y weilgi las, cyfyd myn- yddoedd porffor Arfon eu penau hen, yn gywir fel yr oeddent pan ymladdai milwyr dewrion Llywelyn yn nghestyll anian Eryri. Ha, dyma'r olygfa welai Madog pan gych- wynodd ei longau ar foreu teg am lanau pellenig y Byd Newydd, dyma'r olygfa gyntaf yr Iberiad llygad-ddu gyntaf gyr- haeddodd lan mor dieithr y gorllewin cytrin. Drwy dreigliad diderfyn yr oesau erys y fan yr un. Murmura'r don yr anthem ddofn ddifrif a furmurai pan y tro cyntaf y cyd- ganodd ser y boreu; yr anthem dragw/ddol a glywir pan fo'r ddaear wedi crwydro fil- oedd o flynyddoedd hyd entrych y ffurfafen. Yn y fangre hon yr ydwyf yn mhresenoldeb ofnadwy'r anghyfnewidiol, a myfi mor ddar- fodedig. Yn y llanerch hyfryd gwrandawaf ar leisiau diddarfod y cread ardderchog a theimlaf yn barod i ogoneddu Awdwr fy mywyd am orig o fodolaeth mewn congl ddistadl o'r bydysawd gogoneddus!
Advertising
WILLIAM DAVIES, DAIRY & INSURANCE AGENT, 160, HIGH HOLBORN, W.O. filREMENDOUS genuine bargains, W., 22 Barns at JL 4d., little at 3d., large customers, 1 Round, Takings j616, low Rent, pay your deposit at once, Price JS475. S.W., 9 Barns at 4d., Takings £19, Price £ 195. Ditto, 81 Barns at 4d., Takings zC8, 2 Price J6160. Indoor Provision, beautiful Shop and House, long Lease, Takings between J680 and -290, guarantee jE80 in Butter and Eggs, £200 for quick sale. Another Shop with 8 Rooms, Rent £30, Takings £35, guaranteed price for sale at once, £120, or close offer. All the above are the greatest bar- gains possibly.
MARI'R FUWCH.
MARI'R FUWCH. Bywyd blin, helyntus gafodd Mari. Rhag ofn mai Mari yw enw cariad rhai o'r bech- gyn fydd yn darllen y CELT ac i minau gael blinder, prysuraf i ddyweyd mai buwch oedd y Mari hon a gadwai fy modryb yn Nghymru. Heblaw yr anfri o orfod gadael i'r plant ddefnyddio ei chynffon fel ffrwyn bu iddi lawer o helbulon rhy faith i'w hadrodd yn awr ni chyfeiriaf ond at un. Ar ol boreu oes hyfryd a thawel daeth, ni wyddai neb o ba le na phaham, Y DARFODEDIGAETH ati. Tra yr elai yn deneuach bob dydd, yr oedd ei llygaid mawr llonydd, a fyddai yn ddirgelwch dwfn i ni bob amser, yn fwy disglaer a bywiol. Perai ei hafiechyd ben- bleth dirfawr i ddoethion a meddygon ) r ardal, ac o'r diwedd penderfynwyd anfon am specialist o Lunden. Fe ddaeth y gwr mawr. Fe wnaeth arbrofion helaeth a manwl ac ar ol dyddiau o aros daeth ei Report i law, wedi ei ysgrifenu yn ddysgedig a manwl a dywedodd mai Darfodedigaeth oedd ar Mari. 44 Be'r andros" ebai Begw Ty'r Gongl, ydyw ffwlbri fel yna ? Be iws dod o Lun- den i ddeyd beth oedd pawb yn i wybod ? Fe wet pawb mai darfod mae'r fuwch druan. Buwch farus ydi hi. Buwch yn consumptio pobpeth yw, acy mae yn bwyta i chorff ei hun." Ni thalai neb lawer o sylw i Begw, am ei bod mor anwybodus ag oedd o dlawd. Ni wyddai ddim, ac mae'n debyg mai dyna pam y bvddai yn meddwl cymaint. Wel, ar ol i'r gwr mawr o Lunden ddod i Gymru, fe ddechreuodd y cym'dogion ofni y byddai Mari yn cael ei lladd a'i hanfon yn ddirgelaidd i'r bwtsheriaid ac y byddai iddynt hwythau gael yr afiechyd trwy ei bwyta. Fe ddechreuwyd amheu pob buwch trwy y wlad, a mawr oedd yr helynt am vaccinatio pob buwch a phob 116 ga'i ei eni, i geisio gwneyd i ffwrdd a'r pechod gwreidd- iol oedd wedi gafael yn nghorpws Mari yn ogystal ag yn enaid a dychymyg y ffermwr. Ar hyn fe ddechreuodd LLAETHWYR LLUNDAIN ofni tod eu masnach yn debyg o ddioddef, a beth ddarfu iddynt wneyd, meddai nhw, ond anfon breib fawr i ryw Mr. Coch o Germany, perthynas mae'n deb) g i Wyll- iaid Cochion Mawddwy gynt. Fe ddaeth hwnw i Lundain ac fe lwyddodd, trwy ryw gynllwyn o eiddo Llaethwyr Llundain, mae'n debyg, i gael darllen papyr o flaen y Royal Society ac fe ddychrynodd bobl ddysgedig Lloegr trwy ddyweyd nad oedd dim perygl i'r hil ddynol odHiwrth afiechyd Mari. Ffromodd y doctoriaid o achos yr oedd hyn yn golygu fod yna un afiechyd llai yn y byd a gwnai eu masnach yn llai. 'Doedd dim byw na marw na chaed ROYAL COMMISSION, gyda chyflog anrhydeddus. Fe rowd Mari mewn glass case' (rhag ofn iddi golli ei hafiechyd ar y ffordd) ac fe'i cludwyd i Lunden. Codwn len dros yr hyn a ddiodd- efodd Mari druan. Yn ffortunus fe ddarganfyddwyd yr amser yma fath o BOBL WYNION yn Nghanolbarth Affrica-" hiliogaeth Efa o'r gwr cynta galwai Begw hwy. Nodwedd y bobl yma oedd eu parodrwydd i ddioddef yn ddiderfyn er mwyn ereill, ac felly yn fath o 'antidote' i hunanoldeb diderfyn Mari. Wel, fe rowd gwaed Mari yn y bobl wynion yma a gwaed y bobl wynion yn Mari nes o'r diwedd prin oedd posibl gwybod pa un oedd y naill a'r Hall Pan glywodd Begw Ty'r Gongl am hyn yr oedd braidd yn ffafriol i'r peth o achos yr oedd yn hoffi Mari, ac yn dymuno am iddi gael adferiad hyd yn oed ar draul aberthu'r bobl wynion. Yr unig feddyginiaeth i wellhau baraeth hunanol Mari yw hunanaberth" meddai, ac ychwanegodd, "Y mae gwreiddyn pob af- iechyd yn yr enaid." Dilynwyd hyn a chwerthin cyffredinol. 44 Begw fach meddai Gwen yr Hafod— dynes addfwyn, dyner-" 'dydacb chi wirr ddim yn gwybod y pethau yma fel y dynion d)sgedig yna." Gwybod wir meddai Beg-w yn ffyrnig,, pa eisio gwybod ond yr hyn welwch chwi. Fedr holl ddysgedigion y byd wybod dim ond yr hyn a welant." Yr oedd Mari heb ddod yn ol o Lunden pan y bu raid i mi roi teriyn ar yr hanes presenol. GLASDWR.